Neidio i'r prif gynnwy

Dawn Bowden AS, y Gweinidog Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Mehefin 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy'n falch o gyhoeddi Cynllun Cyflawni Gweithlu Gofal Cymdeithasol 2024 i 2027.

Mae'n adeiladu ar yr hyn sydd eisoes wedi'i roi ar waith yn rhan o Cymru Iachach: Ein Strategaeth Gweithlu ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Cafodd y strategaeth hon ei chyhoeddi yn 2020 ac mae'n amlinellu ein cynllun 10 mlynedd o hyd ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. 

Ers ei chyhoeddi, rydym wedi wynebu'r pandemig, yr argyfwng costau byw a'r galw cynyddol parhaus am ofal a chymorth. Er gwaethaf y rhain, mae ein hamcanion yn parhau yr un fath - rydym am i'r gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol gael ei ysgogi, ei ymgysylltu a'i werthfawrogi, a bod ganddo hefyd y gallu, y cymhwysedd a'r hyder i ddiwallu anghenion gofal a chymorth pobl ledled Cymru.

Gan gydweithio â Llywodraeth Cymru, mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi llunio'r Cynllun Cyflawni Gweithlu Gofal Cymdeithasol. Mae'r cynllun yn amlinellu nifer o gamau gweithredu i fynd i'r afael â'r materion penodol sy'n wynebu'r sector gofal cymdeithasol. Mae hefyd yn amlinellu'r cynnydd sydd wedi'i wneud hyd yma ac yn nodi meysydd i'w datblygu ymhellach sy'n seiliedig ar ymwneud â'r sector. Yn 2023, cyhoeddwyd fersiwn ddrafft o'r Cynllun Cyflawni er mwyn ymgynghori arno am gyfnod o dri mis, gan sicrhau bod llais y gweithlu, rhanddeiliaid a'r rhai sy'n derbyn gofal yn cyfrannu'n uniongyrchol at y cynnwys.

Mae'n bwysig ein bod yn adolygu'n rheolaidd y polisïau a'r camau gweithredu yn ein holl gynlluniau ar gyfer y gweithlu i sicrhau ein bod yn dysgu o'r dulliau rydym yn eu gweithredu ac yn adeiladu ar lwyddiant. Rydym felly yn sefydlu grŵp goruchwylio i fonitro'r gwaith o gyflawni a gweithredu'r cynllun. 

Mae'r sector gofal cymdeithasol yn parhau i wynebu heriau difrifol o ran recriwtio a chadw gweithwyr. Wrth inni gasglu barn ynglŷn â'r cynllun, clywsom fod angen gwella telerau ac amodau'r gweithlu cyflogedig. Rwy'n falch felly fod Partneriaeth y Gweithlu Gofal Cymdeithasol bellach wedi'i sefydlu a chynhaliwyd cyfarfod cyntaf y bartneriaeth fis diwethaf. Mae'n dod â'r llywodraeth, cyflogwyr ac undebau at ei gilydd i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol ac ystyried telerau ac amodau ar draws y sector. Mae Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth wrthi'n cael ei gwblhau, ac rwy'n edrych ymlaen at ei rannu.

Hoffwn ddiolch i Gofal Cymdeithasol Cymru am lunio'r cynllun hwn ac i bawb sydd wedi cyfrannu at yr ymgyngoriadau a'r arolygon a rhannu adborth cyffredinol. Mae fy niolch mwyaf i'r gweithlu gofal cymdeithasol. Rydym yn eich gwerthfawrogi ac rwyf wedi ymrwymo i annog ymlaen y newid sydd ei angen arnom i sicrhau bod gennym weithlu medrus, ymroddedig a thosturiol sy'n gallu helpu pobl ledled Cymru.