Neidio i'r prif gynnwy

Hannah Blythyn, Gweinidog yr Amgylchedd

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Rhagfyr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn dilyn fy natganiad ysgrifenedig dyddiedig 11 Gorffennaf, mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei gynllun gweithredu ynghylch sŵn a seinwedd heddiw ar gyfer y cyfnod 2018-2023, yn ogystal ag ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad cyhoeddus ar y ddogfen ddrafft. Mae’r ddogfen hon yn cymryd lle’r cynllun gweithredu blaenorol ar gyfer sŵn a seinwedd i Gymru, a fabwysiadwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2013. Mae deddfwriaeth ynglŷn â sŵn amgylcheddol yn ei gwneud yn ofynnol i adolygu cynlluniau gweithredu sŵn cenedlaethol, gan eu diwygio, lle bo’r angen, o leiaf bob pum mlynedd.

Fel a amlygwyd yn fy natganiad ym mis Gorffennaf, gall sŵn amharu ar gwsg a chynyddu lefelau straen, dicter neu flinder, yn ogystal â tharfu ar weithgareddau pwysig megis dysgu, gweithio ac ymlacio. Gall seiniau uchel achosi niwed i’r clyw, tra gall sŵn dros amser hir gynyddu’r risg o gael clefydau sy’n gysylltiedig â phwysedd gwaed uchel a chlefyd cardiofasgwlaidd. Fel rhan o Arolwg Cenedlaethol Cymru 2017-18, gofynnwyd i bobl a oedd sŵn o’r tu allan i’w cartref wedi bod yn eu poeni’n rheolaidd yn ystod y 12 mis blaenorol. dywedodd 24% ei fod wedi. Roedd yr Arolwg Cenedlaethol yn datgan fod pobl yn fwy tebygol o gael eu poeni gan sŵn os oeddent yn byw mewn aelwydydd mewn amddifadedd materol neu ardaloedd difreintiedig.

Y cynllun gweithredu sŵn a seinwedd yw prif ddogfen bolisi Llywodraeth Cymru, a chydweithiodd awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill i’w lunio. Mae’n amlinellu polisi strategol y sector cyhoeddus yng Nghymru mewn perthynas â rheoli sŵn a seinwedd yn ystod y pum mlynedd nesaf. Mae’n ymwneud â mwy na lleihau sŵn yn unig. Mae’n cydnabod hefyd fod angen inni greu seinweddau priodol. Hynny yw, yr amgylchedd acwstig iawn yn y man iawn ar yr adeg iawn. Mae Cymdeithas Lleihau Sŵn y DU wedi canmol Llywodraeth Cymru am fod y llywodraeth genedlaethol gyntaf i gynnwys gofynion cynllun acwstig da a rheoli seinwedd yn benodol o fewn ei bolisi sŵn.

Cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad 12 wythnos ar y cynllun gweithredu drafft ynghylch sŵn a seinwedd. Daeth 24 o ymatebion i'r ymgynghoriad i law. Roedd 11 o'r ymatebion hynny gan sefydliadau, yn cynnig sylw ar y cynllun gweithredu drafft ei hun. Roedd y mwyafrif llethol o blaid y camau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru ac awgrymwyd nifer o welliannau i'r testun arfaethedig. Rhoddwyd ystyriaeth i'r awgrymiadau hyn ac mae nifer o newidiadau wedi'u gwneud i'r cynllun gweithredu terfynol. Mae rhai o'r cyfraniadau technegol a dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghoriad yn cael eu dyfynnu yn y cynllun gweithredu terfynol. Lle cafwyd sylwadau oedd yn ymwneud â chynllunio defnydd tir, bydd Llywodraeth Cymru'n rhoi sylw arbennig iddynt pan fydd yn adolygu Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 11: Sŵn, gyda’r nod o gyflwyno TAN newydd yn ei le a fydd yn ymdrin ag ansawdd aer a seinwedd.

Cafwyd 13 o ymatebion gan y cyhoedd neu eu cynrychiolwyr etholedig. Cafodd y rheini oedd yn ymdrin â chynnwys y cynllun gweithredu drafft eu hystyried yr un pryd â sylwadau'r sefydliadau. O ran y rheini oedd yn ymdrin â phynciau lleol, tynnwyd sylw'r awdurdodau lleol perthnasol neu, yn achos traffyrdd a chefnffyrdd, Is-adran Rheoli Rhwydwaith Llywodraeth Cymru, atynt. Fodd bynnag, mae penderfynu ynghylch pa leoliadau yn union fydd yn cael eu lliniaru yn y pum mlynedd nesaf y tu hwnt i gwmpas dogfen gyffredinol y cynllun gweithredu ar gyfer sŵn a seinwedd, ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth fydd yn penderfynu yn eu cylch.

Cynllun gweithredu ynghylch sŵn a seinwedd:

https://llyw.cymru/topics/environmentcountryside/epq/noiseandnuisance/environmentalnoise/noisemonitoringmapping/noise-and-soundscape-action-plan-2018-2023/?skip=1&lang=cy

Tudalen yr ymgynghoriad ar y we:

Cynllun gweithredu ynghylch sŵn a seinwedd 2018-2023

Cymdeithas Lleihau Sŵn – Gwobrau John Connell 2018 (dolen allanol):

http://noiseabatementsociety.com/john-connell-awards/john-connell-awards-2018