Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Rhagfyr 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Fel y gŵyr yr Aelodau, cyhoeddais ar 22 Hydref  "Cwricwlwm i Gymru, cwricwlwm am oes", sef fy nghynllun i fwrw ymlaen â'r argymhellion a bennwyd gan yr Athro Graham Donaldson yn ei adroddiad Dyfodol Llwyddiannus. Mae'r cynllun yn disgrifio sut y byddwn yn creu ein cwricwlwm newydd, eang, cytbwys, cynhwysol a heriol gyda'n gilydd.

Er mwyn gallu cyflawni holl fanteision Dyfodol Llwyddiannus er lles ein plant a'n pobl ifanc bydd gofyn i ni ymgysylltu'n helaeth a chydweithio â'r proffesiwn addysgu, Estyn, awdurdodau lleol, academyddion, rhieni a gofalwyr ac ystod eang o randdeiliaid, arbenigwyr a grwpiau eraill.  

Bydd Rhwydwaith yr Ysgolion Arloesi yn chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o gynllunio'r cwricwlwm a'r trefniadau asesu newydd, a chyhoeddais ar 5 Tachwedd fanylion y grŵp cyntaf o ysgolion a fydd yn rhan o'r rhwydwaith hwnnw. Mae partneriaid eraill allweddol ynghlwm wrth ddatblygu'r cwricwlwm, fodd bynnag, gan gynnwys Estyn.

Mae'n gwbl allweddol fod yr Arolygiaeth yn rhan o'r datblygiadau hyn fel y gall gynnig ei chefnogaeth a'i manylrwydd wrth i fframwaith y cwricwlwm newydd gael ei gynllunio a'i ddatblygu. Trwy hyn bydd Llywodraeth Cymru'n elwa ar arbenigedd Estyn a bydd cyfle i'r Arolygiaeth gyfrannu at y gwaith o ddatblygu'r cwricwlwm newydd.  Gan y bydd Estyn yn rhan o'r gwaith o'r dechrau'n deg bydd modd iddi ddefnyddio'r wybodaeth ar gyfer addasu'r fframwaith arolygu a'r fethodoleg gysylltiedig.

Gan fod Estyn yn bartner mor ganolog yn y broses hon rwy'n cynnig ein bod yn cyflwyno dull mwy hyblyg o arolygu drwy ddiwygio rheoliadau. Bydd hyn yn golygu bod Estyn yn arolygu ysgolion a darparwyr eraill unwaith bob 7 mlynedd yn hytrach nag unwaith bob 6 blynedd ar gyfer un cylch arolygu. Byddaf i, ar y cyd ag Estyn, yn adolygu hyd y cyfnod arolygu ar ôl hynny.  

Rhagwelaf y bydd y newidiadau hyn yn dod i  rym ym mis Medi 2016. Bydd y newid hwn yn galluogi Estyn i ymateb mewn modd mwy hyblyg i'w hymgynghoriad diweddar ar arolygiadau a bydd yn ei galluogi i ystyried y ffordd orau o ddefnyddio adnoddau arolygu er mwyn cyflawni'r newidiadau y mae gwir eu hangen.

Mae fy swyddogion hefyd wrthi'n trafod ag Estyn bosibilrwydd newid ffocws y cylch gwaith blynyddol, er mwyn sicrhau ei fod yn fwy strategol ac yn canolbwyntio rhagor ar Dyfodol Llwyddiannus.

Byddaf yn rhoi gwybod i chi am unrhyw ddatblygiadau.