Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Ar ddechrau Wythnos Profi HIV Cymru ac wrth inni agosáu at Ddiwrnod AIDS y Byd fis nesaf, rwy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am HIV yng Nghymru a'n cynnydd o ran cyflawni'r Cynllun Gweithredu HIV.
Diolch i waith caled ein GIG, ein gwirfoddolwyr a'n hymgyrchwyr, mae'r data diweddaraf ar dueddiadau mewn atal, diagnosio a thrin HIV yng Nghymru yn dangos bod Cymru'n gwneud cynnydd da tuag at ein nod o ddim trosglwyddiadau newydd o HIV erbyn 2030:
- Mae lefelau sgrinio yn parhau i godi ac yn 2023, roedd y lefelau hynny yn fwy na'r hyn a welwyd yn 2019 cyn y pandemig. Mae hyn o ganlyniad i'r ffaith bod gwasanaethau yn cydweithio i sicrhau bod profion ar gael yn ehangach, gan gynnwys drwy ein gwasanaeth profi ar-lein, sy'n cynnig profion cyfrinachol yn rhad ac am ddim y tu allan i'r clinig, gan roi cyfle i staff clinigol ganolbwyntio ar driniaeth.
- Mae'r defnydd o broffylacsis cyn-gysylltiad (PrEP), sef meddyginiaeth sydd, o'i chymryd yn unol â'r presgripsiwn, yn lleihau'r risg o ddal HIV drwy ryw o 99%, yn cynyddu bob blwyddyn, ac mae'r defnydd hwnnw bellach yn fwy nag ar unrhyw adeg ers ei chyflwyno yng Nghymru yn 2017.
- Mae cyfraddau triniaeth wedi aros yr un peth, ac mae triniaeth yn parhau i fod yn hynod effeithiol – prin y gellir canfod llwyth feirysol mewn 97% o bobl sy'n cael triniaeth, sy'n golygu bod yr haint wedi'i leihau i lefelau mor isel fel na ellir ei drosglwyddo i bobl eraill.
Er bod y newyddion hyn yn galonogol iawn, rydym yn gwybod bod heriau yn ein hwynebu o hyd, gan gynnwys cael gwell ddata i fonitro tueddiadau, asesu llwyddiant ymyriadau a chynllunio darpariaeth gwasanaethau.
Er bod y defnydd o PrEP yn parhau i gynyddu, gallwn sicrhau bod y meddyginiaethau hyn ar gael yn haws i ragor o bobl. Caiff PrEP ei ddefnyddio'n bennaf gan ddynion hoyw, dynion deurywiol a dynion eraill sy'n cael rhyw gyda dynion. Nid yw grwpiau eraill sydd mewn perygl o gael eu heintio'n defnyddio'r meddyginiaethau hyn i'r un graddau. Bydd sicrhau bod PrEP ar gael yn haws yn helpu i fynd i'r afael â hyn.
Mae pobl yn parhau i gael diagnosis o HIV yn hwyr, ac mae angen gwneud mwy i sicrhau bod pobl sydd â HIV yn byw'n dda, gan gynnwys sicrhau nad ydynt yn profi agweddau, credoau nac ymddygiadau negyddol yn sgil eu diagnosis.
Mae ein Cynllun Gweithredu HIV yn cynnwys nifer o gamau gweithredu i helpu i fynd i'r afael â'r heriau hyn:
- Mae Llywodraeth Cymru, byrddau iechyd, awdurdodau lleol a phartneriaid eraill yn parhau i gydweithio'n agos â sector gwirfoddol a chymunedol HIV. Mae Fast Track Cymru wedi hen ennill ei blwyf ac mae'n helpu i gyflawni ein nod o fod yn genedl Fast Track. Mae pedair ardal bwrdd iechyd eisoes wedi llofnodi Datganiad Paris, ac mae'r tair ardal bwrdd iechyd sy'n weddill (Cwm Taf Morgannwg, Hywel Dda a Phowys) ar y trywydd iawn i lofnodi erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon.
- Mae achos busnes ar gyfer system rheoli achosion iechyd rhywiol Cymru gyfan yn cael ei ddatblygu ac rydym yn gwella data ar ansawdd bywyd ac anghenion gofal iechyd pobl sy'n byw gyda HIV drwy gyflwyno arolwg llesiant blynyddol yn 2025.
- Yn gynharach eleni, rhannodd byrddau iechyd eu datganiad blynyddol cyntaf yn dangos eu llwybrau gofal. Bydd y byrddau iechyd yn rhoi diweddariadau blynyddol ar gynnydd o ran sicrhau bod ganddynt yr adnoddau, y staff a'r llwybrau sydd eu hangen i roi Safonau Gofal Cymdeithas HIV Prydain (BHIVA) ar waith yn llawn.
- Mae Ymddiriedolaeth Terrence Higgins wedi cytuno ar gyllid ar gyfer gwasanaeth cymorth gan gymheiriaid ar-lein i Gymru yn benodol. At hynny, bydd Rhaglenni Addysg i Gleifion Cymru yn lansio rhaglen beilot chwe wythnos cyn bo hir i helpu i ddatblygu rhaglen hunanreoli HIV ar-lein. Bydd hyn ar gael i bobl sy'n byw gyda HIV a phobl sy'n cefnogi rhywun sy'n byw gyda HIV. Mae gwaith pellach ar y gweill i gytuno ar gyllid cynaliadwy ar gyfer rhwydweithiau cymorth gan gymheiriaid rhanbarthol a chenedlaethol, sy'n defnyddio dulliau o fewn y gymuned ac o fewn y clinig yn ogystal â dulliau ar-lein.
- Bydd model sy'n golygu bod PrEP ar gael yn fwy cyfleus yn y gymuned yn cael ei dreialu, a chynhelir ymgyrch codi ymwybyddiaeth yn y gwanwyn fel bod pawb sydd mewn perygl o gael eu heintio yn gwybod am PrEP a sut i gael gafael arno.
- Cynhelir cyfarfodydd byrddau iechyd bob chwe mis i adolygu'r garfan sy'n cael diagnosis hwyr, fel bod modd i glinigwyr nodi cyfleoedd a gollwyd a gwella arferion.
Mae agwedd dim goddefgarwch o stigma i'w gweld ym mhob rhan o'r cynllun gweithredu. Mae ymgyrch codi ymwybyddiaeth gychwynnol eisoes wedi'i chynnal. Mae animeiddiad byr i weithwyr gofal iechyd proffesiynol ac un i'r cyhoedd wedi eu cynhyrchu. Bydd canllaw cyffredinol hefyd yn cael ei lunio i athrawon er mwyn helpu ysgolion i ystyried a chyflwyno dysgu sy'n briodol o safbwynt datblygiadol am HIV, PrEP a stigma.
Byddaf yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am gynnydd tuag at ein nod o ddim trosglwyddiadau newydd o HIV yng Nghymru erbyn 2030 a'n hagwedd dim goddefgarwch.
Hoffwn ddiolch o galon unwaith eto i'n GIG, ein gwirfoddolwyr a'n hymgyrchwyr, sy'n hollbwysig i'r gwaith o gyflawni'r ymrwymiadau hyn.