Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Gorffennaf 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwy'n cyhoeddi ymateb Llywodraeth Cymru i'r adborth a gafwyd i'r ymgynghoriad: Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy: Cadw ffermwyr yn ffermio. Yr ymgynghoriad hwn oedd cam diweddara'r broses i ddatblygu ein cymorth i amaethyddiaeth yng Nghymru yn y dyfodol,  Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad ac a rannodd eu barn mewn ffyrdd eraill, gan gynnwys drwy'r sioeau teithiol a gynhaliwyd yn gynharach eleni. 

Ein huchelgais yw gweld diwydiant ffermio byrlymus a llewyrchus; a chynhyrchu bwyd yn gynaliadwy sydd o hyd wrth wraidd ein cynigion. Fel rhan o hynny, rhaid cofio mai'r argyfwng natur a hinsawdd yw'r risg pennaf i'n gallu i gynhyrchu bwyd dros y tymor hir, a'n hecosystemau naturiol yw'r amddiffyniad gorau sydd gennym wrth addasu i'r newid yn yr hinsawdd a lleihau ei effeithiau. 

Ers fy mhenodi, rwyf wedi bod yn gwrando ar y diwydiant ffermio a rhanddeiliaid allweddol eraill ac rwyf am weithio mewn partneriaeth â nhw wrth lunio'r Cynllun terfynol. I'r perwyl hwn, rwyf eisoes wedi cynnal dau gyfarfod o'r Ford Gron Gweinidogol. Pwrpas y Ford Gron yw datblygu ymhellach y cydweithio sydd ei angen i ddylunio'r SFS ac i'w roi ar waith, gan adeiladu ar y cyfnodau cyd-ddylunio ac ymgysylltu sydd eisoes wedi'u cynnal. Er mai Gweinidogion Cymru fydd yn gwneud y penderfyniadau terfynol, bydd y Ford Gron yn gwneud cyfraniad pwysig at lunio'r Cynllun. 

Hefyd, mae'r Panel Tystiolaeth ar Ddal Carbon wedi cyfarfod ddwywaith a thros yr haf bydd yn ystyried unrhyw gynigion amgen i ddal rhagor o garbon o fewn Gweithredoedd Cyffredinol y Cynllun. Rwy'n ddiolchgar i'r holl randdeiliaid am eu hamser a'u hymrwymiad fel aelodau o'r Ford Gron Gweinidogol a grwpiau cefnogi eraill. Mae eu cyfraniad at y penderfyniadau y bydd angen i Weinidogion Cymru eu gwneud yn y pen draw i ddyluniad y Cynllun a sut i'w roi ar waith, wedi bod yn hanfodol. 

Rydym yn disgwyl diweddariadau achlysurol gan y Ford Gron drwy'r flwyddyn.

Rwyf am ddweud eto nad oes unrhyw benderfyniadau wedi'u gwneud ynghylch dyluniad y Cynllun eto. Rydym wedi clywed ac yn deall y pryderon a godwyd yn y broses ymgynghori, ac mae'n amlwg y bydd angen newid y Cynllun cyn y bydd yn barod ar gyfer ei fabwysiadu. Ac rwyf wedi bod yn glir mai dim ond pan y bydd yn barod y bydd y Cynllun yn cael ei gyflwyno. Dyna pam dw i wedi cyhoeddi amserlen newydd ar gyfer cyflwyno'r Cynllun. 

Rydym am i'r SFS ddechrau yn 2026. Cyn hynny byddwn yn cynnal Cam Paratoi yn 2025 i roi  cyngor a help i ffermwyr cyn cyflwyno'r Cynllun. 

Byddwn yn cyhoeddi rhagor o fanylion am y Cam Paratoi ar gyfer 2025 maes o law, ynghyd â manylion y BPS yn 2025 a chynlluniau eraill a fydd ar gael cyn cyflwyno'r SFS. 

Rwy'n gwybod bod hwn wedi bod yn gyfnod ansicr i lawer o ffermwyr a'u teuluoedd. Byddwn yn parhau i weithio'n gyflym i lunio'r Cynllun terfynol er mwyn i ni allu rhoi sicrwydd ynghylch y cymorth a fydd ar gael yn y dyfodol cyn gynted â phosibl. Trwy weithio gyda'n gilydd, gallwn sicrhau diwydiant amaeth cynaliadwy yng Nghymru am genedlaethau i ddod.