Carl Sargeant, Gweinidog Tai ac Adfywio
Heddiw rwy’n cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ynghylch y dreth gyngor ac ail gartrefi. Mae’r crynodeb ar gael yma:
http://wales.gov.uk/consultations/localgovernment/council-tax-second-homes/?status=closed&lang=cy
Cafwyd nifer sylweddol o ymatebion i’r ymgynghoriad, yn mynegi amrywiaeth eang o safbwyntiau. Daeth bron i 200 ymateb i law.
Ar ôl ystyried y mater a meddwl am yr effaith y gall ail gartrefi ei chael ar y cyflenwad tai pan fo eisoes yn anodd i lawer o unigolion a theuluoedd gael eu cartref eu hunain, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno diwygiad i’r Bil a fyddai’n rhoi pŵer disgresiwn i Awdurdodau Lleol godi cyfradd uwch o Dreth Gyngor ar ail gartrefi.
Er bod yr economi leol a thwristiaeth yn gallu elwa ar ail gartrefi, mae’r ffaith nad oes unrhyw un yn byw ynddynt am ran o’r flwyddyn yn siŵr o gael effaith niweidiol ar ddarparwyr gwasanaethau lleol ac yn cyfyngu ar nifer y tai fforddiadwy sydd ar gael i’r bobl leol. Mewn ardaloedd lle ceir nifer uchel o ail gartrefi hwyrach y bydd Awdurdodau Lleol yn penderfynu bod angen i’r rhai sy’n berchen ar fwy nag un cartref dalu premiwm Treth Gyngor er mwyn gwneud cyfraniad ychwanegol at y gwasanaethau lleol a thai fforddiadwy drwy’r system drethu leol.
Nid yw Llywodraeth Cymru yn gwrthwynebu i bobl fod yn berchen ar fwy nag un cartref. Serch hynny, mae’n rhaid inni ystyried anghenion y bobl leol sy’n methu â chael hyd i gartref fforddiadwy iddynt eu hunain a’u teuluoedd.
Mae amrywiaeth eang y safbwyntiau a fynegwyd yn yr ymatebion i’r ymgynghoriad wedi ysgogi Llywodraeth Cymru i ystyried pa ddull gweithredu sydd fwyaf priodol dan yr amgylchiadau hyn. Drwy’r cynigion hyn felly, rydym yn bwriadu rhoi pwerau disgresiwn i Awdurdodau Lleol a fydd yn golygu bod pob Cyngor yn gallu ystyried effeithiau ail gartrefi ar eu cymunedau a phenderfynu wedyn a ydynt am weithredu’r polisi neu beidio. Bydd rhaid i bob Cyngor esbonio a chyfiawnhau ei benderfyniad i’r trigolion lleol sy’n talu’r Dreth Gyngor.