Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau a Gwenda Thomas, Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Mehefin 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016


Heddiw rydym yn lansio’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi.

Mae ein hymrwymiad i sicrhau cyfiawnder cymdeithasol a chyfle cyfartal yn ei gwneud yn hanfodol, yn yr hinsawdd sydd ohoni, i ni fwrw ymlaen â'r gwaith o drechu tlodi drwy roi blaenoriaeth i anghenion y bobl dlotaf ac amddiffyn y rheini sydd fwyaf mewn perygl o fod yn dlawd ac o gael eu hallgáu.

Byddwn yn gwneud hyn mewn amgylchiadau economaidd heriol lle mae'r rhagolygon yn dal i fod yn ansicr dros ben, a pherygl mawr y bydd hyn yn gwanhau'r rhagolygon ar gyfer swyddi ledled y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol. Mae her amlwg hefyd yn wynebu'r marchnadoedd llafur yng Nghymru ac yn y DU yn sgil rhaglen Llywodraeth y DU o gwtogi ariannol. Yn y cyd-destun hwn, mae'r diwygiadau i’r system les a budd-daliadau a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU yn bygwth gwthio llawer o'r aelodau mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas i dlodi difrifol a thanseilio ein hymdrechion i leihau tlodi yn gyffredinol.

Ni allwn wneud popeth sydd angen ei wneud, ond byddwn yn gwneud ein gorau glas ac yn ei wneud yn dda. Byddwn yn gwneud hyn nid yn unig am mai dyma’r peth priodol i'w wneud –  er bod bywyd sy'n rhydd rhag tlodi yn hawl sifil wrth gwrs – ond am ei fod yn gwneud synnwyr yn ariannol ac yn economaidd. Mae tlodi yn arwain at ganlyniadau gwaeth i unigolion o ran addysg, iechyd ac ymddygiad. Mae tlodi yn golygu costau enfawr i gymdeithas o ran llai o gynhyrchiant economaidd, llai o gydlyniant cymdeithasol a mwy o bwysau ar wasanaethau cyhoeddus fel gwasanaethau plant a gofal iechyd. Mae'r lefel is o sgiliau, yr iechyd gwael a'r diffyg uchelgais a ddaw yn sgil amddifadedd yn ffrwyno potensial economi Cymru.

Bydd ein Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi a'n Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn gweithio law yn llaw i sicrhau canlyniadau gwell i bawb yng Nghymru. Bydd ein camau gweithredu i drechu tlodi yn ategu'r gwaith o gyflwyno ein Strategaeth Tlodi Plant ac yn adeiladu ar strategaethau ategol fel y Strategaeth Tlodi Tanwydd.

O ystyried bod llawer o'r ffactorau sy'n dylanwadu’n uniongyrchol ac ar unwaith ar dlodi y tu hwnt i'n rheolaeth, mae'n bwysicach fyth ein bod yn gwneud ein gorau glas a'n bod yn gallu mesur canlyniadau'r camau gweithredu hynny. Bydd effeithiolrwydd ein camau gweithredu yn dibynnu ar ein gallu i wneud pethau'n wahanol ac i sicrhau bod yr hyn a wnawn yn cael yr effaith fwyaf posibl drwy sicrhau bod mwy o ganolbwynt a mwy o gydgysylltu ar draws adrannau a chyda'n partneriaid.

Does dim modd i lywodraeth wynebu'r heriau hyn ar ei phen ei hun. Byddwn yn gweithio'n agosach fyth ar draws pob sector yn awr er mwyn bwrw ymlaen â’r camau gweithredu yn y cynllun hwn.

Nid mater yw hyn o roi haen o gamau gweithredu ychwanegol ar ben y rhaglenni sydd eisoes yn bodoli. Y bwriad, yn hytrach, yw mynd i'r afael â thlodi drwy bopeth a wnawn.

Yn unol â'n hymrwymiad i les hirdymor, ac yn unol â’r hyn a nodwyd gan y Cabinet mewn datganiad ar 7 Mawrth, dyma brif amcanion ein camau gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi:

  • atal tlodi, yn enwedig drwy fuddsoddi i roi'r dechrau gorau posibl i blant. O’r adeg y bydd rhywun yn cael ei genhedlu hyd nes y bydd yn oedolyn ifanc, ein nod fydd lleihau anghydraddoldeb cyn gynted ag y bo modd a thorri'r cyswllt rhwng anfantais economaidd-gymdeithasol, tangyflawni addysgol a'r cyfleoedd gwannach mewn bywyd a ddaw yn eu sgil;
  • gan gydnabod mai'r ffordd orau allan o dlodi yw drwy gyflogaeth, byddwn yn parhau i helpu pobl i wella eu sgiliau a gwella perthnasedd eu cymwysterau. Byddwn hefyd yn cael gwared ar y rhwystrau eraill i gyflogaeth – o rwystrau ymarferol fel hygyrchedd trafnidiaeth ac adeiladau, i rwystrau llai pendant fel diffyg uchelgais - gan helpu pobl i symud ymlaen ac i fyny'r ysgol gyflogaeth;
  • ar yr un pryd, byddwn yn sicrhau mwy o gamau gweithredu i liniaru effaith tlodi ar unwaith. I fwy a mwy o bobl, nid yw hyd yn oed bod mewn gwaith yn sicrhau eu bod yn gallu dianc rhag tlodi. Gallwn weithredu i wella ansawdd bywyd y cymunedau, y teuluoedd a'r unigolion hyn.

Ar gyfer y tri amcan hyn, mae'r Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi yn rhoi enghreifftiau o'r hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi ar waith yn flaenorol, gan ddangos hanes llwyddiannus o ymrwymiadau i sicrhau cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb; yr hyn y mae'r Llywodraeth hon eisoes yn ei wneud i fynd i'r afael â thlodi; a'r hyn y byddwn yn ei wneud o hyn ymlaen i roi mwy o flaenoriaeth i gamau gweithredu a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar y bobl fwyaf difreintiedig ac agored i niwed. Byddwn yn adnewyddu’r cynllun ac yn adrodd ar ein cynnydd ymhen 12 mis.

Y brif her a’r prif gyfle i ni yw integreiddio ein holl gamau gweithredu yn iawn er mwyn sicrhau eu bod, fel cyfanwaith, yn cael mwy o effaith nag y byddent ar eu pennau eu hunain. Byddwn yn mynd ati i wneud hyn dan arweiniad Bwrdd Rhaglen y Gweinidog a’n Grŵp Cynghori Allanol ar Drechu Tlodi.