Neidio i'r prif gynnwy

Alan Davies AC, Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Ebrill 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Cyflwynwyd y Cynllun Cymorth i Newydd-ddyfodiaid Ifanc (YESS) yn 2010 i helpu newydd-ddyfodiaid a’r genhedlaeth nesaf i ffermio yng Nghymru.

Mae gan YESS ddau amcan:

  • Helpu newydd-ddyfodiaid a phobl ifanc i fentro i ffermio.  Mae’r cymorth yn canolbwyntio ar sicrhau eu bod yn meddu ar y gallu i redeg busnesau fferm cynaliadwy a phroffidiol yn broffesiynol.
  • Annog a helpu’r genhedlaeth nesaf i olynu’u rhieni yn niwydiant ffermio Cymru.

Mae’r pecyn cymorth yn cynnwys cyngor personol gan fentor, hyfforddiant rheoli sy’n benodol ar gyfer eich busnes chi a digwyddiadau codi ymwybyddiaeth strategol, hyn oll trwy wasanaethau Cyswllt Ffermio.  

Ers ei lansio yn 2010, mae 366 o newydd-ddyfodiaid a ffermwyr ifanc wedi elwa ar y cynllun.  Mae rhyw £5.1 miliwn o help ariannol wedi’i roi iddynt yn ogystal â chyngor mentoriaid a hyfforddiant busnes.  Mae ffermio heddiw’n golygu llawer mwy na dim ond gofalu am anifeiliaid.  Mae addysg a hyfforddiant ac yn arbennig, help mentoriaid profiadol o’r diwydiant yn hanfodol i sicrhau bod y genhedlaeth nesaf o ffermwyr yn gallu rhedeg eu busnesau llwyddiannus eu hunain ac arwain y diwydiant ehangach.

Mae YESS wedi rhagori ar ei dargedau gwreiddiol a chafodd yr elfen fentora ei chanmol yn adroddiad Hwyluso’r Drefn gan Gareth Williams fel esiampl i gynlluniau cymorth eraill ei dilyn yn y dyfodol.

Mae’r Comisiwn Ewropeaidd a Llywodraethau’r Alban a Gogledd Iwerddon wedi dangos diddordeb yn YESS a mawr fu croeso’r diwydiant ffermio yng Nghymru iddo.  Rydym yn awr yn awyddus i wneud yn fawr o lwyddiant amlwg YESS ac felly rydym wedi dechrau trefnu adolygiad ohono.  Mae’n dda gen i felly gyhoeddi bod Malcolm Thomas MBE wedi’i benodi fel cynghorydd allanol i mi ar sut i ddatblygu YESS yn y dyfodol ac ar ba help yn ei ystyr ehangach y gallem ei roi i’r genhedlaeth nesaf o ffermwyr yng Nghymru.

Bydd y gwaith yn dechrau’r wythnos hon a bydd Malcolm yn cyflwyno’i adroddiad ym mis Mehefin 2013.