Jane Hutt MS, Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol
Rydym yn gwybod bod pobl ledled Cymru yn ei chael yn anodd cael deupen llinyn ynghyd yn ystod yr argyfwng costau byw, oherwydd chwyddiant, a bod costau petrol, eitemau hanfodol yn y cartrefi a biliau ynni i gyd yn codi.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi'r bobl fwyaf agored i niwed a gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau y gallant gael cynhaliaeth drwy'r cyfnod anodd hwn.
Dyna pam rwy’n cyhoeddi heddiw y bydd £90m ar gael i gefnogi aelwydydd drwy Gynllun Cymorth Tanwydd Llywodraeth Cymru. Cynllun sy’n cydnabod effaith yr argyfwng costau byw ar y rhai sy'n ei chael hi'n anodd talu eu biliau ynni.
Yn flaenorol, cafodd dros 166,000 o aelwydydd – a oedd yn hawlio credyd cynhwysol, budd-dal prawf modd etifeddol a chredydau treth gwaith – fudd o Gynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf Cymru gwerth £200 a gynhaliwyd y gaeaf diwethaf.
Mae'n bleser gennyf gyhoeddi, ar gyfer y cynllun eleni, yn unol â'r adborth a gawsom gan ein rhanddeiliaid drwy ein huwchgynhadledd costau byw, ein bod wedi gallu ymestyn y meini prawf cymhwysedd i gefnogi aelwydydd mwy agored i niwed gyda'r cymorth hanfodol hwn.
Bydd ymestyn y cynllun cymorth tanwydd yn golygu y bydd bron i 200,000 yn fwy o aelwydydd sy’n hawlio credydau treth plant, credydau pensiwn, budd-daliadau anabledd, lwfans gofalwyr, budd-daliadau cyfrannol, gan gynnwys y rhai sy'n cael cymorth gan Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor i dalu eu bil treth gyngor, bellach yn gymwys.
Gall aelwydydd cymwys hawlio taliad untro o £200 gan eu hawdurdod lleol i'w ddefnyddio i dalu biliau tanwydd. Bydd y taliad hwn ar gael i bob cwsmer ynni cymwys p'un a ydynt yn talu am eu tanwydd ar fesurydd talu ymlaen llaw, drwy ddebyd uniongyrchol neu drwy dalu bil bob chwarter a ph'un a ydynt yn defnyddio tanwydd ar y grid neu danwydd oddi ar y grid.
Bydd y cynllun yn derbyn ceisiadau ar 26 Medi 2022 ac rydym yn disgwyl gwneud y taliadau cyntaf ym mis Hydref 2022.
Rydym yn targedu'r Cynllun Cymorth Tanwydd at aelwydydd incwm isel ac yn ehangu nifer y rhai sy'n gymwys, gan ein bod yn deall sut y gall misoedd y gaeaf fod yr anoddaf o'r flwyddyn ac mae teuluoedd yn wynebu'r dewis anodd o dalu am wres neu dalu am fwyd.
Mae'r cymorth hwn yn ychwanegol at gynllun talebau tanwydd Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd fis diwethaf gyda'r nod o ddarparu cymorth ar frys i'r aelwydydd hynny sy'n gorfod talu ymlaen llaw am ynni ac sy'n methu â gwneud hynny.
Ers mis Tachwedd rydym wedi buddsoddi dros £380 miliwn i liniaru effaith yr argyfwng costau byw ar aelwydydd difreintiedig.
Mae’n helpu i ariannu un taliad costau byw o £150 i bob aelwyd ac eiddo ym mandiau treth gyngor A i D ac i bob aelwyd sy’n cael cymorth gan Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor ym mhob band treth gyngor. Hyd yn hyn, mae £112m wedi cyrraedd pocedi’r rhai sy’n byw ar aelwydydd cymwys.
Byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i ddiogelu pobl Cymru rhag effeithiau’r argyfwng costau byw eithafol hwn. Rydym yn gwybod bod y cymorth ariannol yr ydym wedi ei roi i aelwydydd sy’n agored i niwed eisoes yn gwneud gwahaniaeth. Wedi dweud hynny, Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy'n gyfrifol am y prif ysgogiadau polisi i drechu tlodi mewn ffordd fwy cynaliadwy, gan fod y pwerau dros dreth a lles yn eu dwylo nhw.
Mae’r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os bydd Aelodau am i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Senedd yn cyfarfod eto, rwy’n fodlon gwneud hynny.