Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Gorffennaf 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru wedi rhoi gwybod na fydd yn cynghori pobl eithriadol o agored i niwed yn glinigol i warchod eu hunain ar hyn o bryd, er gwaethaf cynnydd mewn achosion o’r coronafeirws yn ein cymunedau a llacio llawer o gyfyngiadau yng Nghymru.

Cafodd y cyngor i bobl eithriadol o agored i niwed yn glinigol i ddilyn mesurau gwarchod ei rewi ar 01 Ebrill 2021. Ers hynny, mae’r rhai ar y rhestr o gleifion a warchodir wedi’u cynghori i ddilyn yr un rheolau â dinasyddion eraill yng Nghymru. Fodd bynnag, dylent gymryd gofal ychwanegol i leihau eu risg o ddod i gysylltiad â’r feirws.

Mae llai o bobl yn gorfod mynd i’r ysbyty ac mae llawer llai o farwolaethau wedi bod o gymharu â thonnau blaenorol. Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru yn awyddus i sicrhau ein bod yn taro cydbwysedd rhwng y risg o niwed gan y coronafeirws a’r risg o niwed i iechyd meddwl pobl. Mae ef wedi dweud nad yw’n disgwyl y bydd angen iddo gynghori pobl i ‘warchod eu hunain’ eto yn y dyfodol, ar sail y dystiolaeth bresennol.

Fe fydd yna rai eithriadau, megis cleifion sydd wedi cael cyngor penodol gan eu clinigydd i warchod eu hunain. Mae’n debygol y byddent wedi cael cyngor o’r fath er gwaethaf y pandemig, a dylent barhau i ddilyn y cyngor personol hwnnw os cawsant eu cynghori i wneud hynny gan eu clinigydd.

Er nad yw’n ailgyflwyno’r cyngor i ddilyn mesurau gwarchod, mae Prif Swyddog Meddygol Cymru wedi cydnabod y bydd rhai pobl yn y grŵp hwn yn pryderu am y cynnydd mewn achosion. Bydd rhai pobl sy’n agored i niwed efallai’n teimlo’n bryderus am y lefel o ymateb i’r brechlyn yn eu hachos penodol nhw oherwydd bod eu system imiwnedd yn wannach na’r cyffredin. Bydd eraill wedi methu â chael y brechlyn oherwydd eu cyflwr meddygol. I roi rhywfaint o sicrwydd iddynt, bydd Prif Swyddog Meddygol Cymru yn ysgrifennu at bawb ar y rhestr o gleifion a warchodir. Mae cynnwys y llythyr ynghlwm wrth y datganiad hwn. Mae’r llythyr yn nodi gwybodaeth am effeithiolrwydd y brechlyn, gan annog pobl i fanteisio ar y cynnig i gael brechiad os nad ydynt eisoes wedi gwneud hynny. Mae’r llythyr hefyd yn pwysleisio bod cael y ddau ddos yn hollbwysig, ac mae’n rhoi cyngor ar sut i leihau risg bersonol. Yn ogystal, mae’n nodi’r mesurau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cadw fel gofynion cyfreithiol ar lefel 0. (Dyma’r lefel y mae Llywodraeth Cymru wedi’i nodi fel y lefel cyn agosed i normalrwydd ag yr ydym yn debygol o’i chyrraedd am gyfnod.) Mae disgwyl i lefel 0 ddechrau ar 7 Awst os bydd yr amodau’n ffafriol. Mae’r wybodaeth hon wedi’i chynnwys er mwyn i’r rhai sy’n gweld newyddion o gyfryngau’r DU wybod y bydd rheolau gwahanol mewn grym yng Nghymru ac y bydd mwy o fesurau diogelu yma.

Er nad yw Prif Swyddog Meddygol Cymru yn disgwyl gorfod ailgyflwyno mesurau gwarchod eto yn y dyfodol, rydym ar hyn o bryd yn cadw’r rhestr o gleifion a warchodir. Bydd pedwar Prif Swyddog Meddygol y DU yn parhau i adolygu'r rhestr gwarchod, ac mae’n bosibl y bydd rhai cyflyrau neu grwpiau yn cael eu tynnu oddi arni yn y dyfodol. Mae’n debygol mai plant fydd y grŵp cyntaf y bydd hyn yn effeithio arno, gan fod yna dystiolaeth sylweddol mai ychydig iawn o blant sy’n mynd yn ddifrifol wael neu’n marw o ganlyniad i haint y coronafeirws. Os bydd cynnwys y rhestr neu ei statws yn newid, byddwn yn ysgrifennu at yr unigolion dan sylw ac yn rhoi gwybod i’r Aelodau, fel yr ydym wedi’i wneud drwy gydol y pandemig. Rwy’n parhau i werthfawrogi’ch cymorth i’n helpu i gyfathrebu â’r grŵp hwn.

Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os bydd yr Aelodau eisiau imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.