Lee Waters, AS, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth
Mae meithrin a chryfhau’r sectorau Sylfaenol, sy’n darparu’r nwyddau a’r gwasanaethau pob dydd y mae pobl Cymru’n dibynnu arnynt, yn ganolog i Gynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer Cryfhau ac Ailadeiladu’r Economi.
Mae pob un ohonom wedi gweld a chydnabod dros gyfnod y pandemig mai sectorau sylfaenol economi Cymru, fel gofal cymdeithasol, bwyd, adwerthu ac adeiladu, yw’r pileri sydd wedi cadw’n cymunedau’n saff a diogel.
Dylai cymryd camau pellach i gryfhau’r sectorau sylfaenol fod yn flaenoriaeth i bob un ohonom yn y misoedd a’r blynyddoedd i ddod. Rwyf heddiw’n cyhoeddi Cynllun Cyflawni sy’n crynhoi’r hyn rydym wedi’i wneud i helpu sectorau sylfaenol ein heconomi yn ystod tymor hwn y Llywodraeth ac yn nodi’r camau ar gyfer datblygu strategaeth at y dyfodol i helpu’n sectorau sylfaenol i dyfu.
Mae cyfraniad hollbwysig y sectorau hyn at ein lles yn cadarnhau ffocws Llywodraeth Cymru ar gryfhau ac ehangu’r rhannau hyn o’r economi.
Mae’r gwaith sydd wedi’i wneud a’i fomentwm yn galonogol. Bydd y Cynllun Cyflawni yn sail ar gyfer glasbrint all ein helpu i barhau i gydweithio â’n partneriaid cymdeithasol a sicrhau bod gweithgarwch pob rhan o’r llywodraeth yn y dyfodol yn canolbwyntio ar ddefnyddio pob polisi a sbardun sydd gennym i gryfhau’r sectorau Sylfaenol.