Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau a Lesley Griffiths, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Mawrth 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yn Adeiladu Dyfodol Mwy Disglair: Cynllun Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant (2013), gwnaeth Llywodraeth Cymru ymrwymiad i ymgynghori ar y ffordd orau ymlaen ar gyfer gweithlu’r blynyddoedd cynnar, gofal plant a chwarae yng Nghymru.    

Er mwyn ein helpu i ddatblygu’r sector yn y dyfodol, rydym wedi paratoi a chyhoeddi cynllun drafft 10 mlynedd ar gyfer y gweithlu, gan gynnal ymgynghoriad ar y cynllun hwnnw yn ystod ail hanner 2014.  Roedd y cynllun yn pennu ein hamcanion ar gyfer  y gweithlu blynyddoedd cynnar, gofal plant a chwarae, a sut y byddem yn mynd ati i gyflawni ein huchelgais.

Uchelgais yw hon i ddatblygu gweithlu dwyieithog sydd â lefel uchel o sgiliau ym meysydd addysg gynnar, gofal plant a chwarae, er mwyn gwneud gyrfa yn y meysydd hynny’n yrfa ddeniadol.

Roedd ein proses ymgynghori’n ymdrin â phrif egwyddorion y cynllun drafft 10 mlynedd ar gyfer y gweithlu blynyddoedd cynnar, gofal plant a chwarae. Roedd yn disgrifio’r egwyddorion yn fanwl o dan dair thema:

  • Arweinyddiaeth
  • Denu darpar ymarferwyr o safon uchel i ymuno â’r gweithlu;  
  • Codi sgiliau a safonau ymhlith y gweithlu presennol.
Cafodd y cynllun drafft 10 mlynedd ei ddosbarthu’n eang ymhlith y sectorau allweddol, a hynny drwy nifer o rwydweithiau, gan dargedu amrywiaeth o sefydliadau ac unigolion, gan gynnwys ymarferwyr, awdurdodau lleol, sefydliadau addysg uwch ac ysgolion. Roedd mwyafrif y rheini a gymerodd rhan yn yr ymgynghoriad yn cefnogi dyheadau’r cynllun drafft hwn.

Mae nifer o bolisïau newydd wedi codi yn ystod y misoedd diweddar, ac mae’n hanfodol bwysig bod y polisïau hyn yn cael eu hystyried yn llawn er mwyn sicrhau eu bod yn gydnaws â’r angen i ddatblygu a chyflawni dyheadau’r cynllun 10 mlynedd ar ei wedd derfynol.  Nodir isod rai o’r meysydd allweddol sy’n cael eu hystyried:    

Y Cyfnod Sylfaen  
Sefydlwyd grŵp o arbenigwyr ar y Cyfnod Sylfaen i ddatblygu a gwella arferion yn y Cyfnod hwnnw, a sicrhau bod y cwricwlwm yn cael ei ddarparu mewn modd mwy cyson ar draws holl ysgolion a lleoliadau Cymru. Ym mis Mawrth, byddwn yn cyhoeddi’r Cynllun Gweithredu ar gyfer y Cyfnod Sylfaen a luniwyd gan y Grŵp Arbenigol hwn. Bydd y cynllun yn pennu camau gweithredu ar lefel uchel er mwyn hyrwyddo a rhannu arferion effeithiol a ffyrdd o sicrhau datblygu parhaus ymhlith y staff. Caiff y cynllun hwn ei ystyried yn llawn wrth inni ddatblygu fersiwn derfynol y Cynllun ar gyfer y Gweithlu Blynyddoedd Cynnar, Gofal Plant a Chwarae.  


Gofal Plant a Chwarae
Mae darparu gofal plant sy’n fforddiadwy, hygyrch ac o ansawdd uchel ar gyfer pob teulu yng Nghymru sydd ei angen, yn parhau’n un o flaenoriaethau allweddol Gweinidogion Cymru. Mae gofal plant yn elfen bwysig o’r ymgyrch i fynd i’r afael â thlodi, gan ei fod yn helpu rhieni i allu manteisio ar gyfleoedd i ymgymryd â hyfforddiant, cael swydd, neu barhau i weithio.  

Mae gennym amrywiaeth o fentrau sydd eisoes ar waith i ddarparu gofal plant ychwanegol.   Er enghraifft, mae gan bob plentyn 3-4 oed yr hawl i gael o leiaf 10 awr o addysg gynnar yn y Cyfnod Sylfaen am ddim, ac mewn ardaloedd Dechrau’n Deg mae pob plentyn 2-3 oed yn gymwys i gael 12 ½ awr o ofal plant am ddim bob wythnos (39 wythnos) ac o leiaf 15 sesiwn yn ystod gwyliau’r ysgol.  Rydym hefyd wedi darparu cymorth grant gwerth £2.7 miliwn i awdurdodau lleol yn 2014/15, a £2.3 miliwn ychwanegol yn y flwyddyn ariannol bresennol ar gyfer darparu gofal plant fforddiadwy o safon i helpu teuluoedd cyn ac ar ôl y diwrnod ysgol. Ar ben hynny, rydym yn darparu £4.3 miliwn dros gyfnod o dair blynedd i sefydliadau yn y trydydd sector er mwyn datblygu atebion gofal plant hyblyg ac arloesol sy’n bodloni anghenion teuluoedd.

Cynnydd ar gyfer Llwyddiant
Mae gwella sgiliau’r gweithlu blynyddoedd cynnar a gofal plant yn un o brif uchelgeisiau’r cynllun ar gyfer y gweithlu. Er mwyn gwireddu’r uchelgais hon, rydym wrthi’n datblygu’r rhaglen Cynnydd ar gyfer Llwyddiant, gyda chymorth gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop. Bydd y rhaglen yn cynnig cymorth i’r rheini sy’n ymarferwyr eisoes, gan roi cyfle iddynt wella eu sgiliau ac ennill cymwysterau Lefel 2 i 6 a gydnabyddir gan y sector. I’r perwyl hwn rydym wedi sicrhau £4.1 miliwm o gyllid Ewropeaidd, ac wedi neilltuo £2.2 miliwn ychwanegol ar gyfer y Gorllewin a’r Cymoedd.  Rhagwelwn y bydd cymorth tebyg ar gael i ymarferwyr yn y Dwyrain.  

Bydd Cynnydd ar gyfer Llwyddiant hefyd yn helpu i gyflawni amcan Strategaeth y Gymraeg o ran sicrhau bod Cymru’n wlad lle mae addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg yn rhan annatod o’r seilwaith addysg.

Adolygiadau Annibynnol
Gwnaed argymhellion yn  yr Adolygiad Annibynnol o Gofrestru, Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Plant ac Addysg Gynnar (Adolygiad Graham), a gynhaliwyd gan yr Athro Karen Graham, a chafodd y rhain eu hystyried wrth inni ddatblygu’r cynllun drafft 10 mlynedd. Bydd yr argymhellion hyn, ochr yn ochr â’r datblygiadau mewn polisi a nodir uchod, yn ystyriaeth bwysig wrth inni fynd ati i lunio’r cynllun terfynol.          

Y camau nesaf  
Wrth lunio fersiwn derfynol y cynllun 10 mlynedd, cydnabyddir bod ein cynigion yn uchelgeisiol, ond hefyd yn hanfodol os ydym am wella ansawdd y gofal yr ydym yn ei gynnig i’n plant. Wrth inni fynd ati i gyflawni ein dyheadau tymor hir ar gyfer y gweithlu blynyddoedd cynnar, gofal plant a chwarae yng Nghymru, mae’n bwysig ein bod yn cydnabod yr hinsawdd ariannol heriol sydd ohoni. Felly mae’n hanfodol bwysig ein bod yn gwneud penderfyniadau cytbwys ynghylch y ffordd orau o fuddsoddi ein hadnoddau cyfyngedig er mwyn sicrhau bod ein hymdrechion i wireddu dyheadau’r cynllun 10 mlynedd yn llwyddiannus. Dros y misoedd nesaf, bydd ein swyddogion yn parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid wrth inni weithio i ddatblygu ein cynllun 10 mlynedd terfynol ar gyfer y Gweithlu Blynyddoedd Cynnar, Gofal Plant a Chwarae yng Nghymru.