Neidio i'r prif gynnwy

Y Prif Weinidog, Vaughan Gething AS
Eluned Morgan AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Mehefin 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rydym wedi gwneud cynnig dyfarniad cyflog ffurfiol i bob un o dair cangen ymarfer BMA – sef meddygon iau, meddygon SAS a meddygon ymgynghorol – ar gyfer 2023-24, yn dilyn negodiadau llwyddiannus dros y ddau fis diwethaf.

Hoffem ddiolch i aelodau timau negodi'r BMA a Chyflogwyr y GIG am natur adeiladol y trafodaethau, sydd wedi ein galluogi i wneud y cynigion ffurfiol hyn, a fydd bellach yn cael eu cyflwyno i aelodaeth BMA i'w hystyried. Mae pob un o dri phwyllgor cynrychiadol etholedig BMA yn argymell bod eu haelodau’n derbyn y cynigion.

Er bod streiciau wedi cael eu gohirio yn ystod y negodiadau, os caiff y cynigion hyn eu derbyn, fe ddaw â'r anghydfod a'r gweithredu diwydiannol hwn i ben, sy'n golygu y bydd meddygon yn dychwelyd i'r gwaith yng Nghymru er budd cleifion a gwasanaethau'r GIG.

Mae'r negodiadau wedi bod yn gadarn ac er mai'r nod oedd dod ag anghydfod 2023-24 i ben ac atal streiciau pellach, mae'r cynigion hyn hefyd yn sicrhau bod y buddsoddiad ychwanegol yng nghyflog meddygon yn cael ei gydbwyso yn erbyn ymrwymiadau tuag at ddiwygiadau gweithredol, sy'n ceisio mynd i'r afael â chynhyrchiant ac effeithlonrwydd a chyflawni diwygio'r contract yn y dyfodol. Bydd y dyfarniadau cyflog hyn, os cânt eu derbyn, hefyd yn helpu i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau yng ngweithlu meddygol uwch y GIG. 

Mae'r cynigion hyn ar derfyn yr hyn y gallwn ei fforddio. Rydym wedi bod yn agored ac yn dryloyw ynghylch ein cyfyngiadau ariannol gyda'n partneriaid cymdeithasol yn ystod y negodiadau. 

Meddygon Iau

Mae'r cynnig yn cynnwys codiad cyflog o 12.4%, wedi'i ôl-ddyddio i 1 Ebrill 2023. Mae hyn yn cynnwys y codiad cyflog o 5% ar gyfer 2023-24, sydd eisoes wedi'i dalu. Os cytunir arno, mae'r cynnig hwn y tu allan i argymhelliad y Corff Adolygu Meddygon a Deintyddion (DDRB) ar gyfer 2023-24. Mae'r cynnig hwn yn cyd-fynd â'r dyfarniad cyflog a gafodd ei dderbyn gan feddygon iau yn yr Alban.

Bydd pob parti yn ymrwymo i ailymuno â negodiadau ar y contract cyn gynted ag y bo'n ymarferol pan fydd pwyllgor meddygon iau newydd BMA yn cael ei ethol eleni gyda'r uchelgais o ddod i gytundeb a fyddai, yn amodol ar gymeradwyaeth aelodau'r BMA, yn dechrau cael ei roi ar waith yn 2025-26. Bydd negodiadau'r contract yn adeiladu ar y contract a wrthodwyd yn 2022, tra'n cydnabod y bydd angen newidiadau sylweddol. 

Meddygon ymgynghorol

Mae Llywodraeth Cymru a phwyllgor meddygon ymgynghorol BMA Cymru wedi cytuno bod yr amser yn iawn i ddiwygio'r strwythur cyflog presennol, sydd dros 20 mlwydd oed. Bydd strwythur cyflog modern yn cefnogi recriwtio a chadw yn well, yn gwobrwyo perfformiad yn well, yn mynd i'r afael â'r bwlch cyflog rhywedd, ac yn cefnogi dilyniant drwy yrfa meddygon ymgynghorol yng Nghymru. Caiff y strwythur cyflog newydd ei ôl-ddyddio i 1 Ionawr 2024. Os cytunir ar y cynnig hwn, bydd y tu allan i argymhelliad DDRB ar gyfer 2023-24.

Caiff cerdyn cyfradd y BMA ei dynnu'n ôl os bydd y cynnig yn cael ei dderbyn a hynny ar unwaith ar lefelau lleol a chenedlaethol yng Nghymru.

Mae'r holl bartïon wedi cytuno bod polisi cynllunio swyddi Cymru gyfan yn cael ei ddatblygu a'i roi ar waith yn ystod 2024-25 ynghyd â thempled recriwtio GIG Cymru ar gyfer meddygon ymgynghorol sydd newydd gael eu recriwtio yng Nghymru.

Cytunwyd hefyd y bydd gwaith cwmpasu yn cael ei wneud yn ystod 2024-25 i baratoi ar gyfer trafodaethau ar ddiwygio'r contract. Bydd angen i unrhyw gontract diwygiedig gael ei foderneiddio yn llawn yn erbyn gofynion GIG Cymru yn awr ac yn y dyfodol er budd cleifion a llesiant meddygon ymgynghorol.

Meddygon SAS

Contract Meddygon Arbenigol 2021

Yn 2021, cytunwyd ar gontract meddygon arbenigol newydd mewn partneriaeth gymdeithasol a'i weithredu fel rhan o gytundeb cyflog aml-flwyddyn. Mae'r cynnig hwn yn mynd i'r afael â'r anghydbwysedd anfwriadol yn y raddfa gyflog i feddygon ar gontract 2021 a chontract 2008 i sicrhau cysondeb a thegwch ar draws y gweithlu meddygon arbenigol. 

Bydd y buddsoddiad hwn yn annog mwy o feddygon i ymgymryd â'r contractau newydd, sy'n cynnig telerau ac amodau wedi'u moderneiddio i sicrhau bod meddygon a chleifion yn elwa o'r contract a'r amodau gwaith diwygiedig.

Contract Meddygon Arbenigol 2021

Yn 2021, cytunwyd ar gontract newydd ar gyfer meddygon arbenigol mewn partneriaeth gymdeithasol a'i roi ar waith fel rhan o gytundeb cyflog aml-flwyddyn. Mae'r cynnig hwn yn mynd i'r afael â'r anghydbwysedd anfwriadol rhwng graddfeydd cyflog meddygon arbenigol a graddfeydd cyflog arbenigwyr i sicrhau bod llwybr o ran dilyniant gyrfa yn cael ei gynnal ar draws y gweithlu. Bydd yn datrys y mater presennol sy'n bodoli lle mae pwynt cyflog uchaf graddfa gyflog meddyg arbenigol 2008 yn uwch na'r cyflog cychwynnol ar gyfer y radd arbenigol.

Arbenigwr Cyswllt (contract 2008)

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrando ar bwyllgor SAS o BMA Cymru ac wrth gydnabod bod hon yn radd gaeedig, mae'n cydnabod y rhesymeg i arbenigwyr cyswllt gael lefelau tebyg o gyflog yn erbyn graddfa gyflog meddygon ymgynghorol, o gofio sgiliau a phrofiad arbenigwyr cyswllt sy'n gweithio ar rotas meddygon ymgynghorol. 

Mae'r cynnig yn cynnwys codiad pellach o 4% i raddfeydd cyflog 2022-23, gan wneud cyfanswm o 9% ar gyfer 2023-24 wedi'i ôl-ddyddio i 1 Ionawr 2024 ar gyfer arbenigwyr cyswllt.

Caiff cerdyn cyfradd y BMA ei dynnu'n ôl os bydd y cynnig yn cael ei dderbyn a hynny ar unwaith ar lefelau lleol a chenedlaethol yng Nghymru.

Bydd manylion llawn pob cynnig cyflog yn cael eu cyfleu drwy BMA Cymru i'w haelodau.

Hoffem achub ar y cyfle hwn i annog meddygon sydd ag unrhyw gwestiynau am y cynnig i siarad â'u cynrychiolwyr yn BMA gan fod hwn yn gynnig teg i fynd i'r afael â'r anghydfod cyflog. 

Rydym yn edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth gymdeithasol gyda holl undebau GIG ac iechyd i drafod dyfarniad cyflog 2024-25.