Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Awst 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'n bleser gennyf gadarnhau'r gwaith sydd ar y gweill i ddatblygu Cynllun Clinigol Cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau arbenigol yng Nghymru, yn unol â'r ymrwymiad a nodwyd yn Cymru Iachach. Mae tîm o glinigwyr dan arweiniad y Prif Swyddog Meddygol yn ymchwilio i atebion rhyngwladol yn seiliedig ar dystiolaeth i ddarparu gofal iechyd o ansawdd uchel a gwerth uchel.

Bydd y cynllun yn dangos sut y bydd disgwyl i glinigwyr seilio eu gwaith clinigol ar lwybrau a gytunwyd yn genedlaethol, gan weithio ar draws systemau cyfan, gan ystyried gweithgareddau atal ac iechyd poblogaethau yn ogystal â gofal eilaidd a thrydyddol. Bydd y llwybrau’n cael eu llunio a'u cyhoeddi ar-lein i helpu i gefnogi a grymuso dinasyddion a gofalwyr i ofalu amdanynt eu hunain a rheoli eu hiechyd a'u llesiant eu hunain. Caiff y dull gweithredu hwn ei ategu gan arweinwyr clinigol sy’n cydweithio mewn rhwydweithiau amlddisgyblaethol o weithwyr proffesiynol, asiantaethau a sefydliadau'r trydydd sector i ddarparu llwybrau ar lefelau cenedlaethol a lleol. Bydd y llwybrau’n cael eu cynllunio a'u darparu gan ddefnyddio egwyddorion allweddol Cymru Iachach - gofal iechyd darbodus, gofal iechyd seiliedig ar werth a gwella ansawdd ar y raddfa a'r cyflymder cywir a'i gydgynhyrchu gyda chleifion ar lefelau cenedlaethol a lleol.

Bydd y cynllun yn cyfeirio at enghreifftiau ymarferol er mwyn disgrifio sut y dylai darparwyr gofal iechyd Cymru fabwysiadu'r egwyddorion hyn ac er mwyn eu hannog i ddatblygu dulliau gofal iechyd arloesol sydd wedi'u teilwra i anghenion lleol. Disgwylir i'r byrddau iechyd gynhyrchu Cynlluniau Tymor Canolig Integredig sy'n disgrifio cynigion cyflenwi gwasanaethau sy'n adlewyrchu'r themâu a’r egwyddorion hyn, ac y bydd hyn yn rhan o'r broses ar gyfer cytuno ar gynlluniau gyda chorff gweithredol y GIG sydd i'w sefydlu yn fuan.

Gwaith y byrddau iechyd a'r darparwyr gofal iechyd fydd gweithredu'r cynllun yn y pen draw, gan gynnwys y Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol, Addysg a Gwella Iechyd Cymru, Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, Cydweithrediaeth GIG Cymru, clystyrau gofal sylfaenol, Iechyd Cyhoeddus Cymru a rhwydweithiau clinigol, dan arweiniad corff gweithredol y GIG. Bydd byrddau iechyd a Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn cynllunio a dylunio gwasanaethau ar gyfer eu poblogaethau gan ddefnyddio eu gwybodaeth leol, a phob un ohonynt yn mabwysiadu'r un egwyddorion a amlinellwyd yn y cynllun.

Bydd safonau perfformiad yn cael eu gosod yn genedlaethol a'u meincnodi yn erbyn byrddau iechyd eraill neu gyrff iechyd rhyngwladol a gall clinigwyr ddisgwyl cael eu herio ynghylch amrywiad anawdurdodedig fel rhan o weithdrefnau arferol. Bydd data electronig yn cael eu casglu yn ddiofyn, yn ogystal â Mesurau Canlyniadau a Adroddir gan Gleifion (PROM) a Mesurau Profiad a Adroddir gan Gleifion (PREM), a gefnogir gan ymchwil academaidd a digidol ac adnoddau arloesi.

Disgwylir y bydd y cynigion a ddisgrifiwyd yn y cynllun yn destun rownd derfynol o ymgysylltu gyda'r ystod eang o randdeiliaid y gwnaeth eu barn siapio'r Adolygiad Seneddol ac yna Cymru Iachach.

Byddaf yn sicrhau bod aelodau'n cael gwybod am unrhyw gynnydd gyda'r gwaith pwysig hwn.

Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.