Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid
Bydd Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi, sy'n cael ei gyhoeddi heddiw, yn disodli'r Gronfa Cymunedau Tirlenwi yng Nghymru ac yn cefnogi prosiectau amgylcheddol a chymunedol mewn ardaloedd sydd wedi'u heffeithio gan waredu gwastraff i safleoedd tirlenwi.
Daw i rym ar 1 Ebrill 2018, pan fydd treth gwarediadau tirlenwi yn cael ei chyflwyno yng Nghymru.
Cynllun Llywodraeth Cymru yw hwn, a fydd yn cael ei ddosbarthu dan gontract gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru rhwng mis Ebrill 2018 a mis Mawrth 2022. Bydd yn ariannu prosiectau sy'n cefnogi bioamrywiaeth, lleihau gwastraff a dargyfeirio gwastraff o safleoedd tirlenwi a gwelliannau amgylcheddol eraill.
Y nod cyffredinol yw helpu cymunedau sy'n cael eu heffeithio gan warediadau gwastraff i safleoedd tirlenwi.
Caiff £1.5m ei neilltuo i'r cynllun, i'w ddyfarnu fel grantiau i brosiectau llwyddiannus. Bydd grantiau rhwng £5,000 a £50,000 ar gael mewn dwy rownd ymgeisio flynyddol, gydag un prosiect sylweddol y flwyddyn yn cael cynnig hyd at £250,000 o gyllid.
Bydd cymunedau a phrosiectau sydd o fewn pum milltir i safle tirlenwi neu orsaf trosglwyddo gwastraff sy'n anfon o leiaf 2,000 o dunelli o wastraff i safle tirlenwi bob blwyddyn yn gymwys i wneud cais i Gynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi.
Gall prosiectau barhau i fanteisio ar unrhyw gyllid y Gronfa Cymunedau Tirlenwi a ddyrannwyd cyn 31 Mawrth 2018. Bydd dwy flynedd o gyfnod pontio er mwyn cwblhau prosiectau'r Gronfa Cymunedau Tirlenwi yng Nghymru a gwario'r holl gyllid sy'n weddill. Bydd y cyfnod hwn yn ymestyn o 1 Ebrill 2018 i 31 Mawrth 2020.
Hannah Blythyn, Gweinidog yr Amgylchedd, fydd â'r cyfrifoldeb Gweinidogol dros Gynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi pan fydd yn weithredol.
Mae rhagor o wybodaeth am y cynllun ar wefan Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (dolen allanol).
Caiff y cynllun ei osod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.