Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Hydref 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Gyllideb Ddrafft 2018-19, Cynigion Manwl.

Mae hyn yn dilyn Cyllideb Ddrafft 2018-19, Cynigion Amlinellol – Cyllideb Newydd i Gymru a gyhoeddwyd ar 3 Hydref. Mae Cyllideb 2018-19 yn nodi carreg filltir bwysig arall yn nhaith datganoli Llywodraeth Cymru a'r Cynulliad Cenedlaethol. Yn ogystal ag adlewyrchu'r pwerau trethu a benthyca newydd sy'n cael eu datganoli i Gymru, mae'r Gyllideb hefyd yn adlewyrchu'r broses newydd ar gyfer y Gyllideb y cytunwyd arni rhwng Pwyllgor Cyllid y Cynulliad Cenedlaethol, Comisiwn y Cynulliad a Llywodraeth Cymru.

Yn unol â'r trefniadau hyn, roedd y Gyllideb ddrafft amlinellol yn nodi ffynhonnell cyllid Llywodraeth Cymru – y grant bloc gan Lywodraeth y DU, benthyca a threthu – a sut y bydd y cyllid hwn yn cael ei ddyrannu rhwng y portffolios Gweinidogol gwahanol.

Mae'r Gyllideb ddrafft fanwl yn nodi sut y bydd pob portffolio yn dyrannu ei gyllideb yn unol â'r blaenoriaethau a amlinellir yn ein rhaglen lywodraethu Symud Cymru Ymlaen a'n strategaeth genedlaethol Ffyniant i Bawb. Mae'r cynlluniau manwl hefyd yn adlewyrchu’r cytundeb gyda Phlaid Cymru ar y Gyllideb. Bydd y cynigion manwl hyn yn destun craffu gan bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol dros yr wythnosau nesaf.

Mae cynigion manwl y Gyllideb ddrafft, gan gynnwys tablau manwl y llinell wariant yn y gyllideb a dogfen naratif fanwl y Gyllideb drafft ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg ar wefan Llywodraeth Cymru.