Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Rhagfyr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw yw Diwrnod Ymwybyddiaeth Tlodi Tanwydd. Diwrnod sydd hyd yn oed yn fwy perthnasol o ystyried costau argyfwng byw y mae cymaint o bobl yn eu hwynebu. Yr wyf yn falch bod Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i gefnogi'r rhai sy'n ei chael hi'n anodd y gaeaf hwn. Ar 16 Tachwedd cyhoeddais Gynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf. Mae hon yn gronfa o £38 miliwn i gefnogi aelwydydd gyda'u costau ynni. Mae'n darparu taliad untro o £100 i aelwydydd lle mae un aelod yn derbyn budd-daliadau lles penodol. Rydym hefyd yn sicrhau bod cymorth ar gael drwy ein Cronfa Cymorth Dewisol i helpu aelwydydd oddi ar y grid gyda chost olew a nwy hylif.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd y camau hyn oherwydd bod aelwydydd dan bwysau ariannol cynyddol wrth i ni ddechrau ar fisoedd y gaeaf. Mae cynnydd o fwy na £230 mewn biliau tanwydd domestig eleni yn unig wedi'i drosglwyddo i ddinasyddion Cymru a disgwylir cynnydd pellach ym mis Ebrill pan adolygir cap prisiau ynni domestig Ofgem. Mae Gweinidogion Cymru a'r Senedd hon wedi'i gwneud yn gwbl glir, rhaid i Lywodraeth y DU gymryd camau i sicrhau nad yw penderfyniadau polisi sydd wedi cymryd arian gan deuluoedd sydd ei angen fwyaf yn effeithio ar aelwydydd incwm is. Drwy'r pandemig rydym wedi gweld mwy o bobl yn gweithio gartref, gan gynyddu eu galw am ynni am wres, golau a phŵer, gan wneud sefyllfa wael yn waeth. Mae hwn yn argyfwng costau byw ac ni all Llywodraeth y DU barhau i droi llygad yn ddall.

Rydym yn parhau i gyfarfod yn rheolaidd ag Ofgem, ar lefel Weinidogol a swyddogol, i gadw'r pwysau ar gyflenwyr ynni domestig i gefnogi aelwydydd bregus ac incwm is sy'n cael trafferth gyda'u biliau ynni cartref. Byddwn yn parhau i wneud hynny. Mae marwolaethau ychwanegol y gaeaf yn parhau i fod yn uchel yng Nghymru, gydag amcangyfrif o 2,000 o farwolaethau ychwanegol yn y gaeaf y llynedd, cynnydd o'r flwyddyn flaenorol. Mae gormod o aelwydydd yng Nghymru yn dal i gael trafferth talu'r gost o gadw eu cartref yn gynnes yn ystod misoedd y gaeaf. Mae methu â mynd i'r afael yn briodol â'r argyfwng hwn yn cael goblygiadau gwirioneddol i deuluoedd sydd dan bwysau gan fod adroddiadau yn y cyfryngau yr wythnos hon wedi dangos yn glir.

Ar y Diwrnod Ymwybyddiaeth hwn o Dlodi Tanwydd, yr wyf felly'n cyhoeddi ein cynllun cydnerthedd tywydd oer. Mae'n nodi'r camau yr ydym yn eu cymryd, ar y cyd â'n partneriaid, i ddiogelu aelwydydd bregus ac incwm is yn ystod cyfnodau o dywydd oer. Mae gweithio mewn partneriaeth yn allweddol i ddatgloi heriau tlodi tanwydd, ac yr wyf yn arbennig o ddiolchgar am ymdrechion y Panel Cynghori ar Dlodi Tanwydd a rhanddeiliaid ehangach, sydd wedi gweithio gyda ni i baratoi'r cynllun hwn ac sy'n ein helpu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl sydd â'r angen mwyaf am gymorth.

Mae'r cynllun cydnerthedd tywydd oer yn nodi'r camau yr ydym yn eu cymryd, gan weithio gyda phartneriaid i gydlynu gwasanaethau cyngor a chymorth yn well i aelwydydd bregus ac incwm is, gan leihau'r risg o salwch y gellir ei osgoi o ganlyniad i fyw mewn cartref oer. Rydym am sicrhau bod budd-daliadau a hawliau yn cael eu hawlio gan y rhai sy'n gymwys ac mewn angen. Byddwn hefyd yn cyflenwi taliadau cymorth brys ac, wrth gwrs, yn helpu deiliaid tai incwm isel i gynnal a gwella effeithlonrwydd gwres eu cartrefi drwy'r Rhaglen Cartrefi Cynnes.

Gwyddom y bydd hwn yn aeaf heriol i lawer o aelwydydd a theuluoedd, a fydd yn ei chael yn anodd cynnal cartrefi cynnes ac iach. Bydd angen mesurau pellach a byddwn yn parhau i bwyso ar yr achos gyda Llywodraeth y DU, yn ogystal ag ymgynghori ar ddyfodol ein Rhaglen Cartrefi Cynnes ein hunain. Disgwylir i'r ymgynghoriad ddechrau erbyn diwedd y mis hwn fan hwyrach.  Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi'r rhai sydd â'r angen mwyaf.