Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AC, Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Gorffennaf 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae’n Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi yn gosod targedau a cherrig milltir mesuradwy er mwyn helpu i sicrhau gwell canlyniadau i’r rhai sy’n byw mewn tlodi. Mae’r targedau hyn yn ymwneud â’r ysgogiadau y gallwn eu defnyddio mewn perthynas â’r blynyddoedd cynnar, iechyd, addysg a lleihau’r achosion o fod heb waith, meysydd lle mae gennym gyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Gwelwyd cynnydd cadarnhaol mewn amrywiol feysydd, yn ôl yr Adroddiad Blynyddol hwn, ac mae hefyd yn tynnu sylw at feysydd eraill lle mae angen gwneud mwy i gyflawni ein targedau.

Dengys yr adroddiad ein bod wedi llwyddo yn ein targed i leihau’r bwlch mewn cyrhaeddiad addysgol rhwng y rhai sy’n cael Prydau Ysgol am Ddim a gweddill y plant yn ystod y Cyfnod Sylfaen, ddwy flynedd yn gynt na’r disgwyl.

Rydym ar y trywydd cywir i gyflawni’n targedau yn ymwneud â Thai. Yn ystod y cyfnod o dair blynedd rhwng 1 Ebrill 2011 a 31 Mawrth 2014, cafodd cyfanswm o 6,890 o unedau tai fforddiadwy ychwanegol eu darparu ar draws Cymru, sef 69 y cant o’r targed uwch o 10,000 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol erbyn 2016.  Rydym hefyd ar y trywydd cywir i fynd y tu hwnt i’r targed o ddarparu 5,000 o gartrefi gwag sy’n cael eu defnyddio eto yn nhymor presennol y Llywodraeth.

Rydym yn gweithio gydag amrywiol bartneriaid i greu twf a swyddi ar draws Cymru. Nod ein Rhaglen Esgyn yw cynnig 5,000 o gyfleoedd i oedolion ar aelwydydd heb waith ddod o hyd i hyfforddiant neu swydd erbyn mis Rhagfyr 2017, ac mae eisoes wedi darparu dros 1,800 o gyfleoedd ers ei lansio ym mis Mawrth 2014, gyda dros 300 o bobl yn cael eu cynorthwyo i gael swydd.

Gwyddom fod pobl ifanc rhwng 16 a 24 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yn fwy tebygol o fod yn byw mewn tlodi. Rydym ar y trywydd cywir i gyflawni’n targedau o leihau nifer y bobl ifanc 16-18 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant erbyn 2017.  

Mae’r ail gyfres o ystadegau cryno ar gyfer y rhaglen Dechrau’n Deg yn dangos ein bod yn cynnal perfformiad y flwyddyn flaenorol mewn perthynas â’n targed blynyddoedd cynnar a nifer y plant 3 oed sy’n cyrraedd neu’n rhagori ar eu cerrig milltir datblygiadol ym mhob maes. Mae’r data rheoli’n dangos bod 85 y cant o’r plant 3 oed sy’n derbyn gwasanaethau Dechrau’n Deg yn cyrraedd neu’n rhagori ar eu normau datblygiadol ar gyfer sgiliau iaith a lleferydd, a 92 y cant ar normau datblygiadol mewn sgiliau cymdeithasol rhyngweithiol.

Mae’r adroddiad yn dangos bod mwy o waith i’w wneud er mwyn cyflawni rhai o’r targedau megis lleihau’r bwlch mewn cyrhaeddiad addysgol yn 15 oed a gwella’r Disgwyliad Oes Iach. Rydym yn cymryd camau sylweddol ac yn buddsoddi yn y meysydd hyn, gan gynnwys cynyddu’r Grant Amddifadedd Disgyblion i £1,050 eleni (gan godi i £1,150 yn 2016/17) a chymryd camau i dorri’r cysylltiad rhwng salwch meddwl a thlodi.

Mae’r Strategaeth Tlodi Plant ddiwygiedig, a lansiwyd ym mis Mawrth 2015, yn ailddatgan ein hymrwymiad i gyflawni’r tri amcan strategol yn Strategaeth Tlodi Plant 2011.  Mae’r amcanion hyn yn ymwneud â lleihau nifer y plant sy’n byw ar aelwydydd heb waith, cynyddu sgiliau a lleihau anghydraddoldebau. Hefyd, ac yng ngoleuni adborth gan randdeiliaid allanol yn ystod yr ymgynghoriad, mae’r Strategaeth yn gosod pum blaenoriaeth allweddol â’r nod o helpu aelwydydd incwm isel “yma, nawr”. Mae’r adroddiad yn cynnwys ymrwymiadau newydd ar gyfer pob un o’r blaenoriaethau hyn, sef tlodi bwyd, gofal plant, lliniaru effeithiau’r diwygiadau lles, tai ac adfywio a thlodi mewn gwaith.
Rydym yn diwygio’n dull gweithredu mewn perthynas â threchu tlodi ar hyn o bryd, gan sicrhau ein bod yn canolbwyntio’n ddi-ildio ar yr achosion sydd wrth wraidd tlodi. Mae pob un o adrannau’r Llywodraeth wedi bod yn cydweithio er mwyn adnabod ffyrdd y gallwn wneud mwy i roi’r dechrau gorau posibl i blant, helpu pobl i gael swyddi a gwella’u hiechyd a’u lles. Yn y cyfamser, rydym yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i liniaru effeithiau diwygiadau lles a mesurau cyni Llywodraeth y DU, sydd wedi cael effaith niweidiol ar bobl Cymru.

Mae llawer o waith i’w wneud o hyd, ond mae’r Adroddiad hwn yn dangos bod ein polisïau a’n rhaglenni’n cael effaith wirioneddol ar fywydau’r rhai sy’n byw mewn tlodi.