Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Gorffennaf 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw rydw i'n cyhoeddi Cynllun Cyflawni newydd ar gyfer Troseddau Casineb ar gyfer 2016-17 ac yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch gweithgarwch yn ystod 2015-16. Mae hyn yn cadarnhau ymrwymiad y Llywodraeth hon i fynd i'r afael â throseddau casineb a digwyddiadau eraill o'r fath ledled Cymru ac yn tynnu sylw at y cynnydd rydyn ni'n parhau i'w wneud wrth roi'r Fframwaith Troseddau Casineb ar waith ar draws y tri amcan strategol, sef atal y troseddau, cefnogi'r rhai sy'n dioddef a gwella ymateb amlasiantaethol.


Mae'r Cynllun yn tynnu sylw at yr amrywiaeth eang o waith sy'n digwydd ar draws Llywodraeth Cymru ac asiantaethau heb eu datganoli drwy Fwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru ar gyfer Troseddau Casineb. Mae'n bwysig bod y fframwaith yn parhau i ddatblygu yn wyneb amgylchiadau sy'n newid ac yn ymateb iddyn nhw. Mae hyn yn cynnwys derbyn yr argymhellion a wnaed yn Adroddiad Tystiolaeth a Chanlyniadau ein Grŵp Cynghori Annibynnol, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr y llynedd, fel ein bod yn ymateb i'r dystiolaeth o anghenion cymunedau a rhanddeiliaid.


Ers lansio'r Fframwaith, rydyn ni wedi gweld cynnydd o 20% yn y digwyddiadau a throseddau casineb sy’n cael eu nodi, er bod Arolwg Troseddau Casineb Cymru a Lloegr (CSEW) yn awgrymu bod nifer y troseddau casineb wedi cwympo 28% rhwng 2008 a 2015. Mae arwyddion cadarnhaol yn parhau fod dioddefwyr yn teimlo'n hyderus ynghylch adrodd am droseddau casineb ac yn fodlon gwneud hynny. 


Fodd bynnag, o gofio'r cynnydd diweddar mewn hiliaeth yn sgil canlyniad Refferendwm yr UE, mae'n bwysig ein bod yn parhau i weithio gyda'n gilydd i fynd i'r afael ag anoddefgarwch a chasineb yn ein cymdeithas ac i fonitro'r sefyllfa'n ofalus. Rydw i wedi ysgrifennu at grwpiau perthnasol i dawelu eu hofnau ac er mwyn rhoi neges gref y dylai dioddefwyr barhau i roi gwybod am ddigwyddiadau. Mae'r Llywodraeth hon yn parhau i wrthod goddef troseddu ar sail casineb ar unrhyw gyfrif.