Lesley Griffiths AS, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
Ddoe, fe gyhoeddodd Llywodraeth y DU ei phenderfyniad i symud ymlaen i sefydlu Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU a pheidio â chymryd camau pellach ar y Dreth Allyriadau Carbon. Dyma gam pwysig ac rwy’n croesawu’r eglurder y bydd hyn yn ei roi i gyfranogwyr y cynllun, ei reoleiddwyr a’i ddilyswyr. Mae hefyd yn golygu y bydd y cynllun yn cael ei lywodraethu fel fframwaith cyffredin ac felly bydd gan Weinidogion Cymru a’r Senedd ran ffurfiol wrth ddarparu’r polisi pwysig hwn.
Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU fydd y farchnad garbon fwyaf uchelgeisiol yn y byd, gyda chap sydd 5% yn is na system yr UE. Fodd bynnag, mae hon yn broses dau gam ac ar ôl derbyn cyngor gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, byddwn yn ymgynghori y flwyddyn nesaf ar gap diwygiedig sy’n cyd-fynd â’n huchelgeisiau sero net.
Mae’r Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 2020, a ddaeth i rym ar 12 Tachwedd, yn sefydlu'r cynllun masnachu o dan y gyfraith ac fe all rheolyddion a chyfranogwyr y cynllun wneud y trefniadau angenrheidiol yn awr i roi’r cynllun ar waith o 1 Ionawr 2021. Rwy’n bwriadu gosod deddfwriaeth bellach gerbron y Senedd ar 17 Rhagfyr, o dan y weithdrefn negyddol, i gynnwys darpariaethau yn ymwneud â chofrestru a dyraniad rhydd y lwfansau.
Yn anffodus, mae ansicrwydd o hyd ynghylch rhagolygon cysylltu Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU â Chynllun Masnachu Allyriadau’r UE. Rwy’n parhau i bwyso am gytundeb cysylltu fel rhan o gytundeb masnach ehangach gan ei fod yn amlwg er lles gorau pawb. Yn y cyfamser, byddaf yn gweithio gyda’m gweinidogion cyfatebol ar draws y DU i symud ymlaen i weithredu Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU fel system annibynnol y gellir ei chysylltu mewn amser.