Alun Davies, y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd
Mae'r achos o E.Coli yn yr Almaen wedi achosi anawsterau mawr i farchnad cynnyrch ffres yr UE. Gwnaeth datganiadau cynamserol yn yr Almaen a oedd yn rhoi y bai ar giwcymbrau Sbaenaidd niwed i hyder cwsmeriaid yn yr UE. Oherwydd y datganiadau hyn penderfynodd Ffederasiwn Rwsia wahardd mewnforio cynnyrch yr UE. Mae Rwsia fel arfer yn derbyn tua 35% o allforion yr UE. Er bod yr UE wedi parhau i fwyta cynnyrch cartref, mae hyn wedi cael effaith ar y marchnadoedd cyfanwerthu wrth i gynnyrch sydd dros ben o'r UE gael ei werthu yma am brisiau isel. Mae tyfwyr y DU wedi wynebu anawsterau wrth i'r lefel o gynnyrch sydd dros ben godi.
Ar 7 Mehefin cyhoeddodd y Comisiwn gynlluniau ar gyfer mesurau brys i helpu tyfwyr. Ariennir y mesurau hyn gan ddarpariaeth gyfredol y PAC. Cyflwynwyd Rheoliad drafft i'r Pwyllgor Rheoli y diwrnod hwnnw. Cafodd hwn ei newid bron ar unwaith i godi terfyn uchaf y gyllideb. Ers hynny cytunwyd ar y rheoliad a daeth i rym ar 18 Mehefin. Roedd y cyfnod ymgeisio yn fyr a nodwyd 30 Mehefin fel y dyddiad cau. Bydd y cynllun sy'n werth €210m yn rhoi iawndal i dyfwyr tomatos, letys, endives, ciwcymbrau, puprynnau melys a chourgettes ar draws yr UE y tynnwyd eu cynnyrch o’r farchnad neu a dyfodd cynnyrch na chafodd ei gynaeafu. Os bydd cyfanswm y cyllid y gwneir cais ar ei gyfer ar draws yr UE yn uwch na'r cyllid sydd ar gael, bydd y Comisiwn Ewropeaidd yn lleihau cyfran yr hawliau dilys (defnyddir yr un gymhareb ym mhob Aelod Wladwriaeth).
Dylai cynnyrch gael ei dynnu gan gyrff cynhyrchwyr, ond mewn gwledydd fel Cymru lle nad oes cyrff cynhyrchwyr gall tyfwyr wneud cais i'r cynllun yn uniongyrchol.
Gall unrhyw gynnyrch a gafodd ei dynnu o’r farchnad gael ei archwilio, a hynny o bosibl heb rybudd. Bydd yr archwiliad yn cynnwys edrych a yw’r safonau marchnata wedi’u bodloni, pwyso a samplu ac archwilio cynnyrch yn y caeau, yn ogystal â chynnyrch wedi’i gynaeafu. Bydd angen cadw’r cynnyrch ar gyfer ei archwilio tan 6pm y diwrnod gwaith ar ôl yr hysbysiad.
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn siarad â Defra a sector y diwydiant sy'n gefnogol iawn o'r cynllun fel ymateb angenrheidiol i'r anawsterau i'r farchnad. Hwn yw tymor cynhyrchu prysuraf y DU o ran cnydau salad ac mae cynnyrch sylweddol yn cael ei waredu fel cynnyrch sydd dros ben. Rydym ni'n ymwybodol i giwcymbrau gwerth £300,000 gael eu gwastraffu yn y DU yr wythnos ddiwethaf ac mae Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr yn amcangyfrif bod y sector salad yn colli tua £1 miliwn yr wythnos. Mae mesur tynnu'r Comisiwn Ewropeaidd yn cynnig y cyfle i leihau'r cynnyrch dros ben sy'n cyrraedd y DU o Aelod Wladwriaethau eraill.
Ond mae cyfyngiadau wrth gwrs; mae'r tyfwyr yn siomedig nad oes cymorth ar gyfer yr arian sydd wedi'i golli dros y cyfnod cyn i'r cynllun gael ei lansio pan godwyd prisiau is am eu cynnyrch. Nid yw pobl eraill sy'n rhan o'r gadwyn gyflenwi fel y mewnforwyr sy'n cael eu cynrychioli gan y Consortiwm Cynnyrch Ffres yn fodlon nad oes unrhyw gymorth ariannol iddyn nhw.
Mae'n rhaid cyflwyno'r cynllun hwn i fynd i'r afael â'r problemau ariannol difrifol uniongyrchol ac osgoi'r risg y bydd cystadleuwyr mewn aelod wladwriaethau eraill yn cael cymorth nad yw ar gael yma. Roedd yn rhaid rhoi'r cynllun ar waith ar unwaith i sicrhau nad yw ein tyfwyr yn wynebu unrhyw anfanteision eraill. Bydd y cynllun yn helpu i glirio cyflenwadau a dylai helpu i ail-sefydlogi’r farchnad.
Oherwydd yr amserlenni tynn sy'n gysylltiedig â'r cynllun iawndal, rwyf wedi caniatáu i Weinidog y DU weithredu'r cynllun yng Nghymru drwy'r Asiantaeth Taliadau Gwledig (RPA). Rwy'n argymell bod pawb sy'n cynhyrchu llysiau salad yr effeithiwyd arnynt gan yr achos o E-coli yn ystyried y cynllun iawndal cyn gynted â phosibl drwy fynd i wefan yr RPA. Gan fod y mesur hwn yn cael ei gymryd ar frys, bydd y cynllun yn cau ddiwedd mis Mehefin, felly mae'n rhaid cymryd camau yn brydlon.