Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ
Ar ddydd Llun 2 Ebrill mae Llywodraeth Cymru’n lansio ei Chynllun Cydraddoldeb Strategol a’i hamcanion cydraddoldeb. Mae’r rhain yn tynnu sylw at sut rydym yn cyflawni ein rhwymedigaethau cyfreithiol yn ogystal â’n hymrwymiad i gydraddoldeb a chynhwysiant.
O dan Ddeddf Cydraddoldeb 2012 mae’r ddyletswydd cydraddoldeb gyffredinol yn darparu bod yn rhaid i awdurdodau cyhoeddus rhestredig, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, ystyried yr angen i:
- Gael gwared ar wahaniaethau, aflonyddu, erledigaeth ac unrhyw ymddygiad arall sy’n cael ei wahardd o dan y Ddeddf;
- Hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng rhai sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a rhai nad ydynt yn rhannu nodweddion; a
- Meithrin cysylltiadau da rhwng rhai sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a rhai nad ydynt yn rhannu nodweddion.
Mae’r Ddeddf yn cwmpasu pobl â ‘nodweddion gwarchodedig’ o ran oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gredo, cyfeiriadedd rhywiol a rhyw (rhywedd).
Ni oedd y Llywodraeth gyntaf ym Mhrydain i gyflwyno dyletswyddau cydraddoldeb penodol i helpu awdurdodau cyhoeddus i gyflawni’r ddyletswydd cydraddoldeb gyffredin. Ffocws y dyletswyddau hyn yw’r ymrwymiad i bennu amcanion cydraddoldeb sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau, wedi’u llywio trwy ymgysylltu’n eang ag unigolion a sefydliadau ac wedi’u hategu gan dystiolaeth gadarn. Maent yn cynnig cyfle unigryw i sicrhau bod cydraddoldeb a chynhwysiant yn rhan annatod ac yn ganolog i’r ffordd y mae awdurdodau cyhoeddus yn meddwl, cynllunio ac yn gweithredu bob dydd.
Mae’r ymgysylltiad eang hwn wedi llunio ein hamcanion ac wedi cadarnhau ein blaenoriaethu o ran y meysydd anghydraddoldeb y dylid canolbwyntio arnynt. Rwyf am weld holl ddinasyddion Cymru’n cael eu parchu a’u cynnwys fel aelodau cyfartal, a phawb yn cael y cyfle i wireddu eu potensial.
Un o’r egwyddorion craidd sy’n ategu’r Rhaglen Lywodraethu yw datblygu cynaliadwy; mae cydraddoldeb a chynhwysiant yn hanfodol i hyn ac yn rhan annatod o’r Rhaglen yn ogystal ag ym Mhennod 8, Cydraddoldeb. Bydd y Rhaglen Lywodraethu’n cael ei diweddaru i adlewyrchu’r amcanion cydraddoldeb.
Un o’r dimensiynau allweddol ar gyfer sicrhau lles yw cymryd camau i fynd i’r afael â thlodi. Bydd Llywodraeth Cymru’n cyflawni hyn drwy ei Chynllun Gweithredu Mynd i’r Afael â Thlodi a byddwn yn sicrhau bod y Cynllun Cydraddoldeb Strategol a’r Cynllun Gweithredu Mynd i’r Afael â Thlodi yn asio â’i gilydd ac yn ategu ei gilydd.
Caiff yr amcanion cydraddoldeb eu monitro a’u hadolygu ledled Llywodraeth Cymru er mwyn olrhain ein cynnydd. Bydd ein hadroddiadau blynyddol ar gydraddoldeb yn dangos yr hyn a gyflawnwyd a’r hyn sydd angen ei wneud o hyd. Bydd hyn yn sicrhau bod ein gwaith ar anghydraddoldebau a chynhwysiant yn dryloyw ac yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth.
Bydd Llywodraeth Cymru’n gweithio’n agos â’r sector cyhoeddus ledled Cymru i hyrwyddo dyletswyddau cydraddoldeb Cymreig penodol a bydd ym ymgymryd â rôl gydgysylltiedig i sicrhau bod amcanion awdurdodau’n adlewyrchu blaenoriaethau lleol yn ogystal â sicrhau dull cydlynol wrth ymateb i’r agenda gydraddoldebau genedlaethol.
Byddaf yn gwneud Datganiad Llafar ar 24 Ebrill a byddaf yn hapus i ateb cwestiynau bryd hynny. Rwy’n amgáu copïau o’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol gyda’r Datganiad Ysgrifenedig hwn.