Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Awst 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwy’n cyhoeddi heddiw fod Cynllun Cymorth yn cael ei gyflwyno ar gyfer Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) 2020.

Mae’r pandemig COVID-19 wedi tynnu sylw at y rôl hanfodol y mae’n diwydiant amaethyddiaeth yn ei chwarae o ran creu cymdeithas gydnerth. Yn ystod y cyfnod hwn, sy’n un na welwyd ei debyg o’r blaen, fy mlaenoriaeth oedd, ac yw, sicrhau bod ffermwyr yn cael yr hyblygrwydd a’r cymorth y mae eu hangen arnynt i ddiogelu cadwyni cyflenwi bwyd ac i sicrhau bod ein hamgylchedd yn gryf ac yn gadarn yn yr hirdymor. 

Mewn ymateb i’r pandemig, ailagorais Gynllun Cymorth y BPS a’r Cynllun Cymorth Glastir Sylfaenol ac Uwch ar gyfer 2019 i ymgeiswyr nad oeddent wedi cael taliad o’r blaen, ac estynnais y dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau a hawliadau, gan gynnwys y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno Ffurflen Gais Sengl 2020. Cyflwynais Gynllun Cymorth i Ffermwyr Godro hefyd. 

Rwy’n bwriadu adeiladu ar lwyddiant y Cynlluniau Cymorth a gyflwynwyd mewn blynyddoedd blaenorol drwy fynd ati unwaith eto i gyflwyno Cynllun Cymorth BPS ar gyfer 2020. Bydd hyn yn rhoi’r sicrwydd ariannol y mae dirfawr ei angen yn ystod y cyfnod digynsail hwn ar y busnesau fferm a fydd yn gwneud cais, a hynny ar adeg pan nad oes unrhyw eglurder ynglŷn â pherthynas fasnachu’r DU gyda’r UE yn y dyfodol wrth inni ddynesu at ddiwedd y cyfnod gweithredu.

Unwaith eto, bydd Cynllun Cymorth y BPS 2020 yn talu benthyciad o hyd at 90% o werth disgwyliedig yr hawliad a gaiff ei wneud gan fusnesau unigol o dan y  BPS. Bydd y cynllun yn fodd i sicrhau bod busnesau fferm yn cael eu trin mewn ffordd gyfartal, oherwydd ein bwriad yw gwneud taliadau o dan Gynllun Cymorth y BPS yn ystod ail wythnos cyfnod talu’r BPS, a fydd yn agor ar 1 Rhagfyr. 

Yn yr un modd ag yn 2019, bydd angen i fusnesau fferm wneud cais o dan Gynllun Cymorth y BPS. Bydd Taliadau Gwledig Cymru (RPW) yn darparu rhagor o fanylion a ffurflen gais

ar-lein o 1 Medi ymlaen. Ar yr amod bod ymgeiswyr yn bodloni’r telerau a’r amodau angenrheidiol, bydd yr ymgeiswyr hynny na fydd eu hawliadau BPS wedi cael eu dilysu yn cael taliadau erbyn dechrau mis Rhagfyr. Hoffwn annog pob un sy’n hawlio BPS 2020 i wneud cais gan ddefnyddio’r ffurflen syml a fydd ar gael ar-lein.

Rwy’n gwneud y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau. Byddaf yn hapus i wneud datganiad pellach ar ôl y toriad os byddai o gymorth i’r aelodau.