Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Mehefin 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar 10 Mai 2018, cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig yn lansio ymgynghoriad ffurfiol am 12 wythnos ynglŷn â’r trefniadau yn y dyfodol ar gyfer cymorth i fyfyrwyr gofal iechyd.

Ar y pryd, ailadroddais fy marn ei bod yn bwysig sicrhau bod ein buddsoddiad mewn addysg a hyfforddiant gofal iechyd yn darparu’r math cywir o gymorth i annog unigolion i ystyried gofal iechyd fel gyrfa. Er mwyn gwneud hyn, rhaid i’r trefniadau cymorth i fynd i’r afael â’r problemau y mae myfyrwyr yn teimlo eu bod yn eu rhwystro rhag ymgymryd ag astudiaethau. Rwyf wedi dweud yn glir bod rhaid i’r trefniadau ar gyfer rhoi cymorth i fyfyrwyr sy’n astudio rhaglenni ym maes gofal iechyd gael eu hystyried law yn llaw â’r newidiadau a wneir o fewn y system ehangach o gymorth i fyfyrwyr.

Roedd yr ymgynghoriad yn gyfle i gael sylwadau, barn a syniadau gan ystod eang o unigolion a sefydliadau. Nid oedd yn syndod bod y rhan fwyaf o’r rhai a ymatebodd yn cytuno y dylai’r cymorth i’r rhai sy’n dilyn rhaglenni astudio ym maes gofal iechyd barhau.

Ar sail yr ymgynghoriad y llynedd, rwy’n credu y byddai’n fuddiol cynnal rhagor o waith ymgysylltu â rhanddeiliaid ar y pedwar prif opsiwn a gododd o’r broses ymgynghori. Byddai trafod yr opsiynau hyn ymhellach yn caniatáu inni adeiladu ar sail yr 80 ymateb a gafwyd i’r ymgynghoriad, gan ystyried hefyd y cymorth ariannol newydd sydd ar gael drwy Cyllid Myfyrwyr Cymru, yn sgil Adolygiad Diamond.

Ar y sail hon, bydd cynllun Bwrsariaeth presennol GIG Cymru yn parhau ar gyfer unigolion sy’n dewis astudio rhaglen gymwys ym maes gofal iechyd yng Nghymru, gan ddechrau ym mlwyddyn academaidd 2020/2021. Mae hyn yn golygu y bydd y pecyn llawn yn dal ar gael i’r rhai a fydd yn ymrwymo i weithio yng Nghymru am hyd at ddwy flynedd ar ôl cymhwyso. Bydd yr estyniad yn ein galluogi i gynnal proses ymgysylltu yn ystod Gorffennaf/Awst eleni, a fydd yn caniatáu i minnau wedyn wneud penderfyniadau, ar sail gwybodaeth lawn, ynglŷn a’r trefniadau ar gyfer Cynllun Bwrsariaeth GIG Cymru yn y dyfodol.

Byddaf yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau i’r Aelodau.