Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies, y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Rhagfyr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae cefnogi dyfodol ein sector amaethyddiaeth yng Nghymru yn hollbwysig i gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, yn ogystal â thaclo’r argyfwng hinsawdd a gwrthdroi colledion a gafwyd ym myd natur. 

Rydym wedi cyhoeddi heddiw ein Cynllun Cymorth Amlflwydd (“MASP”) cyntaf erioed yn unol â’r gofyn yn adran 11 o Ddeddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023 (y “Ddeddf”). Dyma garreg filltir bwysig ers pasio Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023 a dyma’r cyntaf o nifer o adroddiadau y bydd gofyn eu cyhoeddi o dan y Ddeddf. 

Rwy'n credu y dylai'r cymorth yr ydym ni fel llywodraeth yn ei ddarparu adlewyrchu'r newid pwysig hwn i'r cyd-destun, a gwobrwyo ein ffermwyr sy'n cymryd camau i ymateb i'r heriau hyn ledled Cymru. 

Mae'r MASP yn nodi plan Llywodraeth Cymru a’i chyfres o weithgareddau cymorth yn y dyfodol fydd yn rhoi sicrwydd a thryloywder i'r sector amaethyddol er mwyn i'r sector a'i fusnesau allu cynllunio mewn cylchoedd o bum mlynedd. Mae’r MASP cyntaf, sy’n cael ei gyhoeddi heddiw, yn cwmpasu’r cyfnod rhwng 1 Ionawr 2025 a 31 Rhagfyr 2029. 

Mae'r MASP yn disgrifio pob cynllun y bwriedir neu y disgwylir ei roi ar waith yn ystod y cyfnod gan roi disgrifiad o'r cymorth y bydd pob cynllun yn ei roi. 

Yn ogystal, mae'r cynllun hefyd yn rhoi trosolwg gweledol o'r cymorth a ddisgwylir yn ystod cyfnod y cynllun, gan gynnwys manylion Taliadau Uniongyrchol Ffermwyr fel Cynllun y Taliad Sylfaenol; cymorth Cynlluniau Buddsoddi Gwledig; y Cyfnod Pontio i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, yn ogystal â'r cynigion a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

Mae'r cyhoeddiad heddiw yn dangos y camau y byddwn yn eu cymryd i gefnogi ein sector amaethyddol, dros y pum mlynedd nesaf, i gyfrannu at amcanion Rheoli Tir yn Gynaliadwy.