Vaughan Gething, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Medi 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Mae’r wythnos hon yn nodi pen-blwydd arwyddocaol iawn i raglen gwella iechyd y geg i blant - Cynllun Gwên. Mae’n 10 mlynedd ers i Gynllun Gwên gael ei lansio gyntaf ledled Cymru ac yn ystod y cyfnod hwnnw rydym wedi gweld gwelliant cyson yn iechyd y geg plant.

Cafodd Cynllun Gwên ei sefydlu a’i ariannu gan Lywodraeth Cymru i dargedu plant yn benodol mewn ardaloedd lle’r oedd y lefelau pydredd dannedd ar eu huchaf i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb mewn clefydau deintyddol. Mae’r weledigaeth o ran ystyried y materion hyn yn yr hirdymor wedi talu ar ei ganfed, ac mae’r rhaglen yn profi’n llwyddiant ysgubol. 

Cyn i’r Cynllun Gwên ddechrau yn 2009 roedd gan tua hanner y plant pum mlwydd oed yng Nghymru bydredd dannedd. Prin fod y ffigur hwnnw wedi newid ers 10 mlynedd, ac eto mae pydredd dannedd yn glefyd y mae modd ei atal yn gyfan gwbl bron. Nawr mae i lawr i draean, ac rydym wedi gweld gostyngiadau ar draws y bwrdd. Mae pydredd dannedd yn broblem benodol i blant o gefndiroedd difreintiedig ac mae lefelau clefydau deintyddol mewn plant yng Nghymru yn parhau i wella ym mhob grŵp cymdeithasol. Mae’r arolwg diweddaraf yn dangos gostyngiad o 13.4% yng nghyfran y plant gyda phydredd dannedd. Mewn termau absoliwt, y pumed o blant mwyaf difreintiedig sydd wedi gweld y gostyngiad mwyaf o 15% yn nifer yr achosion o bydredd dannedd. Yn bwysig iawn, nid oes tystiolaeth o gynnydd mewn anghydraddoldeb.

Mae iechyd y geg o bwys i bob plentyn. Gwyddom fod pydredd dannedd yn dechrau’n gynnar ym mywyd plentyn felly mae oedran cyn-ysgol ac oedran ysgol gynradd yn adegau tyngedfennol i ddatblygiad iechyd y geg mewn plant - cyn ac wrth i’r dannedd parhaol ddod trwodd. Mae’r holl dystiolaeth, o ymchwil clinigol i farn arbenigol, yn dweud wrthym y gallwn atal pydredd dannedd drwy leihau amlder a faint o siwgr sydd yn y deiet a thrwy frwsio dannedd ddwywaith y dydd gyda phast dannedd fflworid.

Gall pydredd dannedd arwain at boen a haint, gyda phlant yn colli cwsg ac yn cael amser i ffwrdd o’r ysgol. Mae astudiaethau’n dangos bod plant sydd â phydredd dannedd yn eu dannedd babi deirgwaith yn fwy tebygol o gael pydredd yn eu dannedd parhaol, felly mae angen i ni wneud pob ymdrech i sicrhau nad yw plant yn dioddef o unrhyw bydredd erbyn maen nhw’n 5. Pydredd dannedd yw un o’r rhesymau pennaf hefyd dros dderbyniadau i’r ysbyty ymhlith plant ifanc sy’n cael tynnu dannedd o dan anesthesia cyffredinol. 

Ar sail ein harolygon, gallwn amcangyfrif bod tua 4,000 yn llai o blant 5 mlwydd oed yn dioddef o bydredd erbyn heddiw o’u cymharu â chyn cyflwyno Cynllun Gwên. Gwyddom hefyd fod nifer y plant sy’n cael triniaethau deintyddol o dan anesthesia cyffredinol wedi lleihau 35% yn ystod y 6 blynedd diwethaf. Mae hynny dros 3,200 yn llai o blant yn gorfod cael anesthetig cyffredinol y flwyddyn i gael tynnu dannedd sydd wedi pydru.  

Mae adolygiadau o dystiolaeth glinigol gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal ac eraill yn awgrymu, am bob £1 sy’n cael ei gwario ar raglenni brwsio dannedd dan oruchwyliaeth, fod elw ar fuddsoddiad o £3. Mae atal yn gweithio. Mae gwybodaeth yn cadarnhau bod buddsoddi mewn rhaglen ataliol yn ymwneud ag iechyd y geg yn cynhyrchu arbedion. Nid yn unig mewn termau ariannol ond hefyd o ran bod llai o blant yn dioddef y boen a’r trallod a all ddeillio o bydredd dannedd. Mae lefelau is o bydredd dannedd ymhlith plant hefyd yn rhyddhau timau deintyddol i ddarparu gofal i bobl eraill sy’n agored i niwed.

Ar hyn o bryd mae mwy na 90,000 o blant mewn dros 1,200 o ysgolion a meithrinfeydd yn cymryd rhan yn elfen brwsio dannedd y Cynllun Gwên. Fodd bynnag, mae’r rhaglen yn llawer mwy na dysgu plant sut i frwsio’u dannedd yn unig. Mae’n rhaglen atal ac ymyrraeth glinigol sy’n seiliedig ar dystiolaeth er mwyn osgoi pydredd dannedd a darparu’r wybodaeth sydd ei hangen ar blant, a’u rhieni a’u gofalwyr, i ddatblygu a chynnal iechyd y geg da o oedran ifanc. 

Mae timau Cynllun Gwên hefyd wedi datblygu adnoddau i hyrwyddo gwersi ar gyfer plant ysgol gynradd hŷn er mwyn cefnogi ac atgyfnerthu’r neges o iechyd y geg da. Fel rhan o’u haddysg, mae plant yn dysgu sgiliau sy’n eu rhoi mewn sefyllfa dda am oes. Mae brwsio dannedd yn enghraifft dda lle maen nhw, fel rhan o’r Cynllun Gwên, yn dysgu sgiliau, yn sefydlu trefn frwsio ddyddiol ac yn dod i ddeall pam mae brwsio dannedd a diogelu iechyd deintyddol yn bwysig.

Rydym hefyd yn gweld nifer cynyddol o blant yn mynychu deintyddfeydd ‘stryd fawr' ac mae tystiolaeth bod rhieni’n cael eu dylanwadu gan gyngor a roddir gan dimau Cynllun Gwên. Ar yr un pryd â’r nifer uchaf erioed o blant yn mynd at y deintydd, rydym wedi gweld nifer y triniaethau clinigol a gyflawnir ar blant yn lleihau, gyda 35,000 yn llai o lenwadau a thros 6,000 yn llai o achosion o dynnu dannedd na 5 mlynedd yn ôl - arwydd arall o wella iechyd y geg mewn plant. Rydym hefyd yn gweld cyfran uwch o blant yn derbyn farnais fflworid a radiograffau fel rhan o’u triniaeth. Mae hyn yn awgrymu bod atal yn cael ei gynnwys mewn darpariaeth gofal deintyddol sylfaenol a bod y tueddiadau hyn yn gyson â chanllawiau’r Cynllun Gwên sy’n seiliedig ar dystiolaeth

Ond ni allwn orffwys ar ein rhwyfau. Er bod gwelliannau wedi bod yn gyffredinol, mae gennym tua thraean o blant pum mlwydd oed sydd â phydredd dannedd yng Nghymru, felly mae angen i ni barhau â gwaith da ein rhaglen genedlaethol. Mae angen i’r Cynllun Gwên barhau i ddefnyddio ymyriadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth wedi’u targedu i gefnogi’r plant hyn a’u teuluoedd ymhellach.

Hoffwn hefyd ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o lwyddiant y Cynllun Gwên. Yn arbennig y Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol sy’n cyflwyno’r rhaglen, a’r ysgolion a’r meithrinfeydd sy’n cymryd rhan. Mae eu cyfraniad tuag at ymrwymiad Llywodraeth Cymru i helpu i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd y geg yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig yn gwneud gwahaniaeth arwyddocaol.