Neidio i'r prif gynnwy

Jane Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Hydref 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, ar y cyd â Banc Datblygu Cymru, rwy'n falch o gyhoeddi  cynllun peilot Cartrefi Gwyrdd Cymru. Bydd y cynllun yn helpu aelwydydd ledled Cymru i weithredu mesurau ynni ac arbed carbon, a all ostwng y defnydd o ynni a biliau ynni. Mae hwn yn gam ymlaen wrth gyflawni ein blaenoriaethau i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd gan weithio ar yr un pryd i hybu effeithlonrwydd ynni ac arbed arian i deuluoedd.

Mae lansio'r cynllun yn ailddatgan ein hymrwymiad clir i ddatgarboneiddio cartrefi Cymru ac yn cyfrannu at ein nod ehangach i sicrhau bod gan bawb yng Nghymru fynediad at gartrefi ynni-effeithlon, o ansawdd da a charbon isel. 

Trwy'r cynllun hwn gall perchnogion tai yng Nghymru gael benthyciadau di-log i wneud gwaith datgarboneiddio ac effeithlonrwydd ynni ar eu cartref. Mae hwn yn gam cyffrous i helpu perchnogion tai i wneud dewisiadau gwyrdd ac ynni-effeithlon i wella ansawdd a chysur eu cartref yn yr hirdymor.   

Fel rhan o'r cynllun, gall perchnogion tai gael mynediad wedi'i ariannu at gydlynydd ôl-osod i roi cyngor arbenigol ar ba waith datgarboneiddio sy'n addas ar gyfer eu cartref. Byddant hefyd yn cael eu cefnogi i gael mynediad at gynlluniau cyllido sy'n bodoli eisoes fel y Cynllun Uwchraddio Boeleri a chyllid grant wedi'i dargedu i annog pobl i gymryd camau gwyrdd. Gall gwaith cymwys gynnwys gosod pwmp gwres ffynhonnell aer, inswleiddio waliau allanol a systemau ynni cartref clyfar. 

Mae'r cynllun peilot hwn yn parhau i gefnogi ein dull profi a dysgu o ddatgarboneiddio fel y nodir yn Cymru Sero Net Cyllideb Garbon 2. Mae lansio'r cynllun hwn yn arwydd o ymrwymiad clir i ddatgarboneiddio cartrefi ar draws pob deiliadaeth ac i annog pobl i fanteisio ar ddewisiadau gwresogi carbon isel, fel yr amlinellir yn ein Strategaeth Gwres i Gymru a lansiwyd yn ddiweddar. Bydd hefyd yn cefnogi'r farchnad i ddatblygu a chryfhau ein cadwyni cyflenwi lleol.

Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwneud cais gael cyngor diduedd am ddim drwy ein llinell gymorth Nyth ar 0808 808 2244 (dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 6pm, ac eithrio gwyliau banc) neu ddarganfod mwy yn Cartrefi Gwyrdd Cymru.