Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Ebrill 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ar 3 Medi 2012, cyhoeddais ymgynghoriad ar ddiwygio sut y caiff dyddiadau tymhorau ysgol eu pennu ar gyfer pob ysgol a gynhelir yng Nghymru.  Heddiw 16 Ebrill 2013 byddaf yn cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad.  

Mae’r ymgynghoriad hwn yn rhoi manylion y cynigion ar gyfer diwygio sut y caiff dyddiadau tymhorau ysgol eu pennu ar gyfer pobl ysgol a gynhelir yng Nghymru.  Bydd fy swyddogion yn parhau i weithio gyda phrif randdeiliaid wrth i gynigion gael eu datblygu i gysoni dyddiadau tymhorau ysgol.  

Mae’r rhain yn newidiadau pwysig ac yn rhan o’r pecyn o ddiwygiadau yr wyf yn bwriadu eu dwyn ymlaen ar gyfer addysg drwy ddeddfwriaeth yn ddiweddarach yn nhymor y Cynulliad hwn.