Leighton Andrews, y Gweinidog Plant, Addysg a Dysgu Gydol Oes
Cyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru ei Chynllun Gweithredu ar gyfer 'Lleihau cyfran y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yng Nghymru' ym mis Ebrill 2009.
Ers ei gyhoeddi, mae'r amgylchedd economaidd wedi newid yn ddramatig. Er bod llawer o waith da wedi'i wneud i gyflawni'r cynllun gweithredu, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi cymryd safbwynt ehangach o lawer na chanolbwyntio'n benodol ar bobl ifanc unwaith iddynt gyrraedd 16 oed. Rydym wedi edrych yn gyffredinol ar y materion sy'n wynebu pobl ifanc ac ystyried siwrnai plant a phobl ifanc (o'u genedigaeth tan 24 oed) a all ymddieithrio rhag dysgu ac felly sydd mewn perygl o beidio â bod yn berson mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yn y dyfodol.
Mae tystiolaeth wedi dangos mai'r ffordd fwyaf effeithiol o wella cyfleoedd bywyd plant yw drwy roi cymorth iddynt yn ystod eu blynyddoedd cynharaf, gan dorri'r cylchoedd sy'n rhan o fywydau rhai o'n plant mwyaf difreintiedig ac agored i niwed, a rhoi cyfle i dyfu, llwyddo a chyflawni. Bydd profiad pob plentyn neu berson ifanc yn unigryw. I nifer o'r bobl ifanc hyn gall ymddieithrio rhag addysg, cyflogaeth a hyfforddiant fod yn ganlyniad nifer o rwystrau a phroblemau yn ystod eu bywydau ifanc. Ar y llaw arall, bydd y rheini sy'n cael eu hunain, yn annisgwyl ac er mawr syndod, yn bobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, efallai oherwydd un digwyddiad yn eu bywydau, er enghraifft rhywun yn marw yn y teulu.
Yn 16 oed, bydd person ifanc sy'n dymuno cymryd rhan mewn dysgu neu ymuno â'r farchnad lafur yn wynebu nifer o faterion a rhwystrau gwahanol. Fel y gwyddom, gall y dirwasgiad effeithio'n andwyol ar gyfleoedd i'r bobl ifanc hyn (16-24 oed) ac yn aml gall olygu anweithgarwch a chyfnodau hir o fod heb waith. Felly mae angen i ni roi cyfleoedd i bobl ifanc i ennill sgiliau addas a fydd yn eu harwain at gyflogaeth gynaliadwy.
Mae gwaith yn parhau i gefnogi plant a phobl ifanc i gyfranogi. Mae mesurau ataliol yn cynnwys cyhoeddi'r Cynllun Llythrennedd Cenedlaethol a gyhoeddwyd gennyf y llynedd, y Strategaeth Tlodi Plant a rhaglenni cyfredol megis Dechrau'n Deg a'r Cyfnod Sylfaen. Er mwyn cefnogi pobl ifanc o 16 oed ymlaen rhoddwyd pecyn cyllido yn ei le gwerth dros bedwar deg naw miliwn o bunnau, a gyhoeddwyd gennyf yn Uwchgynhadledd Economaidd gyntaf Llywodraeth Cynulliad Cymru yn 2010. Bydd hyn yn ariannu mwy o leoedd ar gyfer hyfforddiant ac addysg. Roedd hyn yn cynnwys rhagor o arian ar gyfer Addysg Bellach, parhad y Llwybrau at Brentisiaethau a'r Rhaglen Recriwtiaid Ifanc, ac arian ychwanegol i gadw'r Rhaglen Adeiladu Sgiliau a ReAct i weithio yng Nghymru. O ganlyniad, erbyn hyn mae gennym fwy o bobl ifanc yn aros mewn dysgu a hyfforddiant nag erioed o'r blaen, sy'n dangos bod y mesurau'n gweithio. Rydym hefyd yn cadw Lwfansau Cynhaliaeth Addysg yng Nghymru, yn wahanol i Loegr, er mwyn atal pobl ifanc rhag ymddieithrio.
Hefyd, y llynedd fe wnaeth Gweinidogion Cymru lofnodi Fframwaith y Farchnad Lafur gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau a sefydlu Cyd-fwrdd Cyflenwi Rhaglenni Cyflogaeth i weithio ar lefel weithredol.Mae'n bwysig fod gennym lwybr cwsmer clir yng Nghymru lle mae ein hyfforddiant a'n darpariaeth yn ategu darpariaeth prif ffrwd y Ganolfan Byd Gwaith heb ddyblygu na dargyfeirio ei gwaith. Mae angen i ni hefyd sicrhau bod cynigion am gymorth a gaiff eu hariannu'n briodol i bobl ifanc o leiaf yn cyfateb i'r rheini sydd ar gael yn Lloegr, a bod gennym atebion arloesol i anghenion penodol ein marchnad lafur.
Gan adlewyrchu'r flaenoriaeth uchel a roddir i'r agenda hon, y llynedd comisiynais ddau grŵp i ymchwilio i fater ymgysylltiad ieuenctid a'u cyflogaeth yng Nghymru. Roedd un o'r rhain yn grŵp gorchwyl a gorffen allanol o dan gadeiryddiaeth Martin Mansfield o TUC Cymru a oedd yn edrych yn benodol ar beth arall y dylwn ei wneud i wrthsefyll effeithiau'r dirwasgiad ar bobl ifanc. Grŵp gweithredol mewnol o swyddogion oedd y llall, a oedd yn adrodd i mi ar yr hyn sy'n annog plant a phobl ifanc i ymddieithrio o ddysgu yn y lle cyntaf. Cyhoeddodd Bwrdd Cyflogaeth a Sgiliau Cymru adroddiad hefyd, fel rhan o Ail Adroddiad Blynyddol y Bwrdd 'Symud Ymlaen: Y Sylfeini ar gyfer Twf', a oedd yn edrych ar ddiweithdra ymhlith pobl ifanc mewn ffordd holistaidd.
Fe wnaeth y tri adroddiad ystod eang o argymhellion sydd wedi arwain at ddatblygu Cynllun Gweithredu Ymgysylltiad a Chyflogaeth Pobl Ifanc.
Mae'r Cynllun Gweithredu Ymgysylltiad a Chyflogaeth Pobl Ifanc yn amlinellu dull Llywodraeth Cynulliad Cymru o atal plant a phobl ifanc rhag ymddieithrio o ddysgu a'u cefnogi i ymuno â'r farchnad lafur. Wrth gwrs, nod cyffredinol y cynllun yw lleihau nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yng Nghymru, neu sydd mewn perygl o hynny yn y dyfodol. Sefydlwyd Uned newydd o fewn Llywodraeth Cynulliad Cymru i yrru'r agenda hon yn ei blaen.
Rydym eisoes wedi llwyddo i gael bargen dda. Mae rhai arferion gwych ledled Cymru sydd wedi cael effaith sylweddol ond mae hon yn agenda heriol iawn sy'n berthnasol i lawer o bortffolios Llywodraeth y Cynulliad. Er gwaethaf setliad heriol gan Lywodraeth y DU, byddwn yn blaenoriaethu hyfforddiant sgiliau, yn anrhydeddu ein hymrwymiad i Lwybrau at Brentisiaethau, ac yn parhau i ganolbwyntio ar ein hagenda o ymgysylltiad a chyflogaeth i bobl ifanc.
Bydd angen inni fod yn greadigol, yn arloesol ac yn ysbrydoledig er mwyn datblygu a chyflwyno’r cymorth y mae ei angen i alluogi pobl ifanc i symud ymlaen i gyflogaeth gynaliadwy. Yn ystod y 4 blynedd nesaf ein nod yw bod y Cynllun Gweithredu Ymgysylltiad a Chyflogaeth Pobl Ifanc yn cyflawni hyn ac yn llwyddo i leihau nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yng Nghymru.