Neidio i'r prif gynnwy

Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Roedd ein Cynllun Gweithredu ar gyfer Cartrefi Gofal, a gyhoeddwyd fis Gorffennaf y llynedd, yn nodi ein camau gweithredu lefel uchel i sicrhau bod y sector cartrefi gofal yn cael cefnogaeth dda cyn y gaeaf, y gwyddem y byddai’n un heriol dros ben. Heddiw, rwyf wedi cyhoeddi'r trydydd diweddariad, sef yr un terfynol, sy’n adlewyrchu ar y gwersi a ddysgwyd yn ystod y pandemig ac ar y camau nesaf: 

https://llyw.cymru/cynllun-gweithredu-cartrefi-gofal-diweddariad-terfynol 

Ni welwyd cyfnod tebyg i’r 12 mis diwethaf. Mae ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol wedi bod dan straen enfawr, ac eto drwy gydol eu cyfnod maent wedi parhau'n broffesiynol, yn wydn ac yn arwrol. Hoffwn dalu teyrnged ichi i gyd am y gofal a'r  tynerwch rydych wedi'u dangos. Cafwyd llawer o enghreifftiau eithriadol o'n gweithlu gofal cymdeithasol yn mynd y tu hwnt i’w dyletswydd yn ystod ton gyntaf ac ail don y pandemig. Mae tystiolaeth gynnar wedi dangos bod hyblygrwydd ac ystwythder y gweithlu wedi bod yn hollbwysig yn ein hymateb

Gwyddom fod blinder a lludded staff yn bryder mawr ar draws y sector. Yn yr un modd ag yr ydych wedi cefnogi'r rhai yn eich gofal, mae angen i ninnau sicrhau bod eich iechyd a'ch llesiant chi yn cael eu hystyried hefyd. Rydym wedi gwneud rhywfaint o gynnydd gwirioneddol yn y maes hwn dros y gaeaf drwy gyflwyno Rhaglen Cymorth i Weithwyr, sefydlu rhwydwaith llesiant ac wrth gwrs yn fwyaf diweddar, cyhoeddi ail daliad bonws o £735 a fydd yn daladwy i holl staff cartrefi gofal. Fodd bynnag, disgwylir i'r effaith hirdymor ar lesiant ac iechyd meddwl, yn arbennig, fod yn sylweddol a rhaid i hyn barhau i fod yn flaenoriaeth allweddol inni.

Yn y diweddariad a gyhoeddais fis Rhagfyr y llynedd, roeddwn yn cydnabod y ffordd yr oedd byrddau iechyd, awdurdodau lleol a'u partneriaid yn y trydydd sector wedi cydweithio. Mae'r gwaith partneriaeth cryf hwn rhwng y gwasanaethau wedi parhau i ffynnu.  Rwyf hefyd wedi gwerthfawrogi'r cyfleoedd ar gyfer rhannu dysg rhwng Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid wrth i ni weithredu'r cynllun hwn. Mae gweithio gyda'n gilydd fel system integredig a chyfan nid yn unig yn gyson â 'Cymru Iachach', mae hefyd yn angenrheidiol wrth inni adfer yn sgil y pandemig dinistriol hwn.

Mae diogelu’r rhai sy'n agored i niwed a lleihau'r risg y bydd COVID-19 yn mynd i gartrefi gofal wedi bod yn hollbwysig. Mae trefn gadarn o atal a rheoli heintiadau, glynu wrth y canllawiau ar ryddhau cleifion o'r ysbyty, cyflwyno’r cynllun ychwanegiad at y tâl salwch statudol yn sgil COVID-19, cyflwyno mwy o brofion ar gyfer staff cartrefi gofal ac ymwelwyr, i gyd wedi chwarae eu rhan, ochr yn ochr â'r mesurau iechyd cyhoeddus, i atal trosglwyddo cymunedol.

Fe wyddom fod cyfyngiadau ar ymweld wedi bod yn eithriadol o anodd i bobl sy'n byw mewn cartrefi gofal, a'u hanwyliaid. Nid yw penderfyniadau i gyfyngu ar ymweliadau wedi'u gwneud ar chwarae bach, ond ystyrir eu bod yn angenrheidiol i amddiffyn pobl rhag risg COVID-19, yn enwedig ar yr adegau pan fo’r pandemig ar ei anterth. Rwy’n ddiolchgar i bawb yn y sector, ond yn arbennig i staff cartrefi gofal am eu gwaith yn cynnal y cysylltiad rhwng pobl a'u teuluoedd, ac am eu cefnogaeth wrth inni ailgyflwyno ymweliadau cartref gofal o dan do gan un ymwelydd dynodedig.

Mae defnydd effeithiol o brofion, cyfarpar diogelu personol ac arferion atal a rheoli heintiadau wedi arwain at ostyngiad amlwg a chalonogol yn nifer y canlyniadau prawf positif mewn cartrefi gofal. Mae’r rhaglen frechu hefyd, er nad yw'n dileu'r angen i sicrhau bod yr arferion hyn yn parhau ac y glynir wrthynt, yn darparu llygedyn o obaith mewn twnnel hir a iawn. 

Mae cynaliadwyedd ariannol y sector yn parhau i fod yn her sylweddol. Mae COVID-19 wedi cael effaith ar sefyllfa ariannol llawer o ddarparwyr gofal oherwydd pwysau’r costau ychwanegol sy'n gysylltiedig â chamau ychwanegol i atal a rheoli heintiadau a chyfyngiadau staffio, law yn llaw â gostyngiad mewn incwm. Mae'r cyllid yr ydym wedi'i ddarparu drwy'r Gronfa Caledi Llywodraeth Leol wedi chwarae rôl o ran galluogi gwasanaethau i barhau i weithredu ond mae'r pandemig wedi rhoi hwb ychwanegol i ystyriaethau ynghylch ffurf gofal cymdeithasol yn y dyfodol, a'r broses gomisiynu yn benodol. Mae'r rhain wedi'u cynnwys yn y papur gwyn 'Ailgydbwyso Gofal a Chymorth', sy'n destun ymgynghoriad ar hyn o bryd

Ailgydbwyso Gofal a Chymorth.

Rydym yn gwybod na allwn gael gwared ar COVID-19 yn y dyfodol agos, felly mae'n rhaid inni ddysgu byw a gweithio ochr yn ochr ag ef. Cafodd ein hymrwymiad i barhau i weithio mewn partneriaeth â'r sector cartrefi gofal a'i gefnogi ei wneud yn glir ar 22 Mawrth, wrth gyhoeddi Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru - COVID-19: Edrych Tua’r Dyfodol. Gyda chefnogaeth cyllid cychwynnol o £100m, bydd y cynllun hwn yn sail i adfer ein system iechyd a gofal yng Nghymru.

Nid yw'r her ar ben o bell ffordd ond drwy ddysgu'r gwersi o'r pandemig a manteisio ar y cyfleoedd a'r newidiadau a welsom yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gallwn drawsnewid y ffordd rydym yn darparu gwasanaethau iechyd a gofal yn y dyfodol.