Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AC, Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Chwefror 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw rwy’n cyhoeddi cynllun gwaith polisi trethi 2019, gan amlinellu’r rhaglen ymchwil, adolygiadau a gweithgareddau eraill y bydd Llywodraeth Cymru yn ei dilyn yn ystod y flwyddyn.

Mae’r cynllun gwaith yn adeiladu ar yr hyn rydym wedi’i ddysgu hyd yn hyn, ac mae’n unol â’r egwyddorion a amlinellwyd yn Fframwaith Polisi Trethi Llywodraeth Cymru.  Yn fwyaf arbennig, mae’n rhan o’n dull agored a chynhwysol o ddatblygu polisi trethi.

Mae’r materion y rhoddir sylw iddynt yn cael eu grwpio dan dri phrif bennawd:

A.      Datblygu polisi trethi sy’n codi refeniw i gyllido gwasanaethau cyhoeddus mor deg ag sy’n bosibl, yn gyson â blaenoriaethau polisi Llywodraeth Cymru – gan gynnwys ein cynlluniau hwy i adeiladu sylfaen drethu Cymru.

B.      Adeiladu agwedd fwy effeithiol a chydgysylltiedig at drethi ar draws y trethi Cymreig presennol ac ar draws y dirwedd drethi ehangach – gan gynnwys opsiynau i wella trefniadau rhannu data a chryfhau’r sail dystiolaeth fel sail i benderfyniadau trethi.

C.      Ymgysylltu, cyfathrebu a meithrin gallu – gan gynnwys ein nod o ymgysylltu’n ehangach â dinasyddion.

Rwy’n croesawu cyfraniadau tuag at unrhyw agwedd ar y cynllun gwaith.  Wrth i’r rhaglen fynd yn ei blaen, byddaf yn chwilio am gyfleoedd i drafod rhai o’r materion mwy strategol yn y Cynulliad, er mwyn galluogi’r Aelodau i gyfrannu at yr agenda bwysig hon.

Byddaf yn cyhoeddi adroddiad yn crynhoi’r hyn y byddwn wedi’i ddysgu yn yr hydref.

Mae cynllun gwaith polisi trethi 2019 ar gael yma:

https://beta.llyw.cymru/cynllun-gwaith-polisi-trethi-2019