Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg
Yn ffodus, rydym heibio'r gwaethaf o'r argyfwng costau byw. Er hynny, mae llawer o bobl yng Nghymru sy'n dal i wynebu problemau ariannol ac mewn dyledion parhaus. Mae Llywodraeth Cymru bob amser wedi ceisio helpu pobl drwy gyflwyno ystod eang o bolisïau a chynlluniau sy'n rhoi arian yn ôl yn eu pocedi i'w helpu i dalu am eitemau hanfodol bob dydd.
Heddiw, rwy'n lansio ymarfer arbrofol i helpu pobl sydd â dyled treth gyngor, a fydd yn eu helpu i ad-dalu'r hyn sy'n ddyledus ganddynt a gwella eu gwytnwch ariannol yn y dyfodol. Mae'r treial hwn yn adeiladu ar waith pwysig blaenorol yn y maes dan sylw, gan gynnwys dirwyn dedfrydau carchar i ben am beidio â thalu'r dreth gyngor a sefydlu Protocol yn seiliedig ar arferion gorau ar gyfer casglu dyledion treth gyngor mewn partneriaeth â chynghorau Cymru.
Bydd y cynllun newydd hwn, o dan yr enw Cynllun Achub rhag Dyledion Treth Gyngor, yn cael ei gynnig gan Undeb Credyd Smart Money Cymru ac Undeb Credyd Merthyr ar gyfer pobl sy'n byw ym Merthyr Tudful, Casnewydd a Blaenau Gwent. Mae'r cynllun peilot yn cael ei dreialu yn yr ardaloedd hyn i ddechrau oherwydd patrymau ôl-ddyledion treth gyngor a lleoliad yr hybiau undeb credyd, a fydd yn gweinyddu'r cynllun. Os bydd y cynllun yn llwyddiannus yn dilyn gwaith monitro a gwerthuso, mae'n bosibl y bydd yn cael ei ymestyn i rannau eraill o Gymru.
Mae'r cynllun wedi'i gynllunio ar gyfer pobl sydd mewn ôl-ddyledion treth gyngor ac yn wynebu caledi ariannol, ac a fyddai fel arall mewn perygl o ddefnyddio benthycwyr diwrnod cyflog llog uchel neu fenthycwyr arian anghyfreithlon i gael dau ben llinyn ynghyd. O dan y cynllun, byddant yn cael cynnig cymorth pwrpasol a chynlluniau talu fforddiadwy, di-log i'w helpu i ad-dalu'r ddyled treth gyngor a dechrau cynilo ar yr un pryd. Bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi undebau credyd i ddarparu cynlluniau a fydd ar gael i ddechrau i fynd i'r afael â gwerth hyd at £2,000 o ôl-ddyledion treth gyngor dros uchafswm cyfnod ad-dalu o ddwy flynedd. Rwy'n rhag-weld y bydd y cyfnod peilot yn cael ei weithredu tan fis Mawrth 2026.
Mae undebau credyd mewn sefyllfa ddelfrydol i weithio gyda phobl a theuluoedd i'w helpu i wella eu gwytnwch ariannol dros y tymor hwy, yn ogystal â'u helpu i wella eu sgoriau credyd ac i gynilo wrth weithio tuag at glirio eu dyled treth gyngor. Caiff yr undebau hyn eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol i ddarparu asesiadau fforddiadwyedd pwrpasol, sy'n ystyried amgylchiadau personol mewn ffordd wedi'i theilwra. Byddant yn gallu asesu addasrwydd pobl ar gyfer cynllun talu di-log wrth reoli eu costau tai, yn awr ac yn y dyfodol.
Mae cynghorau lleol yn gweithio'n galed i gynnig amrywiaeth o ffyrdd hyblyg i bobl dalu eu treth gyngor a bydd y rhain yn parhau. Fodd bynnag, efallai y bydd angen rhagor o gymorth ar rai pobl sy'n wynebu caledi ariannol, ac rwy'n awyddus i ystyried ffyrdd newydd. Bydd y fenter hon ar gael o 1 Mai ymlaen.
Dylai pobl ymgysylltu â'u cyngor cyn gynted â phosibl os ydynt yn ei chael hi'n anodd talu eu bil treth gyngor, a gwirio a oes cymorth arall ar gael, megis unrhyw ostyngiadau neu gymorth heb ei hawlio ar gyfer aelwydydd incwm isel drwy'r Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn: Talu llai o Dreth Gyngor: holiadur gwirio. Mae cyngor am ddim hefyd ar gael gan Advicelink Cymru