Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies, y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Mai 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Hoffwn hysbysu Aelodau'r Cynulliad fy mod i wedi cytuno i ryddhau'r gyllideb ar gyfer trydedd flwyddyn y cynllun cymorth i newydd-ddyfodiaid (YESS). £1.705 miliwn fydd cyllideb y cynllun eleni hefyd.

Roedd cryn ddiddordeb yn nhrydedd flwyddyn y cynllun ac roedd safon y prosiectau a gynigiwyd yn uchel iawn. Mae llythyron cynnig wedi eu cyhoeddi, ac ar ôl cadarnhau'r cytundebau, caiff manylion llawn eu rhoi ynghylch nifer y ceisiadau llwyddiannus.

Mae'r cymorth parhaus ar gyfer y cynllun hwn yn dangos ymrwymiad y Llywodraeth i gefnogi entrepreneuriaeth yr ifanc a newid rhwng y cenedlaethau, er mwyn helpu i sicrhau dyfodol llewyrchus i amaethyddiaeth Cymru.

Hoffwn hysbysu'r Aelodau bod Gwobr Goffa Brynle Williams i gydnabod cyfraniad ein cyn gyd-Aelod at amaeth Cymru, fel Aelod y Cynulliad ac fel ffermwr, i’w gynnal eto eleni. Caiff enillydd y wobr flynyddol hon ei ddewis o blith ymgeiswyr llwyddiannus ail flwyddyn cynllun YESS a'i gyhoeddi yn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru. Rwy'n meddwl ei bod yn briodol iawn bod y wobr hon yn mynd i ffermwr ifanc gan ei fod yn adlewyrchu cymorth cadarn parhaus Brynle i ddiwydiant amaethyddol Cymru a'i gred bod ein pobl ifanc yn gallu sicrhau dyfodol ffyniannus i'r sector ffermio yn y wlad hon.