Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Ebrill 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’n bleser gennyf gyhoeddi fy mod yn ymestyn ymhellach y trefniadau presennol ar gyfer Cynllun Bwrsariaeth GIG Cymru ac y byddaf yn cadw’r pecyn presennol ar gyfer carfan ychwanegol ym mlwyddyn academaidd 2023/2024. Drwy ein hymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i gadw Cynllun Bwrsariaeth GIG Cymru rydym yn darparu pecyn o gymorth ariannol i fyfyrwyr gofal iechyd sy’n ymrwymo i weithio yn y sector gofal iechyd yng Nghymru am hyd at ddwy flynedd ar ôl cymhwyso. Mae’r pecyn cymorth hwn yn cwmpasu ffioedd dysgu ac elfen tuag at gostau byw. 

Rydym yn cydnabod bod angen inni ystyried a yw’r pecyn ariannol presennol yn parhau i fod yn atyniadol. Felly, yn ystod y cyfnod hwn o estyniad byddwn yn cynnal ymarfer ymgynghori i sefydlu’r ffordd orau a mwyaf priodol o barhau i gefnogi’r rhai sy’n dewis astudio rhaglenni sy’n gysylltiedig â gofal iechyd yng Nghymru a sicrhau bod system Cymru yn dal i gynnig manteision tebyg i wledydd eraill er mwyn sicrhau mai yng Nghymru y mae myfyrwyr yn dewis astudio.

Drwy gyfuniad o fuddsoddiad parhaus a chynyddol mewn darparu addysg a hyfforddiant i weithwyr iechyd proffesiynol, a pharhau i ddarparu cymorth ariannol i annog unigolion i ystyried gofal iechyd yng Nghymru fel gyrfa werth chweil a gwobrwyol, mae’r Llywodraeth hon yn dangos ei hymrwymiad clir i sicrhau cynaliadwyedd gweithlu’r GIG yn y dyfodol. 

Mae’r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau. Os bydd yr aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn falch o wneud hynny.