Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AC, y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Ionawr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 (y Ddeddf) yn gosod dyletswyddau penodol ar Weinidogion Cymru, Awdurdodau Lleol, Byrddau Iechyd Lleol, Ymddiriedolaethau’r GIG ac Awdurdodau Tân ac Achub. Er mwyn rhoi terfyn ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, mae angen dull gweithredu integredig, o'r arweinwyr i weithwyr proffesiynol y rheng flaen.

Yn rhinwedd adran 22 o'r Ddeddf, rhaid i'r Cynghorwyr Cenedlaethol baratoi cynllun blynyddol sy'n nodi sut maent yn bwriadu cyflawni eu swyddogaethau yn ystod y flwyddyn ariannol ganlynol.   Rwy'n cadarnhau bod y Cynghorwyr Cenedlaethol Nazir Afzal a Yasmin Khan wedi cyflwyno eu Cynllun Blynyddol i'w gymeradwyo o fewn yr amserlen.

Rwyf wedi adolygu'r Cynllun Blynyddol ac wedi cytuno y dylid ei gyhoeddi. Bydd fy swyddogion yn gweithio gyda'r Cynghorwyr Cenedlaethol i nodi dulliau addas o fesur cynnydd yn erbyn pob un o'r amcanion a nodir o fewn y Cynllun.