Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Chwefror 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia 2018-2022 wedi'i gyhoeddi heddiw.

Ein gweledigaeth yw i Gymru fod yn wlad sy'n deall dementia ac sy'n cydnabod hawliau pobl â dementia i gael eu gwerthfawrogi ac i fyw mor annibynnol â phosibl yn eu cymunedau.  

Dyma gynllun gweithredu arloesol i ddatblygu'r ymrwymiadau sy'n ymwneud â dementia yn Symud Cymru Ymlaen a Ffyniant i Bawb. Mae hefyd yn amlinellu'r ystod o randdeiliaid sy'n gallu cefnogi'r agenda hon a'r camau gweithredu sydd eu hangen i wneud newid mawr. Rydym wedi datblygu'r cynllun hwn ar y cyd â'r rheini sy'n gwybod orau beth sydd angen ei wneud i wella gwasanaethau dementia a sicrhau eu bod yn canolbwyntio o ddifri ar yr unigolyn, sef y rheini sydd â phrofiad o ddementia, eu teuluoedd a'u gofalwyr a darparwyr gwasanaethau.

Yn ogystal â hynny, mae'r Adolygiad Seneddol Annibynnol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru yn ein herio i symud tuag at system ddi-dor o fewn iechyd a gofal cymdeithasol, ac i ddangos ein bod yn gwneud pethau'n wahanol. Rwyf am i'r gwaith o gyflawni'r cynllun hwn ddangos ein bod yn gallu cyflawni gweledigaeth yr Adolygiad Seneddol, gan ddarparu gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar anghenion yr unigolyn a sicrhau bod unigolion â dementia yn ganolog i'r gwaith o gynllunio gwasanaethau.

Er mwyn cyflawni'r camau gweithredu yn y cynllun hwn, rwy'n darparu £10m y flwyddyn yn ychwanegol o 2018-19 ymlaen i gefnogi'r newid sylweddol sydd ei angen yn y maes hwn. Mae'r buddsoddiad hwn yn cael ei roi yn ychwanegol at y cyllid presennol yng Nghymru, a bydd yn dod â'r camau gweithredu yn y cynllun yn fyw.

Un o'r prif themâu yn y cynllun yw galluogi pobl sy'n byw â dementia i barhau'n annibynnol ac i aros yn eu cartrefi lle bo modd, gan osgoi derbyniadau diangen i'r ysbyty neu i ofal preswyl ac oedi pan fydd yn bryd i rywun adael gofal. Byddwn felly yn defnyddio system y Gronfa Gofal Integredig i ddosbarthu cyfran sylweddol o'r cyllid ychwanegol hwn. Rwy'n disgwyl i hyn gyfrannu at ddatblygu dull y tîm o amgylch yr unigolyn. Mae'r gronfa sefydledig hon eisoes yn cael ei defnyddio i gefnogi ystod o ddulliau arloesol ac integredig tuag at ddarparu gwasanaethau gofal. Bydd Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn parhau i ymgysylltu'n agos â defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr ynghylch sut y dylid defnyddio'r gronfa hon. Fel rhan o hyn, rwy'n disgwyl i fyrddau ystyried sut y gall gwasanaethau statudol a gwirfoddol gydweithio i ddarparu'r weledigaeth a amlinellir yn y cynllun, gan annog gwasanaethau i weithredu yn y gymuned yn hytrach na chanoli'r gwasanaethau gofal mewn ysbytai.

I ddechrau, bydd disgwyl i Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol edrych ar y gwasanaethau dementia a'r llwybr gofal presennol ym mhob ardal a datblygu gwasanaethau yn unol â'r cynllun dementia sy'n mynd i'r afael â'r bylchau hyn. Dylai hyn hefyd nodi sut y bydd y gwasanaethau hyn yn cysylltu â'r rhai ar gyfer y boblogaeth hŷn yn fwy eang. Bydd y sector gwirfoddol yn chwarae rhan bwysig yn hyn ac rwy'n disgwyl gweld trafodaethau'n cael eu cynnal am y penderfyniadau hyn â'r rheini fydd yn cael y gwasanaethau hyn.

Bydd Grŵp Sicrwydd Cyflenwi a Gweithredu ar Ddementia yn mesur cynnydd y cynllun a bydd yr aelodau'n cynnwys pobl sy'n byw â dementia, eu gofalwyr a'u teuluoedd. Bydd rhagor o fanylion am y grŵp hwn yn cael eu rhannu maes o law.

Bydd y cynllun yn cael ei adolygu ar ôl tair blynedd i sicrhau bod y camau gweithredu'n parhau'n uchelgeisiol ac yn berthnasol, a byddaf yn disgwyl gwerthusiad o ganlyniadau'r gwasanaethau newydd fydd yn cael eu datblygu ar lefel leol.