Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau a Jeff Cuthbert,  Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Gorffennaf 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Rydyn ni’n cyhoeddi heddiw Gynllun Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant cyntaf Llywodraeth Cymru - Adeiladu Dyfodol Mwy Disglair.

Mae’r blynyddoedd cynnar sydd, yn ôl ein diffiniad ni, yn cael ei ddiffinio fel y cyfnod cyn geni plentyn hyd at ddiwedd y Cyfnod Sylfaen (0-7 oed) yn hollbwysig i ddatblygiad y plentyn hwnnw. Mae’n gyfnod hanfodol bwysig i ddatblygiad corfforol, gwybyddol, ieithyddol, cymdeithasol ac emosiynol plant ac yn ôl gwaith ymchwil a wnaed, unwaith y bydd y patrymau meddyliol ac ymddygiadol pwysicaf wedi’u sefydlu, mae’n anodd eu newid ar ôl i blant ddechrau yn yr ysgol. Nid oes yna’r un ffactor penodol, fodd bynnag, sy’n allweddol i wella deilliannau plentyn a’i gyfleoedd yn ddiweddarach yn ei fywyd; profiadau dros gyfnod sy’n cyfri. Er hynny, fe wyddon ni fod tair elfen yn bwysig, sef amgylchedd dysgu da gartref yn y blynyddoedd cynnar, profiadau da cyn dechrau yn yr ysgol, ac ysgol gynradd effeithiol. Mae plentyn sydd wedi profi’r holl brofiadau hyn yn fwy tebygol o ddangos gwell deilliannau gwybyddol a chymdeithasol o’i gymharu â phlant nad ydyn nhw wedi profi ond ambell un o’r profiadau hynny.

Mae gwneud y peth iawn yn y blynyddoedd cynnar yn hanfodol i sicrhau bod plentyn yn cyflawni ac yn manteisio ar gyfleoedd bywyd yn y dyfodol. Dyna’r rheswm ein bod yn cyhoeddi Adeiladu Dyfodol Mwy Disglair sef ein Cynllun Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant cyntaf. Bydd llawer o’r hyn sydd yn y cynllun hwn yn ein helpu i gyflawni llawer o’n targedau Trechu Tlodi ac amcanion y Rhaglen Lywodraethu.

Sicrhau dyfodol disglair i holl blant Cymru yw ein gweledigaeth.

Rydyn ni am i bob plentyn gael dechrau da mewn bywyd; cael addysg dda, cael yr iechyd gorau posib; byw mewn cartref boddhaol; manteisio ar gyfleoedd cyfoethog sy’n cynnwys gweithgareddau chwarae, hamdden, chwaraeon a diwylliannol; gwybod bod rhywun yno i wrando arno, cael ei drin â pharch a theimlo’n ddiogel.

Ein gweledigaeth yw creu Cymru’r dyfodol sy’n gymdeithas decach lle gall pawb gyfrannu hyd eithaf eu gallu. Rydym am roi cyfle i bob un gyrraedd ei botensial a chyfrannu’n bositif i’r gymuned lle mae’n byw. Dydyn ni ddim am weld unrhyw blentyn yn byw yng nghysgod anfanteision tlodi ac anghyfartaledd.

Y teulu a’r rhieni yw’r rhai gorau i fagu eu plant. Mae pob teulu yn wahanol a bydd eu hanghenion yn newid gydag amser. Ein hymrwymiad ni yw helpu teuluoedd a rhieni yn benodol i wneud y gorau hyd eithaf eu gallu dros eu plant ac, os bydd angen cymorth arnynt, sicrhau ei fod ar gael pryd bynnag mae ei angen, ei fod yn integredig ac yn berthnasol i’w hanghenion a’i fod yn cael ei roi mewn modd sy’n parchu diwylliant ac iaith y cartref.

Y nod yw sicrhau bod rhieni/gofalwyr a phawb sy’n helpu i ofalu am blant ifanc yn cael yr wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw, yn cael cymorth pan fydd ei angen arnyn nhw ac yn meddu ar y sgiliau priodol i roi help i bob un o’n plant aros yn iach, datblygu’n dda a chyflawni ei botensial. Gall cymorth yn y blynyddoedd cynnar fod yn hanfodol i ddatblygiad ieithyddol plant beth bynnag y bo’r iaith gyntaf yn y cartref. Rydyn ni am weld ein plant yn cyrraedd yr ysgol yn barod ac yn alluog i ddysgu ac rydyn ni am i bawb sydd â rhan ym mywyd a datblygiad plant feddu ar ddyheadau uchelgeisiol ar eu cyfer.

Mae yna lawer o bobl y tu allan i’r teulu a fydd o bosib yn gweithio gyda phlant a’u teuluoedd, yn gofalu amdanyn nhw neu’n rhoi cymorth iddyn nhw – bydwragedd, ymwelwyr iechyd, nyrsys ysgol, therapyddion, gweithwyr gofal plant, athrawon, cynorthwywyr addysgu, gweithwyr cymdeithasol, gweithwyr iechyd meddwl, meddygon a deintyddion yn eu plith. Mae’n hanfodol bod y tîm hwn o gwmpas y teulu yn gweithio ar y cyd â’i gilydd a bod y bobl hynny sy’n cefnogi plant a theuluoedd yn rhan o weithlu sy’n derbyn hyfforddiant a chefnogaeth dda.

Amlinellir yn y Cynllun Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant hwn y trywydd y bwriadwn ei ddilyn yn ystod y 10 mlynedd nesaf sef dwyn ynghyd raglenni a pholisïau mewn ffordd sy’n fwy cysylltiedig a chydlynol er mwyn cefnogi plant a’u teuluoedd yn ystod y blynyddoedd cynnar. Nodwn hefyd y prif gamau y byddwn yn eu cymryd yn y cyfnod byr a chanolig wrth i ni fynd yn eu blaen tuag at gymdeithas decach. Ein bwriad yw asesu’r hyn a wneir yn unol â’r cynllun bob blwyddyn a chynnal adolygiad llawn ymhen tair blynedd.

Wrth roi’r cynllun hwn ar waith bydd angen i ni un ac oll gydweithio’n nes â’n gilydd gan barhau i weithio gydag angerdd, ymroddiad a bwriad cytûn i helpu ein plant i ffynnu.

Bydd Adeiladu Dyfodol Mwy Disglair: Cynllun Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru ar ôl y lansio. Mae fersiwn PDF ynghlwm er gwybodaeth.