Rebecca Evans AC, Y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd
Mae Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) wedi bod yn casglu a rheoli'r dreth trafodiadau tir a'r dreth gwarediadau tirlenwi, a ddisodlodd treth dir y dreth stamp a'r dreth dirlenwi yn y drefn honno, yn llwyddiannus ers dros 12 mis erbyn hyn.
Mae'r trethi hyn yn enghraifft glir o sut mae datganoli cyllidol yn galluogi Llywodraeth Cymru i ddatblygu ymagwedd Gymreig at drethiant sy'n cefnogi darparu'r gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel yng Nghymru yr ydym i gyd am eu gweld, gan gynnwys yn ein hysgolion, ein GIG a’n gofal cymdeithasol. Amcangyfrifir y bydd y dreth trafodiadau tir a'r dreth gwarediadau tirlenwi yn codi mwy na £1bn yn y pedair blynedd gyntaf. Bydd ACC yn cyhoeddi ei ystadegau blynyddol cyntaf ar gyfer treth gwarediadau tirlenwi ar 16 Mai, a'n hystadegau manwl terfynol ar gyfer treth trafodiadau tir ar 27 Mehefin.
Ysgrifennais at Gadeirydd ACC ym mis Ebrill i nodi fy nisgwyliadau ar gyfer gwaith ACC yn ystod y cyfnod 2019-20 i 2021-22. Y disgwyliadau hynny yw:
Datblygiad parhaus ACC - adeiladu ar gyflawniadau ACC ac edrych ymlaen i’r tymor hwy. Mae hyn yn cynnwys cefnogi'r gwaith o ddatblygu dull gweithredu mwy effeithiol a chydgysylltiedig ar draws y trethi Cymreig presennol ac ar draws y dirwedd drethi ehangach yn unol ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru yng Nghynllun Gwaith Polisi Treth 2019 a gyhoeddwyd ar 27 Chwefror;
Cyflawni canlyniadau - datblygu cyfres o fesurau perfformiad gweithredol er mwyn nodi pa mor effeithiol y mae'r system drethi yng Nghymru yn gweithredu; a
Gwarediadau anawdurdodedig – y dylai ACC dargedu adnoddau mewn perthynas â’r adnoddau treth gwarediadau tirlenwi ar achosion sy'n mynd i'r afael ag effeithiau amgylcheddol ac sy’n rhoi busnesau tirlenwi cyfreithlon o dan anfantais.
Rwy’n falch bod heddiw'n ddiwrnod cyhoeddi cynllun corfforaethol tair blynedd cyntaf ACC. Mae hwn yn nodi diben y sefydliad i:
- Lunio a darparu gwasanaethau refeniw cenedlaethol Cymru
- Arwain y gwell defnydd o ddata trethdalwyr Cymru ar gyfer Cymru
Mae'r cynllun yn disgrifio pedwar prif amcan y bydd ACC yn canolbwyntio arnynt dros y 3 blynedd nesaf. Mae'r rhain yn canolbwyntio ar:
- Ei gwneud hi’n haws talu'r swm cywir o dreth
- Bod yn deg ac yn gyson yn y ffordd y caiff treth ei chasglu a'i rheoli
- Bod yn fwy effeithlon a chyflawni mewn ffordd sy'n gynaliadwy ac yn rhoi gwerth am arian; a
- Datblygu gallu unigol a chyfunol
Yn ogystal, mae'r cynllun yn cynnwys dau amcan newydd arall sy'n canolbwyntio ar:
- Gwneud y gorau o asedau data trethdalwyr Cymru er budd Cymru; a
- Defnyddio profiad ac arbenigedd ACC er mwyn helpu i gynllunio gwasanaethau refeniw Cymru