Neidio i'r prif gynnwy

Julie James, Y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Hydref 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae cysylltedd ffonau symudol yn dod yn fwyfwy pwysig i breswylwyr a busnesau boed i gyflawni tasgau o ddydd i ddydd megis bancio, cadw mewn cysylltiad i ffwrdd o gartref neu ganiatáu i beiriannau gysylltu â'i gilydd.

Mae dros 90 y cant o oedolion yng Nghymru bellach yn berchen ar ffôn symudol ac mae'r ffonau'n cael eu defnyddio fwyfwy i fynd ar-lein  gyda 57 y cant o ddefnyddwyr yn Nghymru yn dweud eu bod yn defnyddio eu ffonau symudol i fynd ar y rhyngrwyd.

Mae gan Gymru nodweddion topograffeg unigryw a dwysedd poblogaeth sy'n creu her i gwmnïau symudol wrth ddefnyddio'r seilwaith telathrebu symudol. O ganlyniad i hynny mae angen llawer mwy o seilwaith i gynnwys yr holl ardaloedd o gymharu ag ardaloedd eraill Prydain.

Ym mis Ionawr, cynhelais gyfarfod bwrdd crwn gyda cynrychiolwyr y diwydiant symudol, Ofcom, swyddogion cynllunio lleol a swyddogion Llywodraeth Cymru i edrych ar sut y gallai y Llywodraeth, y rheoleiddiwr a'r diwydiant gydweithio i fynd i'r afael â'r heriau ac i wella gwasanaethau ffôn ledled Cymru.

Yn dilyn y cyfarfod hwnnw cyhoeddais y byddaf yn cyhoeddi cynllun gweithredu symudol a fyddai'n adlewyrchu'r heriau o ddefnyddio seilwaith ffonau symudol yng Nghymru.

Ers hynny, bu swyddogion yn gweithio gyda'r cyrff hynny sy'n cael eu cynrychioli yn y cyfarfodydd bwrdd crwn ac eraill megis yr undebau ffermio, perchnogion tir a sefydliadau busnes i ddatblygu'r cynllun.

Heddiw rwy'n falch o allu cyhoeddi cynllun gweithredu ar gyfer ffonau symudol yng Nghymru.

Nid yw'r polisi telegyfathrebu wedi ei ddatganoli i Gymru felly mae'r cynllun  yn canolbwyntio ar naw prif faes ble y gall Llywodraeth Cymru ddefnyddio'r dulliau sydd ganddi o greu'r amgylchedd iawn ar gyfer gwella cysylltedd fwyfwy yng Nghymru.

Mewn rhai meysydd megis cynllunio a chyfraddau annomestig, mae angen inni gydweithio â'r diwydiant i gasglu'r dystiolaeth i fod yn sail i'r newidiadau i ddeddfwriaeth neu i weithredu i annog buddsoddiad mewn seilwaith.

Mewn meysydd eraill, megis defnyddio asedau cyhoeddus neu gynnig cysylltedd mewn digwyddiadau mawr, gall Llywodraeth Cymru chwarae rôl ganolog wrth hwyluso perthynas rhwng y diwydiant a chyrff eraill.

Hyd yn oed gyda buddsoddiad gan y diwydiant symudol tuag gyrraedd eu targedau rheoleiddiol mae'n debygol y bydd ardaloedd sydd heb signal defnyddiol a dibynadwy o hyd. Mae'r cynllun yn tynnu sylw at y gwaith yr ydym eisoes yn ei wneud gyda'r Swyddfa Gartref ar sicrhau y bydd eu mastiau yn addas ar gyfer y dyfodol o dan raglen cyfathrebu symudol y gwasanaethau brys ac mae hefyd yn bwriadu cynnwys unrhyw ymyraethau yn y sector cyhoeddus yng Nghymru i gwmpasu'r bylchau hyn.

Rydym angen trefn reoleiddiol hefyd sy'n addas ar gyfer Cymru felly mae'r cynllun yn rhoi amlinelliad o sut y byddwn yn cysylltu ag Ofcom i ddeall y cyfleoedd a'r heriau wrth sefydlu rhanbarth sy'n gwahaniaethu yn ddaearyddol.

Bydd technolegau sy'n cael eu dyfeisio a'u profi yng Nghymru yn addas ar gyfer Cymru felly rydym am i Gymru gael ei hystyried fel lle i brofi technoleg newydd. Mae'r cynllun yn cadarnhau ein cefnogaeth i fentrau technoleg newydd yng Nghymru.

Mae cysylltedd i ffwrdd o gartref ar hyd ffyrdd a rheilffyrdd yn rhoi manteision i fusnesau, er diogelwch ac i gael mynediad i amrywiol apiau a gwasanaethau ar-lein.  Mae'r cynllun yn rhoi amlinelliad o nifer o gyfleoedd ar gyfer gwella cysylltedd y rhwydweithiau trafnidiaeth gan gynnwys gweithio gyda Network Rail.

Nid yw'r cynllun yn mynd ati i roi manylion yr atebion terfynol ond yn hytrach yn fap i'w ddilyn i wella cysylltedd ffonau symudol yng Nghymru. Mae'n ddogfen weithio a bydd yn cael ei hadolygu a'i diweddaru'n rheolaidd. Rwy'n bwriadu cynnal yr adolygiad cyntaf yn ystod y gwanwyn y flwyddyn nesaf.

http://gov.wales/topics/science-and-technology/digital/infrastructure/mobile-action-plan/?lang=cy