Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AS, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Hydref 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae hyrwyddo Cymru decach, fwy llewyrchus a gwyrdd wrth wraidd dull Llywodraeth Cymru o fynd i'r afael â thlodi. Rydym wedi cymryd camau clir a phendant ers sawl blwyddyn i fynd i'r afael â thlodi yn ein cymunedau a diogelu a chefnogi'r rhai sydd fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas.

Mae polisïau a mentrau Llywodraeth Cymru, fel presgripsiynau am ddim, prydau ysgol am ddim, y lwfans cynhaliaeth addysg (LCA) a chynnig gofal plant hael, wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl y mae angen cymorth arnynt fwyaf. Rydym hefyd wedi mynd i'r afael â thlodi tanwydd, ac mae'r amcangyfrifon diweddaraf yn awgrymu bod lefelau tlodi tanwydd yng Nghymru wedi mwy na haneri mewn cyfnod o ddeng mlynedd.

Gellir priodoli llawer o'r gostyngiad hwn i'n buddsoddiad parhaus yn y Rhaglen Cartrefi Clyd, sy'n cefnogi perchennog-ddeiliaid a phobl sy'n byw yn y Sector Rhentu Preifat.

Mae dros £366 miliwn wedi'i fuddsoddi drwy'r rhaglen hon, ac mae  dros 61,400 o gartrefi wedi elwa arni ers 2011, gyda thalwyr biliau yn arbed dros £280 ar gyfartaledd ar filiau tanwydd blynyddol eu cartrefi. Mae'r penderfyniad i ehangu Cynllun Peilot Iechyd Nyth ym mis Gorffennaf 2019 wedi galluogi mwy na 1,000 o bobl sy'n wynebu risg o salwch y gellid ei osgoi o ganlyniad i fyw mewn cartref oer, i gael cymorth.

Mae ein buddsoddiad yn Safon Ansawdd Tai Cymru wedi arwain at welliannau pellach o ran effeithlonrwydd ynni tai cymdeithasol, sydd wedi galluogi tenantiaid i gynnal cartref clyd am gost fforddiadwy. 

Drwy'r mentrau hyn, rydym wedi gallu rhoi mwy o arian yn ôl ym mhocedi pobl drwy leihau eu biliau ynni.

Er gwaethaf y cynnydd rydym wedi'i wneud, yn 2018, amcangyfrifwyd bod 144,000 o gartrefi incwm is yn byw mewn tlodi tanwydd. Mae 145,000 o gartrefi pellach yng Nghymru yn wynebu risg o fyw mewn tlodi tanwydd. Mae hyn yn golygu eu bod yn gwario rhwng wyth a deg y cant (8-10%) o incwm eu cartref ar danwydd i'r cartref.

Mae lleihau tlodi tanwydd ymhellach wedi bod yn anos fyth oherwydd ein dibyniaeth ar Lywodraeth y DU i gymryd camau ar les a rheoli'r systemau cynhyrchu a dosbarthu ynni yn y DU, ac oherwydd pandemig y coronafeirws, a gyrhaeddodd ein glannau ym mis Chwefror.

Rydym wedi gweithio i ddiogelu ac ynysu cartrefi rhag effeithiau gwaethaf y feirws angheuol hwn. Rydym wedi darparu cymorth ychwanegol i gefnogi cartrefi incwm isel drwy ein Cronfa Cymorth Dewisol, ac wedi ychwanegu at gyllid Llywodraeth y DU i gefnogi ein cymuned fusnes. Er gwaethaf hyn, mae ein heconomi ac incwm cartrefi wedi dioddef.

Ar 31 Gorffennaf 2020, roedd 195,600 o weithwyr yng Nghymru wedi'u hatgyfnerthu o dan Gynllun Cadw Swyddi Coronavirus, cyfradd derbyn o 15%, yr ail uchaf ar y cyd o holl wledydd y DU a rhanbarthau Lloegr. Nododd data a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf fod nifer y bobl sy'n hawlio Credyd Cynhwysol yng Nghymru hefyd wedi parhau i dyfu, gyda nifer yr hawlwyr bellach 74.5% yn uwch nag ym mis Mawrth, cynnydd o 116,000 o bobl.

Yn y cyd-destun hwn, rwyf wedi cyhoeddi ein cynllun drafft newydd i fynd i'r afael â thlodi tanwydd.

Caiff ei lywio gan waith ymgysylltu helaeth â'r trydydd sector sy'n cefnogi ein cymunedau, gan gynnwys cyfarfod bord gron a gynhaliais ym mis Mehefin y llynedd.  Caiff ei lywio ymhellach gan yr Adroddiad Tirwedd ar Dlodi Tanwydd yng Nghymru, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2019 gan Swyddfa Archwilio Cymru, a'r gwaith a wnaed fel rhan o ymchwiliad Pwyllgor y Senedd ar gyfer Newid yn yr Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig i dlodi tanwydd, a gyflwynwyd ym mis Ebrill.  

Yr adroddiadau pwysig hyn yw asgwrn cefn y cynllun drafft, sy'n cynnig gostwng lefelau amcangyfrifedig tlodi tanwydd dros y 15 mlynedd nesaf. Yn bwysicach, mae'n nodi'r camau gweithredu uniongyrchol y mae angen eu cymryd dros y ddwy flynedd nesaf.

Byddwn yn datblygu fersiwn nesaf y Rhaglen Cartrefi Clyd. Yn seiliedig ar ein profiad a'r prosiectau datblygu rwyf wedi'u crybwyll, byddwn yn gwneud y canlynol:

  • Parhau i dargedu cymorth i gartrefi incwm is sy'n byw mewn tlodi tanwydd, neu sy'n wynebu risg o hynny;
  • Parhau i ddatblygu dull gweithredu deunyddiau yn gyntaf mewn perthynas ag ôl-osod mesurau effeithlonrwydd ynni cartref, gan osod y mesurau mwyaf priodol i alluogi deiliaid tai i gynnal system gwresogi foddhaol am gost fforddiadwy;
  • Parhau i ganolbwyntio ar fuddsoddi yn y cartrefi mwyaf thermol aneffeithlon yng Nghymru;
  • Gweithio tuag at symud i ffwrdd oddi wrth losgi glo, pren ac olew gwresogi yn ein cartref at ddibenion gwresogi sylfaen, fel rhan o'n hymrwymiadau a nodir yn ein cynllun aer glân a'n huchelgais i fod yn sero-net erbyn 2050;
  • Gosod systemau gwresogi carbon isel a lleihau'r orddibyniaeth ar losgi tanwyddau ffosil i wresogi ein cartrefi, gan reoli'r broses hon o drosglwyddo mewn ffordd na fydd yn arwain at fwy o gartrefi yn byw mewn tlodi tanwydd.

Fel rhan o'n cynllun, rwyf hefyd yn cynnig gwneud mwy i wella gwasanaethau cyngor a chymorth i gartrefi agored i niwed a phobl sydd wedi ymddieithrio o'r farchnad ynni. Yn ystod y misoedd nesaf, fy mwriad yw rhoi cynllun peilot ar waith i archwilio'r hyn y gellir ei gyflawni drwy gynnig cyngor a chymorth ynghylch effeithlonrwydd ynni mewn modd mwy rhagweithiol.

Ochr yn ochr â hyn, mae buddsoddi mewn gwella effeithlonrwydd ynni ein tai yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon, a bydd yn parhau felly.

Bydd y gwaith sy'n cael ei wneud gan fy nghydweithiwr yn y Cabinet, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, fel rhan o'r Cynllun Peilot Ôl-osod er mwyn Optimeiddio a'n Rhaglen Tai Arloesol, yn sicrhau bod cynlluniau sy'n cynnig mesurau effeithlonrwydd ynni yn cyflawni'r canlyniadau gorau i ddeiliaid tai a'r amgylchedd. Mae'r gwaith hwn yn cysylltu'n uniongyrchol â'n hymdrechion i ddatgarboneiddio tai Cymru a'n huchelgeisiau i ail-greu economi a all gyflawni ein huchelgeisiau o ran yr hinsawdd yn well.

Mae'r cynllun drafft i fynd i'r afael â thlodi tanwydd a gyhoeddais ar 30 Medi ar fin cymryd i ystyriaeth y realiti newydd a gyflwynwyd gan y pandemig coronafirws, mynd i'r afael â'r bygythiad parhaus a achosir gan Newid Hinsawdd a chymryd camau newydd i godi pobl yng Nghymru allan o dlodi tanwydd i gyd. ei ffurfiau.