Neidio i'r prif gynnwy

Lee Waters AC, Dirprwy Weinidog dros Economi a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Tachwedd 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, rydym yn cyhoeddi'r diweddariad blynyddol i Gynllun Cyflawni Ein Cymoedd, Ein Dyfodol. Mae hwn yn amlinellu'r camau gweithredu y mae tasglu'r Cymoedd yn ymrwymedig i'w cymryd yn ei gam cyflawni olaf yn nhymor presennol y Cynulliad.

Rydym am sicrhau ein bod yn parhau i gyflawni'r hyn y dywedwyd wrth y tasglu sy'n bwysig i'r bobl sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymoedd De Cymru drwy ein gweithgareddau ymgysylltu parhaus: darparu swyddi o ansawdd da a'r sgiliau i'w cyflawni; darparu gwasanaethau cyhoeddus gwell a rhoi pwyslais ar gymunedau lleol.

O ystyried yr amserlenni, rwy'n awyddus i'r tasglu ganolbwyntio ei ymdrechion er mwyn gwneud newidiadau go iawn, cynaliadwy i'r bobl sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymoedd De Cymru. Felly, eleni, dim ond y camau gweithredu a gaiff eu cyflawni a / neu eu goruchwylio gan y tasglu y mae'r cynllun yn eu cynnwys. Wedi dweud hynny, mae'r mwyafrif o'r camau gweithredu sydd wedi cael eu tynnu o'r cynllun yn parhau i gael eu datblygu drwy waith cyflawni trawslywodraethol, a byddant yn effeithio ar y canlyniadau y mae'r tasglu'n ceisio eu cyflawni.

Ym mis Gorffennaf, cyhoeddais y bydd ymdrechion y tasglu'n canolbwyntio ar y saith maes blaenoriaeth canlynol:

  • Entrepreneuriaeth a chymorth busnes
  • Economi Sylfaenol
  • Tai
  • Hybiau strategol a sicrhau bod yr A465 yn cael yr effaith economaidd fwyaf posibl
  • Trafnidiaeth
  • Cronfa arloesi tasglu'r Cymoedd
  • Parc Rhanbarthol y Cymoedd

Mae is-grwpiau wedi cael eu sefydlu ar gyfer pob un o'r blaenoriaethau hyn, sy'n gyfrifol am ysgogi cynnydd. Gan fod yr is-grwpiau ond wedi ymgynnull am y tro cyntaf yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf, bydd y Cynllun Cyflawni'n cael ei ddiweddaru ar adegau priodol, pan fydd yr is-grwpiau wedi cael cyfle i ystyried yr hyn y gellid ei gyflawni.

Er mai dim ond tan fis Mawrth 2021 y bydd y tasglu ar waith, rhoddir cryn ystyriaeth i'r ffordd y gall y gwaith barhau ymhell y tu hwnt i'r dyddiad hwn. Rydym am wneud newidiadau hirdymor a chynaliadwy. Rwy'n awyddus i ystyried opsiynau ar gyfer ymgorffori'r gwaith yn y cynlluniau hirdymor ar gyfer Llywodraeth Cymru, yn ogystal â thrwy weithio mewn partneriaeth.

Edrychaf ymlaen yn fawr at barhau i weithio gyda'r bobl sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymoedd De Cymru yn ystod y misoedd sydd i ddod, ac at wneud newidiadau pendant a chadarnhaol.

Mae'r Cynllun Cyflawni i'w weld yn y ddolen ganlynol –

Ein Cymoedd, Ein Dyfodol: cynllun cyflawni