Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg
Mae Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) wedi bod yn casglu a rheoli'r dreth trafodiadau tir a'r dreth gwarediadau tirlenwi ers dros saith mlynedd.
Ers mynd yn fyw ym mis Ebrill 2018, mae ACC wedi casglu dros £2 biliwn ar ran Llywodraeth Cymru; mae hyn wedi cyfrannu'n uniongyrchol at ariannu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru - ein hysgolion, y GIG a Gofal Cymdeithasol.
Mae Cynllun Corfforaethol ACC yn nodi sut y bydd ACC yn paratoi ar gyfer casglu a rheoli'r Ardoll Ymwelwyr, a datblygu Cofrestr Genedlaethol o Lety i Ymwelwyr, ar yr amod fod y ddeddfwriaeth gysylltiedig yn pasio drwy'r Senedd. Mae hefyd yn nodi sut y bydd ACC yn parhau i ddarparu'r gwasanaeth rhagorol y mae'n adnabyddus amdano ar draws y ddwy dreth ddatganoledig bresennol.
Mae'r cynllun yn cynnwys tri amcan strategol a chyfres o fesurau perfformiad:
- Hawdd – Bydd ACC yn ei gwneud hi'n hawdd gwneud y peth iawn
- Teg – Bydd ACC yn deg ac yn gyson yn y ffordd yr ydym yn darparu ein gwasanaethau
- Cynaliadwy – Bydd ACC yn sefydliad cynaliadwy sy'n canolbwyntio ar y dyfodol
Dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, bydd ACC yn gweithio gydag ystod gynyddol o bartneriaid i gyflawni'r amcanion a'r camau gweithredu a nodir yn eu cynllun corfforaethol.
Darllenwch Gynllun Corfforaethol ACC 2025 i 2028