Lesley Griffiths AS, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
Rwy’n croesawu cynllun diwygiedig Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i fynd i’r afael â chrynodiadau o nitrogen deuocsid wrth ymyl y ffyrdd yn Hafodyrynys, Caerffili er mwyn helpu i wella iechyd. Mae hwn yn gam terfynol sylweddol i sicrhau ein bod yn gweithredu’n briodol i gydymffurfio ar frys â Chyfarwyddeb Ansawdd Aer yr Amgylchedd a rheoliadau Cymru.
O ganlyniad i beidio â chydymffurfio â Chyfarwyddeb 2008/50/EC ar Ansawdd Aer yr Amgylchedd ac Aer Glanach i Ewrop, llofnododd cyn-Weinidog yr Amgylchedd Gyfarwyddyd ym mis Chwefror 2018. Roedd y Cyfarwyddyd hwn yn ei gwneud yn ofynnol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili gynnal astudiaeth ddichonoldeb i nodi mesurau i fynd i’r afael â lefelau o nitrogen deuocsid sy’n uwch na’r gwerthoedd terfyn yn ei ardal, a hynny yn yr amser cynharaf posibl.
Cyflwynodd Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ei gynllun ar 28 Mehefin 2019, yn unol â’r Cyfarwyddyd. Roedd y cynllun yn cynnig dymchwel anheddau ac adleoli llwybr troed ar ochr ddeheuol Hafodyrynys Road yn Woodside Terrace. Cafodd y dull gweithredu hwn ei fodelu i ddangos sut y byddai llygryddion wedi’u gwasgaru’n well drwy gael gwared ar yr effaith ‘ceunant’ rhwng strydoedd. Byddai’r cynllun hwn hefyd yn symud y preswylwyr hynny sy’n dioddef fwyaf o effaith ansawdd aer gwael oddi yno.
Cafodd panel adolygu arbenigol annibynnol ei alw ynghyd er mwyn asesu’r cynllun a rhoi cyngor i sicrhau fod y cynigion yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn a’u bod yn debygol o sicrhau bod y Cyngor yn cydymffurfio â therfynau cyfreithiol yn yr amser cynharaf posibl.
Fodd bynnag, nid oedd y Gweinidogion yn gallu derbyn cynllun Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili bryd hynny. Nid oedd cynllun yr Awdurdod yn bodloni’n llwyr ofynion y Cyfarwyddyd a gyhoeddwyd yn 2018 gan nad oedd y Gweinidogion yn ddigon hyderus y byddai’r opsiwn a ffefrir yn bodloni’r gofyniad cyfreithiol. Fodd bynnag, roedd yr asesiad o’r gwaith o ddymchwel anheddau yn dangos mai hwn fyddai’r opsiwn mwyaf tebygol o gyflawni’r gofyniad cyfreithiol. Hwn hefyd fyddai’r opsiwn mwyaf tebygol o leihau faint o nitrogen deuocsid y mae’r cyhoedd yn ei anadlu, a hynny yn yr amser cynharaf posibl. Felly, yn unol â’r Cyfarwyddyd, fe wnaeth yr Awdurdod fwrw ymlaen â’r mesur hwn gan gynnal asesiad arall er mwyn ceisio argyhoeddi’r Gweinidogion fod y gwerthoedd terfyn yn debygol o gael eu bodloni. Mae cyllid o dros £6 miliwn wedi’i ddyfarnu i dalu costau’r gwaith hwn gan gynnwys iawndal i gaffael anheddau. Mae’r gwaith wedi bod yn mynd rhagddo yn gyflym i gyflawni hyn.
Rwy’n falch fy mod i bellach wedi cael cynllun terfynol diwygiedig Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili fel sy’n ofynnol o dan delerau eu Cyfarwyddyd. Rwy’n cymeradwyo’r Awdurdod am lynu wrth gyfyngiadau amser heriol i gyflawni hyn. Mae’r asesiad diweddaraf wedi dangos, gyda mwy o argyhoeddiad, fod yr opsiwn a ffefrir yn debygol o sicrhau bod y Cyngor yn cydymffurfio â gwerthoedd terfyn nitrogen deuocsid yn yr amser cynharaf posibl. Mae’r asesiad hwn wedi cael ei gefnogi gan ein panel adolygu arbenigol annibynnol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella ansawdd yr aer yng Nghymru. Er hynny, mae’n amlwg ein bod yn wynebu heriau sylweddol wrth wneud hynny. Mae’n hollbwysig ein bod yn gweithredu i ostwng lefelau nitrogen deuocsid yn is na’r terfynau cyfreithiol. Rhaid gwneud hynny yn yr amser cynharaf posibl er mwyn gwarchod iechyd y cyhoedd a’r amgylchedd naturiol.
Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod toriad yr haf er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am y cynnydd parhaus a wneir i fynd i’r afael â chrynodiadau o nitrogen deuocsid wrth ymyl y ffyrdd yn Hafodyrynys, Caerffili.