Jane Hutt AC, y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip
Nod Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 yw gwella ymateb y sector cyhoeddus i’r problemau hyn. Mae hyn yn gofyn am ddull gweithredu cydlynol, o’r arweinyddiaeth hyd at y gweithwyr proffesiynol ar y rheng flaen.
Mae adran 22 y Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cynghorwyr Cenedlaethol ym maes Trais yn erbyn Menywod, Trais ar sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol baratoi cynllun blynyddol yn nodi sut y maent yn golygu cyflawni eu swyddogaethau yn ysod y flwyddyn ariannol i ddod. Rwyf yn cadarnhau bod y Cynghorwyr Cenedlaethol, Nazir Afzal and Yasmin Khan, wedi cyflwyno eu cynllun cenedlaethol i’w gymeradwyo yn unol â gofynion y Ddeddf.
Rwyf wedi adolygu’r Cynllun Blynyddol ac wedi cytuno iddo gael ei gyhoeddi. Bydd fy swyddogion yn gweithio gyda’r Cynghorwyr Cenedlaethol i fesur cynnydd yn erbyn pob un o’r amcanion a amlinellir yn y cynllun.