Neidio i'r prif gynnwy

Jack Sargeant MS, Minister for Culture, Skills and Social Partnership

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Ebrill 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

"Rhaglen gwerth £10m i gefnogi dulliau lleol o leihau achosion o anweithgarwch economaidd"

Heddiw, mae’n bleser gen i lansio ein cynlluniau peilot i fynd i’r afael ag anweithgarwch economaidd yng Nghymru. Ymysg ein partneriaid cyflenwi ar gyfer y rhaglen mae awdurdodau lleol Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Cyngor Sir Ddinbych a Chyngor Castell-nedd Port Talbot. 

Bydd y cynlluniau peilot yn cael eu creu a'u cyflawni gan ein partneriaid yn yr awdurdodau lleol er mwyn datblygu a phrofi dulliau lleol o leihau anweithgarwch economaidd. Bydd y cynlluniau yn canolbwyntio ar unigolion economaidd anweithgar ac anabl, neu sydd â chyflyrau iechyd, neu sydd â chyfrifoldebau gofalu. 

Roedd Papur Gwyn "Get Britain Working" Llywodraeth y DU yn ymrwymo i dreialu cynlluniau "Trailblazer" ledled Cymru a Lloegr. Bydd y cynllun yng Nghymru yn darparu hyd at £10 miliwn o gyllid i dreialu ymyriadau newydd a gwella ymgysylltiad, gan ddarparu'r gefnogaeth sydd ei hangen ar bobl i'w helpu i ddod i waith.

Rydym yn deall y gall ail-ymuno â'r gweithlu beri pryder. Mae ein menter wedi'i chynllunio i ddarparu'r offer, yr adnoddau a'r anogaeth sydd eu hangen ar bobl i ymuno neu ail-ymuno â'r gweithlu. Rydym yn cydnabod bod taith pob person yn unigryw, a gall y rhwystrau y maent yn eu hwynebu fod yn gymhleth ac amlochrog. Dyna pam y bydd y dull gweithredu yng Nghymru yn canolbwyntio ar anghenion yr unigolion. Rydym wedi ymrwymo i greu amgylchedd cefnogol lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u grymuso i gymryd y cam nesaf tuag at gyflogaeth.

Diolch i'n holl bartneriaid a rhanddeiliaid am eu hymroddiad a'u cydweithrediad. Gyda'n gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth ystyrlon ym mywydau llawer o unigolion ac adeiladu Cymru gryfach, fwy cynhwysol.

Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau am hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn falch o wneud hynny.