Kirsty Williams AC, y Gweinidog Addysg
Heddiw, rwy'n falch o gael cyhoeddi’r Cynllun gweithredu diogelwch ar-lein i blant a phobl ifanc yng Nghymru 2019. Hwn yw'r diweddariad blynyddol cyntaf i'r cynllun gwreiddiol a lansiwyd gen i ym mis Tachwedd 2018.
Mae'r cynllun gweithredu yn rhoi diweddariad ar y cynnydd a wneir ar y 46 cam gweithredu yng nghynllun 2018. Mae hefyd yn nodi ac yn manylu ar 15 cam gweithredu newydd y bydd Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â nhw i gryfhau'r ddarpariaeth diogelwch ar-lein, y polisi a'r arferion drwy Gymru.
Mae’r byd technoleg yn un sy'n esblygu ac yn newid yn aruthrol o gyflym. Dros y blynyddoedd diwethaf mae chwyldro technolegol wedi digwydd. Nid dyfais i gysylltu dau berson yw'r ffôn mwyach. Mae'n gamera, yn gwmpawd, yn Walkman, yn gamera fideo, yn galendr, yn bedomedr ac yn borthol i fyd cysylltiedig, byd sy’n llawn gwybodaeth, pobl a phosibiliadau.
Nid dim ond y dechnoleg sydd wedi newid; mae'n ffordd ni o drin y cyfryngau cymdeithasol wedi ei drawsnewid hefyd. Does ond angen i chi anghofio'ch ffôn am un diwrnod er mwyn dod i ddeall pa mor ddibynnol y mae rhywun arno.
Nid yw plant a phobl ifanc yn cofio'r artaith oedd ynghlwm wrth ddefnyddio modemau deialu, nid ydynt yn cofio’r dyddiau o fethu ‘gwglo’ rhywbeth yr ydych yn ymchwilio iddo. Maent yn defnyddio gwasanaethau digidol yn hollol reddfol, ac yn symud yn rhwydd i mewn ac allan o'r byd digidol gydol y dydd.
Oherwydd hynny, mae'n rhaid i'n ffordd o feddwl yn y maes hwn gyflymu. Nid yw gwahaniaethu rhwng y 'byd ar-lein' a'r 'byd go iawn' yn help bellach. Mae'r hyn sy'n digwydd ar-lein yn rhan o fywyd go iawn, ac mae'r hyn sy'n digwydd ar-lein yn cael effaith ar bobl go iawn.
Felly, mae'n hollbwysig bod ein plant a'n pobl ifanc yn datblygu’r sgiliau digidol sydd eu hangen yn yr unfed ganrif ar hugain, er mwyn bod yn llwyddiannus mewn addysg, gwaith, ac yn eu bywydau ehangach.
Fodd bynnag, nid yw sgiliau digidol yn unig yn ddigon. Rhaid inni hefyd sicrhau bod ein plant a phobl ifanc yn ‘ddigidol-gadarn’ – hynny yw, eu bod yn cael yr wybodaeth ac yn datblygu’r sgiliau meddwl beirniadol a fydd yn eu helpu i gadw'u hunain yn ddiogel a gwneud dewisiadau cyfrifol ar-lein.
Does dim dwywaith bod manteision aruthrol i'r rhyngrwyd, ond mae'n hanfodol ein bod yn cael trafodaeth agored am yr agweddau tywyllach, ac yn sôn am y risgiau a'r peryglon sy’n gysylltiedig â’r rhyngrwyd. Gall y rhain fod yn sgyrsiau anodd, ond mae'n rhaid eu cael er mwyn addysgu ein plant a'n pobl ifanc. Mae gan blant hawl i wybodaeth sy'n eu cadw'n ddiogel rhag niwed, ac sy'n caniatáu iddyn nhw lywio'u ffordd trwy’r byd sydd ohoni, byd sy’n wahanol iawn i'r un y cawsom ni ein magu ynddo, a’r un y cafodd eu rhieni eu magu ynddo.
Rwy'n credu mai ein gwaith ni yw helpu plant a phobl ifanc i ddeall pwysigrwydd meddwl yn feirniadol a gwneud dewisiadau cyfrifol, eu helpu i ddeall effaith eu dewisiadau a'u grymuso i siarad â rhywun os oes rhywbeth yn mynd o'i le. Dim ond trwy wneud hyn y gallwn ni sicrhau bod ein pobl ifanc yn genhedlaeth hyderus, sydd wedi'i grymuso ac sy'n ‘ddigidol-gadarn’.
Dros y 12 mis diwethaf, rydym wedi gwneud cryn dipyn o waith ar draws Llywodraeth Cymru i helpu i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn unigolion ‘digidol-gadarn’. Am fanylion ar y cynnydd sydd wedi’i wneud hyd yn hyn, rwy'n annog pob un ohonoch i ddarllen y cynllun.