Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Chwefror 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae cynllun gwaith polisi trethi 2018, yr wyf yn ei gyhoeddi heddiw, wedi’i seilio’n gadarn ar yr egwyddorion yn Fframwaith Polisi Trethi Llywodraeth Cymru.

Dylai trethi Cymru:

  • Godi refeniw i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus mor deg a phosibl
  • Cyflawni amcanion polisi presennol Llywodraeth Cymru, yn enwedig cefnogi twf a swydd
  • Bod yn glir, yn sefydlog ac yn syml
  • Cael eu datblygu drwy gydweithredu ac ymwneud
  • Cyfrannu at nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol o greu Cymru fwy cyfartal.

Mae’r cynllun gwaith yn amlinellu blaenoriaethau tymor byr a hirdymor Llywodraeth Cymru yn y pum maes a ganlyn:

  • Cyfraddau treth – gan gynnwys dadansoddi, rhagweld ac ymgysylltu â'r cyhoedd i helpu i gyflwyno cyfraddau treth incwm Cymreig ar gyfer 2019-20, a chyfrannu at benderfyniadau am gyfraddau a bandiau
  • Polisi trethi – gan gynnwys y camau nesaf ar gyfer datblygu treth newydd i Gymru a'n hymrwymiad parhaus i sicrhau bod toll teithwyr awyr yn cael ei ddatganoli
  • Gwelliannau trethiant lleol – sy'n rhan o'n hymrwymiad i ddiwygio cyllid llywodraeth leol;
  • Gweinyddu trethi – sicrhau bod gennym y dulliau cywir ar waith i ddiwallu anghenion trethdalwyr a bod y refeniw cywir yn cael ei gasglu
  • Ymchwil hirdymor – sy'n gofyn cwestiynau mwy sylfaenol am gyfeiriad ein strategaeth dreth i'r dyfodol.

Caiff cynllun gwaith 2018 ei gyhoeddi yn unol ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i weithredu mewn ffordd agored a chynhwysfawr mewn perthynas â pholisi treth. Mae bod yn glir am ein cynlluniau yn golygu y gall yr Aelodau, a'r Pwyllgor Cyllid yn benodol, y cyhoedd a sefydliadau â buddiant yng Nghymru weld yr hyn mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud er mwyn iddynt ofyn cwestiynau a chyfrannu barn, gwybodaeth a phrofiadau i helpu ein gwaith.

Byddaf yn cyhoeddi adroddiad ar y cynnydd a wnaed yn erbyn cynllun gwaith polisi trethi 2018 yn yr hydref.

Mae'r cynllun gwaith polisi trethi llawn ar gyfer 2018 ar gael yma: http://gov.wales/funding/fiscal-reform/tax-policy-framework/?lang=cy