Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd
Rwyf heddiw’n cyhoeddi fy Nghynllun Gwaith Polisi Trethi diweddaraf, sy'n nodi ein rhaglen waith ar drethi datganoledig hyd at ddiwedd Senedd Cymru bresennol. Mae'r cynllun yn nodi'r ymchwil, yr adolygiadau a'r gweithgarwch arall y bydd Llywodraeth Cymru yn ymgymryd ag ef, gan adeiladu ar yr hyn rydym wedi'i ddysgu hyd yma, wedi'i ategu gan ein Fframwaith Polisi Trethi.
Mae'r cynllun yn canolbwyntio ar dair thema:
A. Datblygu polisi trethi mor deg â phosibl, sy'n gyson â blaenoriaethau polisi Llywodraeth Cymru, mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid.
B. Gweithredu a datblygu trethi Cymreig o fewn cyd-destun y DU.
C. Gwella gwybodaeth am drethi yng Nghymru a dealltwriaeth ohonynt.
Mae'r cynllun gwaith i'w weld yma.
Byddaf yn croesawu cyfraniadau at unrhyw agwedd ar y cynllun gwaith a byddaf yn adrodd ar gynnydd y cynllun y flwyddyn nesaf.
Ers 2014, mae Gweinidogion Cyllid wedi cael cefnogaeth gyda’u gwaith ar drethi Cymreig gan y Grŵp Cynghori ar Drethi. Mae’r grŵp yn cynnwys arbenigwyr ym maes trethi a chynrychiolwyr o'r byd busnes, llywodraeth leol a'r trydydd sector. Gyda'r tair treth Gymreig wedi'u cyflwyno bellach - Treth Trafodiadau Tir, Treth Gwarediadau Tirlenwi a Chyfraddau Treth Incwm Cymru, mae'r grŵp wedi cyflawni ei ddiben ac mae wedi cael ei ddiddymu. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r aelodau am eu cyfraniadau, gan gynnwys eu cyfraniad at Gynlluniau Gwaith Polisi Trethi blaenorol. Wrth i'n cyfrifoldebau treth datganoledig aeddfedu, rwy'n sefydlu Grŵp Ymgysylltu newydd ar gyfer Trethi, a fydd yn helpu Llywodraeth Cymru i ystyried cyfleoedd a heriau yn y dyfodol.