Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Heddiw rwy'n cyhoeddi Cynllun Cyllid Trafnidiaeth Cenedlaethol 2015. Mae'r Cynllun yn nodi fy nghynigion ar gyfer buddsoddi mewn seilwaith trafnidiaeth a gwasanaethau dros y pum mlynedd nesaf a'r tu hwnt.
Mae’r Strategaeth Drafnidiaeth Cymru, sy’n nodi’r fframwaith polisi ar gyfer y gwahanol feysydd trafnidiaeth y mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdanynt.
Dim ond os oes gennym gysylltiadau cenedlaethol a rhyngwladol rhagorol y cawn y manteision mwyaf o drafnidiaeth, gan roi mynediad at farchnadoedd, cyflogaeth, addysg a gwasanaethau. Mae darparu system drafnidiaeth sy'n fforddiadwy, yn effeithiol ac yn effeithlon hefyd yn gymorth i drechu tlodi a sicrhau manteision i gymunedau.
Cafodd y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol drafft ei gyhoeddi i ddiben ymgynghoriad cyhoeddus ar 14 Rhagfyr 2014, a daeth yr ymgynghoriad i ben ar 11 Mawrth 2015. Cysylltwyd â thros 300 o sefydliadau a grwpiau cynrychioliadol, a chynhaliwyd sesiwn weithdy bwrpasol gyda chynrychiolwyr grwpiau cydraddoldeb.
Hoffwn fynegi fy ngwerthfawrogiad i'r 162 o bobl a ymatebodd ac a gymerodd ran yn y gweithdy. Daeth yr ymatebion gan amrywiaeth fawr o unigolion a sefydliadau, ac yn gyffredinol roeddent yn cefnogi'r Cynllun drafft, ar yr amod fod arian ar gael i gyflawni ei gynlluniau. Roedd safbwyntiau gwahanol i'w gilydd ynglŷn â beth y dylai'r brif flaenoriaeth o ran cyflenwi ganolbwyntio arno. Roedd rhai eisiau mwy o wariant ar y rheilffyrdd yn hytrach na'r ffyrdd, tra'r oedd eraill yn dweud y dylid cyflenwi'r prif gynlluniau ffyrdd cyn gynted ag y bo modd. Roedd rhai eisiau ffocws daearyddol cryfach, tra'r oedd rhai yn canolbwyntio ar bryderon lleol iawn y dylai awdurdodau lleol. Er na fu modd cysoni pob barn o fewn y Cynllun terfynol, rhoddwyd ystyriaeth i bob sylw.
Un o'r materion sy'n cael ei godi dro ar ôl tro gan yr ymatebwyr oedd arddull y Cynllun drafft a'r angen i gael rhagor o fanylion a'r gallu i'w gyflawni.
Rwyf wedi rhoi ystyriaeth i'r safbwyntiau hyn. Mae'r ymatebwyr eisiau mwy o ganolbwyntio ar gyflawni. Felly, nid dogfen bolisi na phecyn blaenoriaethu yw'r cynllun a gyhoeddir gennyf heddiw. Cynllun Cyllid Trafnidiaeth Cenedlaethol yn canolbwyntio ar gyflawni. Cynllun busnes ydyw ar gyfer y prosiectau y byddwn yn eu cyflenwi dros y tymor byr a'r tymor canolig; sef y 5 mlynedd nesaf.
Mae'r prosiectau a nodir yn ein cynllun busnes yn adlewyrchu rhaglen fuddsoddi uchelgeisiol ar gyfer Cymru. Mae'n nodi sut yr ydym yn bwriadu ariannu'r rhaglen gan ddefnyddio amrywiaeth o ffynonellau ariannol megis y Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd a'r rhaglen Trafnidiaeth Traws-Ewropeaidd (TEN-T) yn ogystal â'r ffynonellau arian o fewn Llywodraeth Cymru.
Rwy'n cydnabod y gallai proffil cyflenwi pob cynllun fod yn agored i'w newid am amryw o resymau megis o ganlyniad i'r prosesau statudol a ddilynir, setliadau cyllidebol yn y dyfodol neu newidiadau o ran arloesi. Bydd angen inni ymateb i amgylchiadau sy'n newid, ac felly bydd y cynllun yn cael ei adolygu'n rheolaidd a'i gyhoeddi fel y bo pawb yn gallu gweld cynnydd ein rhaglen.
Yn ogystal â galluogi rhwydwaith y cefnffyrdd a'r traffyrdd i weithredu'n ddiogel, effeithlon ac effeithiol o ddydd i ddydd, byddaf yn ymchwilio i ffyrdd i wella cydnerthedd, yn enwedig ar hyd coridorau'r A55 a'r M4. Rwyf hefyd yn cynnig rhoi rhagor o bwyslais ar wella ansawdd yr aer, lleihau'r defnydd o ynni a mynd i'r afael â phroblemau sy'n codi o ganlyniad i sŵn traffig.
Pan fo modd sicrhau canlyniadau prosiectau drwy ddulliau eraill, bydd y rhain eisoes wedi cael eu profi ar gyfer rhai o'r prosiectau a restrir yn y Cynllun. Pan fo prosiectau'n dal wrthi'n cael eu datblygu, bydd yr ystyriaethau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol yn cael eu profi fel rhan o'r broses o ganfod yr ateb gorau. Hefyd, ymgynghorir â rhanddeiliaid ynglŷn â phrosiectau mawr.
Mae'r Cynllun yn dangos ymrwymiad i barhau i wella diogelwch y ffyrdd y tu allan i ysgolion sydd ar rwydwaith y cefnffyrdd, yn ogystal â buddsoddi mewn mentrau i ostwng nifer yr anafusion ar y ffyrdd.
Mae rhai eisoes wrthi'n cael eu hadeiladu, megis y darn o'r A465 rhwng Gilwern a Brynmawr, ond mae rhai eraill yn dal yn y cam datblygu. Bydd y buddsoddiad yn cael ei wasgaru ledled Cymru, gyda chynlluniau megis ffordd osgoi Caernarfon i'r Bontnewydd a ffordd osgoi'r Drenewydd yn symud o'r cam datblygu i'r cam adeiladu. Mae yna ymrwymiad i gwblhau'r gwelliannau i goridor yr A465, a pherthyn i'r gorffennol y bydd y broblem pan fo'r Bont ar Ddyfi yn cau gan fod pont newydd yn cael ei chodi.
Bydd gwelliannau mawr hefyd i'r coridorau strategol megis yr A55, yr A40 a'r M4 er mwyn gwella cysylltedd ac i gefnogi datblygiadau economaidd arfaethedig.
Mae'r Cynllun yn cadw'r ddysgl yn wastad rhwng buddsoddiadau mawr yn y ffyrdd, gwelliannau i'r system drafnidiaeth gyhoeddus ac annog teithio cynaliadwy. Mae Metro Rhanbarth Prifddinas Caerdydd yn brosiect pwysig a fydd yn cyflwyno newid mawr yn y modd o gyflwyno system drafnidiaeth sy'n wirioneddol integredig. Gwneir hyn drwy sicrhau gwell cysylltedd er mwyn gwella symudedd yn y ddinas a gwella mynediad i bobl ac i alluogi busnesau i elwa ar grynodrefi. Bydd yr hyn a ddysgwn o ganlyniad i'r Metro yn gynllun ar gyfer rhannau eraill o Gymru.
Mae'r mentrau ar gyfer bysiau a thrafnidiaeth gymunedol yn rhoi'r teithiwr yn ganolog yn y gwasanaethau a ddarperir. Gwneir hyn drwy safonau ansawdd newydd ar gyfer y bysiau, a gyflwynir mewn partneriaeth â gweithredwyr bysiau a thrafnidiaeth gymunedol. Rhoddir pwyslais arbennig ar ddarparu gwell cysylltiadau at safleoedd cyflogaeth a gwasanaethau pwysig, a seilwaith newydd i wella mynediad i ddefnyddwyr, gan gynnwys grwpiau dan anfantais yn y gymdeithas.
Cymerir camau dros y blynyddoedd nesaf i symud tuag at rwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus fwy integredig ledled Cymru, lle mae bysiau'n cwrdd â threnau, pobl yn cael gwell cyfleusterau i gerdded neu feicio er mwyn cysylltu â thrafnidiaeth gyhoeddus, a bydd gwell gwybodaeth a thocynnau clyfar yn cynorthwyo teithio llyfn. Byddwn hefyd yn ceisio atgyfnerthu rhagor ar wasanaethau pellter hir TrawsCymru.
Gan nad yw'r cyfrifoldeb am seilwaith y rheilffyrdd yng Nghymru wedi cael ei ddatganoli, mae'r Cynllun yn cynnwys ymrwymiadau i barhau i bwyso ar Lywodraeth y DU a Network Rail i fuddsoddi yn rhwydwaith y rheilffyrdd. Bydd trydaneiddio a moderneiddio rhwydwaith y rheilffyrdd yn creu potensial sylweddol i weddnewid y system drafnidiaeth yng Nghymru.
Yn ogystal â thargedu gwelliannau i'r seilwaith, mae'r Cynllun yn cynnwys cynigion i fraenaru'r tir ar gyfer cymryd cyfrifoldeb am bennu a dyfarnu'r fasnachfraint nesaf ar gyfer Cymru a'r Gororau.
Mae yna ddatblygiadau cyffrous a heriol o fewn Cynllun Cylliad Trafnidiaeth Cenedlaethol 2015, a byddant yn cymryd ystyriaeth o'r pwerau sydd gan Lywodraeth Cymru eisoes ac a fydd ganddi i ddylanwadu a gwella trafnidiaeth yng Nghymru gyfan. Rwy'n hyderus y bydd y buddsoddiadau dros gyfnod y Cynllun yn darparu system drafnidiaeth sy'n fwy integredig ac yn gynaliadwy ar gyfer pawb ac y bydd yn rhoi hwb i economi Cymru i dyfu.
Rwy'n bwriadu gwneud Datganiad Llafar i'r Aelodau ar y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol pan ddown yn ôl ar ôl toriad yr haf.