Vaughan Gething AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae mynd i'r afael â phroblem camddefnyddio sylweddau yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, ac mae'n faes y mae'n rhaid i ni ganolbwyntio arno os ydym am wireddu ein huchelgeisiau yn 'Cymru Iachach: ein cynllun Iechyd a Gofal Cymdeithasol'. Dyma broblem iechyd fawr sy'n effeithio ar unigolion, teuluoedd a chymunedau, ac heddiw, mae'n bleser gen i lansio fersiwn derfynol y 'Cynllun Cyflawni ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau 2019-2022'.
Mae'r cynllun cyflawni newydd yn seiliedig ar gyfnod cyn-ymgysylltu manwl a chynhwysfawr ac yna ymgynghoriad ffurfiol gyda'n partneriaid, gan gynnwys defnyddwyr gwasanaethau. Mae'n amlinellu nifer o feysydd â blaenoriaeth rydym wedi ymrwymo i'w cyflawni dros y tair blynedd nesaf. Mae'r safbwyntiau a gasglwyd fel rhan o'r digwyddiadau cyn-ymgysylltu a'r broses ymgynghori, ynghyd â gwerthusiad o strategaeth 10 mlynedd flaenorol Llywodraeth Cymru, ac adroddiad diweddar gan AGIC ar wasanaethau camddefnyddio sylweddau, i gyd wedi helpu i lunio cynnwys y cynllun hwn.
Cafwyd wyth deg pump o ymatebion i'r ymarfer ymgynghori ffurfiol a gynhaliwyd yn ystod mis Gorffennaf ac Awst. Mae'n dda gweld bod 90% o'r ymatebwyr yn cytuno neu'n cytuno'n rhannol bod y ffordd y mae camddefnyddio sylweddau yn cael ei drin fel mater iechyd a gofal cymdeithasol gyda phwyslais cryf ar leihau niwed yn y Cynllun, yn gywir. Hefyd, roedd 88% o'r ymatebwyr naill ai'n cytuno neu'n cytuno'n rhannol mai'r blaenoriaethau allweddol a nodwyd yn y cynllun yw'r rhai cywir.
Roedd yr ymatebion i'r ymgynghoriad hefyd yn nodi rhai meysydd allweddol ychwanegol oedd angen eu hatgyfnerthu ymhellach, ac mae'r rhain wedi cael eu hystyried a'u hadlewyrchu yn y Cynllun terfynol. Er enghraifft, roedd ffocws ar yr angen i gael diffiniad manwl o'r hyn a olygwyd gan ‘leihau niwed’, ac roedd y pwysigrwydd o fuddsoddi mewn dulliau ataliaeth hefyd yn thema a gododd dro ar ôl tro ym mhob agwedd ar y broses ymgynghori. Teimlwyd bod angen rhoi mwy o bwyslais ar blant a phobl ifanc, ac mae hyn hefyd yn cael ei adlewyrchu drwy gamau gweithredu ychwanegol yn y cynllun. Codwyd amrywiaeth o faterion ynghylch y cysylltiadau â meddygon teulu, yn arbennig y stigma sydd ynghlwm â mynd i apwyntiad meddyg teulu, yr hyfforddiant sydd ar gael i feddygon teulu ar gamddefnyddio sylweddau, ac hefyd yr angen i sicrhau bod llwybrau'n bodoli rhwng gwasanaethau gofal sylfaenol a gwasanaethau camddefnyddio sylweddau. Cafodd y mater o boblogaeth o ddefnyddwyr cyffuriau sy'n heneiddio hefyd ei godi drwyddo draw, mewn perthynas â sicrhau bod triniaeth yn cael ei thargedu ac yn addas i'w hanghenion, ac hefyd wrth sicrhau bod eu hiechyd corfforol cyffredinol yn cael ei ystyried. Yn olaf, canolbwyntiodd yr ymatebwyr ar yr anawsterau sy'n bodoli wrth gael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl pan fo ganddynt broblem camddefnyddio sylweddau. Cydnabuwyd bod y grŵp hwn o unigolion yn un cymhleth, a bod angen i ni wneud cynnydd pellach yn y maes. Rydym eisoes wedi sicrhau bod adnoddau ychwanegol ar gael i dargedu'r grŵp hwn. Gofynnwyd i Fyrddau Cynllunio Ardal gyflwyno cynigion ar gyfer prosiectau i gefnogi unigolion oedd â phroblemau iechyd meddwl yn ogystal â phroblemau camddefnyddio sylweddau, ac anghenion o ran tai, ac anogwyd ceisiadau i gysylltu â chynlluniau peilot Tai yn Gyntaf. Caiff canlyniadau'r ceisiadau hyn eu cyhoeddi'n fuan, ond byddant yn golygu buddsoddiad pellach a fydd yn cefnogi ein camau gweithredu yn y cynllun hwn ac yn y 'Cynllun Gweithredu Law yn Llaw at Iechyd Meddwl 2019-2022', a gyhoeddir yn fuan.
Mae'r cynllun hwn yn adeiladu ar y cynnydd da a wnaed yn ystod oes strategaeth flaenorol 2008-18 Llywodraeth Cymru ar gyfer camddefnyddio sylweddau, fel y mae'r gwerthusiad annibynnol a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2018 yn dangos. Roedd y gwerthusiad yn cydnabod, er enghraifft, bod tystiolaeth dda i ddangos bod gwelliant wedi bod o ran darparu gwasanaethau cyson yn y maes hwn. Er enghraifft, yn 2018/19, cafodd 91.5% o bobl a oedd yn dechrau triniaeth eu gweld o fewn 20 diwrnod gwaith, o gymharu â 73% yn 2009/10.
Mae llawer wedi cael ei gyflawni yn wyneb heriau megis prinder adnoddau a natur camddefnyddio sylweddau sy'n newid o hyd, ond mae'r cynllun cyflawni yn nodi bod angen gwneud mwy, yn arbennig os ydym am leihau nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau ac alcohol. Felly, rwyf wedi ymrwymo'n llwyr i barhau i gefnogi'r agenda hwn, a'n nod cyffredinol yn y cynllun hwn yw sicrhau bod pobl yng Nghymru yn ymwybodol o'r peryglon a'r effaith sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau, ac yn gwybod ble y gallant gael gwybodaeth, cymorth a chefnogaeth os oes angen.
Mae ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â chamddefnyddio sylweddau yn amlwg drwy'r cyllid ychwanegol a ddarparwyd gennyf yn y flwyddyn ariannol hon i gefnogi gwasanaethau camddefnyddio sylweddau. Mae cyllid ychwanegol gwerth £2.4 miliwn ar gael yn 2019/20 ar gyfer y saith Bwrdd Cynllunio Ardal sy'n gyfrifol am gomisiynu gwasanaethau rheng flaen lleol. Dyma gynnydd o dros 10% ac mae'n golygu ein bod yn gallu cefnogi ein partneriaid gyda'r arian ychwanegol wrth iddynt wynebu heriau'r dyfodol, gan gynnwys y rheini rydym wedi tynnu sylw atynt yn y cynllun cyflawni newydd. Mae'r buddsoddiad ychwanegol hwn yn golygu ein bod yn darparu cyllid blynyddol o bron i £53m i fynd i'r afael â chamddefnyddio sylweddau, sy'n arwydd clir o ymrwymiad y Llywodraeth hon i gefnogi rhai o'r bobl sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.
Er mwyn mynd i'r afael ag achosion ac effeithiau camddefnyddio sylweddau, mae angen ymrwymiad gan y Llywodraeth gyfan a'n partneriaid sy'n darparu gwasanaethau rheng flaen er mwyn sicrhau ein bod yn cyrraedd ac yn cefnogi pawb sydd mewn angen i gael y lefel gywir o gefnogaeth, ar yr amser iawn ac yn y lle iawn. Dyma agenda heriol a chymhleth, ac mae'r cynllun hwn yn dangos y byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda phartneriaid ar lefel genedlaethol a lleol i sicrhau ein bod yn gweithio mewn ffordd ataliol, integredig a hirdymor er mwyn gwella canlyniadau i unigolion a theuluoedd ar draws Cymru. Heddiw, rwyf hefyd yn cyhoeddi'r Adroddiad Blynyddol ar Gamddefnyddio Sylweddau a'r Rhagolwg ar gyfer 2019.